Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod yn chi eich hun

Dangos na ddylem gopïo pobl eraill, ond yn hytrach dysgu bod yn ni ein hunain.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos na ddylem gopïo pobl eraill, ond yn hytrach dysgu bod yn ni ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ceisiwch ddod o hyd i luniau coeden dderw, helygen a llwyfen, i ddangos y gwahaniaeth rhyngddyn nhw.
  • Wrth i chi ddweud y stori, fe allai’r plant ddynwared symudiadau’r coed.

Gwasanaeth

  1. Os ydych chi’n defnyddio lluniau’r coed, dangoswch nhw i’r plant gan gyflwyno pob coeden yn ei thro. Dywedwch fod y stori’n ymwneud â phob un o’r tair coeden.

  2. Yna adroddwch y stori:

    Yn y goedwig, roedd y gwynt yn chwythu’n gryf. Ond safai’r dderwen yn gadarn. Roedd hon yn fawr a chryf, a doedd y gwynt yn cael fawr ddim effaith arni. Sylwodd y dderwen fod yr helygen fain yn plygu yn y gwynt.

    ‘Pam na elli di sefyll yn syth fel rydw i’n gwneud pan fydd y gwynt yn chwythu?’ gofynnodd y dderwen i’r helygen.

    ‘Am ei bod hi’n well plygu ac ildio,’ meddai’r helygen. ‘Felly, wna i ddim torri. Pam na wnei di drio gwneud hynny?’

    ‘Hy!,’ meddai’r dderwen. ‘Dydw i ddim yn wan ac yn llwfr. All y gwynt ddim fy nhorri i, a dydw i ddim am blygu iddo.’

    Ond roedd yr helygen yn ddoeth, ac fe ddywedodd, ‘Rydyn ni i gyd wedi cael ein gwneud yn wahanol, pob un ohonom, a chyn belled a dydyn ni ddim yn torri, mae hynny’n iawn.’

    Roedd y llwyfen yn gwrando arnyn nhw. Roedd y llwyfen yn edmygu’r dderwen am fod yn gryf a dewr, a cheisiodd fod yr un fath â hi. Ond wedyn fe feddyliodd y byddai’n hoffi bod fel yr helygen yn ddoeth. Pan ddaeth y storm nesaf, fe geisiodd y llwyfen blygu fel yr helygen. Ond meddyliodd wedyn y byddai’n well iddi geisio sefyll yn syth fel y dderwen. Doedd hi ddim yn gwybod beth oedd orau i’w wneud. O ganlyniad, fe dorrodd rhai o’i changhennau a disgyn i’r llawr.

    ‘Wel, wel,’ meddai’r ddwy goeden arall wrth y llwyfen, pan welson nhw beth oedd wedi digwydd iddi. ‘Ddylet ti ddim copïo rhywun arall. Mae’n well i ti benderfynu drosot ti dy hun, a glynu at hynny.’

    ‘Wyt ti’n gweld,’ meddai’r dderwen, ‘alli di byth fod mor ddewr a chryf a chadarn â fi.’

    ‘Na mor hyblyg ac ystwyth â fi,’ meddai’r helygen. ‘Well i ti fod yn ti dy hun.’

    Mae’r llwyfen yn dal i fethu penderfynu beth i’w wneud mewn storm, ac mae ei changhennau hi’n aml yn torri yn y gwyntoedd cryfion.

  3. Rhowch amser i’r plant a chithau drafod y stori. Roedd gan y dderwen a’r helygen ddwy ffordd wahanol o ddelio â’r sefyllfa - eu ffyrdd eu hunain, ond doedd y llwyfen ddim yn gallu penderfynu beth oedd orau i’w wneud. Roedd hi eisiau copïo’r lleill yn hytrach nac bodloni ar fod yn hi ei hun.

  4. Dewisol: Os bydd yr amser yn caniatáu, fe allech chi drafod ymhellach a chynnwys pynciau fel:

    Pan rydyn ni’n ifanc, rydyn ni’n dysgu sut i siarad a sut i ymddwyn trwy gopïo’r bobl sydd o’u cwmpas. Fel rydyn ni’n tyfu, rydyn ni’n dysgu datblygu ein personoliaethau ein hunain a’n syniadau ein hunain.

    Mae rhai pobl yn ceisio copïo’r rhai maen nhw’n eu hedmygu, fel peldroedwyr neu sêr pop, a’u ffasiwn a’r ffordd maen nhw’n ymddwyn.

    Nid yw’n beth da dim ond copïo pobl eraill. Mae’n well meddwl drosom ni ein hunain. Os byddwn ni’n copïo pobl eraill, pa un ai copïo’u gwaith neu’r ffordd maen nhw’n ymddwyn, neu’r ffordd maen nhw’n gwisgo, dydi hynny dim yn ein gwneud ni’n bobl well o gwbl. Y peth gorau i’w wneud yw dysgu bod yn ni ein hunain, a cheisio meddwl drosom ni ein hunain.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Wrth i ni dyfu, rhaid i ni ddysgu
Dewis pa un yw’r ffordd orau i droi.
Nid copïo eraill ond meddwl drosom ein hunain,
Yna, fe fydd ein gwir gymeriad yn dod i’r amlwg i bawb ei weld.

Gweddi

Rwyt ti, Dduw wedi rhoi fy ymennydd i mi,
fel y gallaf fi feddwl, a dewis beth ddylwn i fod.
Gwna ni’n ddiolchgar am hynny.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon