Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Sulgwyn

Archwilio ystyr yr wyl Gristnogol, sef y Sulgwyn.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ystyr yr wyl Gristnogol, sef y Sulgwyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Dewiswch nifer o blant sy’n gallu siarad iaith arall heblaw Cymraeg a Saesneg. Gofynnwch iddyn nhw baratoi darn bach i’w ddarllen neu i’w ddweud, rhywbeth fel: Dyma sut rydyn ni’n dweud helo. Gobeithio y cewch chi ddiwrnod da iawn / This is how we say hello. I hope you have a very good day. (Neu trefnwch gyfieithiadau eich hun o frawddeg mewn gwahanol ieithoedd i blant eu darllen i chi.)

  • Os ydych chi’n gallu siarad iaith arall, cyflwynwch y gwasanaeth gan ddefnyddio’r iaith honno. Mae’r ymateb yn eithaf diddorol, fel rheol!

  • Fe fyddai OHP neu fwrdd gwyn yn ddefnyddiol i ddarllen y gerdd gyda’ch gilydd, os byddwch chi’n dewis ei defnyddio.

Gwasanaeth

  1. Eglurwch fod rhai plant yn mynd i’ch helpu chi, a gofynnwch i bawb wrando’n astud ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Cyflwynwch bob un yn ei dro, a gofynnwch iddyn nhw ddweud eu cyfarchiad, a gwyliwch ymateb y gynulleidfa. Yna holwch oedd rhywun wedi deall beth roedd y plant yn ei ddweud. NA? Cyfaddefwch nad oeddech chithau chwaith yn deall pob gair. Fe allech chi dreulio ychydig o amser yn dehongli’r hyn roedd y plant wedi’i ddweud yn y gwahanol ieithoedd. Diolchwch i’r rhai fu'n eich helpu a’u hanfon yn ôl i’w lle i eistedd yn y gynulleidfa.

  2. Atgoffwch y plant eu bod hwythau, pan oedden nhw’n dechrau yn yr ysgol, wedi dod wyneb yn wyneb â symbolau a phatrymau oedd yn ddieithr iddyn nhw bryd hynny. Ond, o dipyn i beth, fe ddaethon nhw’n gyfarwydd â’r symbolau a dechrau dysgu darllen.

    Ledled y byd, mae pobl yn siarad mewn gwahanol ieithoedd. Meddyliwch pa mor rhyfeddol fyddai hi pe byddem ni i gyd yn gallu deall pawb yn y byd a phawb yn gallu siarad yr iaith y mae pawb yn ei deall. 

    Mewn rhai gwledydd, er ein bod yn deall yr iaith efallai, mae rhai geiriau â gwahanol ystyron iddyn nhw, neu wahanol enwau am yr un peth. Er enghraifft, yn America,  cookies maen nhw’n galw bisgedi, candy yw’r gair am felysion nid sweetsvacation yw’r gair ganddyn nhw am wyliau- nid holidaystrunk maen nhw’n galw  boot car, a hood maen nhw’n galw’r bonnet, a garbageyw’r enw maen nhw’n defnyddio am sbwriel, nid rubbish. Mae gwahanol ystyron i eiriau. Efallai y gallech chi osod tasg i’r plant ddod o hyd i ragor o enghreifftiau fel hyn.

  3. Cyflwynwch y gair Sulgwyn a gofynnwch oes rhywun wedi clywed am yr wyl Gristnogol hon? Eglurwch ein bod, ar adeg y Sulgwyn, yn cofio am yr amser pan aeth Iesu yn ei ôl i’r nefoedd, ar ôl ei gyfnod ar y ddaear, wedi iddo atgyfodi. Enw arall ar yr wyl hon yw’r Pentecost. Dyna’r pryd y gofynnodd Iesu i’w ddilynwyr ddal ati â’i waith, ac fe ddywedodd wrthyn nhw y byddai Duw yn rhoi nerth iddyn nhw wneud hynny. 

    Ar y diwrnod rydyn ni’n ei alw’n Sulgwyn, neu’n Bentecost, mae’r Beibl yn dweud eu bod wedi dod ynghyd mewn ty pan ddaeth swn fel gwynt grymus yn rhuthro a llenwi’r ystafell (Actau 2). Daeth rhywbeth tebyg i dafodau o dân a glanio ar ben pob un oedd yno. Yna, aeth popeth yn dawel, ac roedden nhw’n gwybod eu bod wedi’u llenwi â rhyw nerth rhyfedd. Roedd yr Ysbryd Glân wedi dod i mewn i bob un ohonyn nhw. 

    Ac yn rhyfeddol iawn, fe welson nhw eu bod yn gallu siarad a deall yr holl wahanol ieithoedd yr oedd pawb yno’n eu siarad. Yn awr, fe fydden nhw’n gallu mynd allan i’r holl fyd a dysgu pobl am Dduw. Mae Cristnogion yn credu mai dyma pryd y dechreuodd Cristnogaeth, ac mae’r stori’n cael ei hadrodd er mwyn pwysleisio’r syniad bod neges Iesu am gariad, llawenydd a heddwch yn neges i bawb yn y byd.

  4. Dewisol: Darllenwch y gerdd. 

    Y Sulgwyn 
    gan Jan Edmunds (addasiad)

    Adeg y Sulgwyn, anfonodd Duw ei nerth 
    i’r apostolion yn ddiwahân.
    Rhuthrodd gwynt nethol trwy y lle,
    ac ar ben pob un disgynnodd tafodau tân,
    a’u llenwi bob un â’r Ysbryd Glân.
    Wedi hynny, fe aethon nhw allan i’r byd,
    ac roedd pawb ym mhob man yn eu deall i gyd. 

  5. Diolchwch i’r rhai fu’n eich helpu a  gofynnwch iddyn nhw ddweud ‘Ffarwel’ / ‘Goodbye’ yn eu hiaith eu hunain.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae stori’r Sulgwyn yn dweud hanes dilynwyr Iesu, a’u neges i’r byd.
Pa neges fyddech chi’n hoffi ei rhoi i’r byd heddiw?

Gweddi
Rydyn ni’n diolch i ti, Dduw,
Am roi i dy apostolion y gallu i fynd â dy neges o gariad allan i’r byd.
Helpa ni i geisio deall pobl o bob hil a chred,
fel y gallwn ni fyw ynghyd mewn heddwch a chytgord.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon