Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Helfa Drysor

Archwilio’r gred Gristnogol mai trysor Duw yw pobl.

gan The Revd Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r gred Gristnogol mai trysor Duw yw pobl.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tri darn arian a rhywun i’ch helpu chi, y tu allan i’r ystafell, ar gyfer y gêm.

  • Dewisol: Datgelydd metel (metal detector) i’w ddangos.

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am y peiriannau sy’n gallu canfod metel. Beth ydyn nhw? Sut maen nhw’n cael eu defnyddio? Dangoswch y peiriant yn gweithio, os oes un gennych chi. 

    Eglurwch fod gennych chi ddatgelyddion metel dynol yn yr ysgol heddiw. Mewn gwirionedd, datgelyddion trysor ydyn nhw. Ac yn fwy na hynny, dydyn nhw ddim yn  gwybod eu bod yn ddatgelyddion trysor! Dewiswch nifer o wirfoddolwyr i’ch helpu, (dewiswch tua chwech). Fe fydd angen iddyn nhw allu gwneud swn i ddynwared datgelydd metel: sain fach dawel lle nad oes metel i’w gael, a sain uchel lle mae metel wedi’i ganfod. Fe allai fod yn hwyl cynnal clyweliadau ar gyfer y dasg. Os ydych chi’n ddigon dewr, fe allech chi ofyn i’r gynulleidfa gyfan roi cynnig arni gyda’i gilydd!

  2. Casglwch eich gwirfoddolwyr-ddatgelyddion, a gofalwch bod pawb yn gwybod eu bod o ddifrif, a dydyn nhw ddim yn gwybod o flaen llaw beth sy’n mynd i ddigwydd. Anfonwch nhw allan o’r ystafell at yr un sy’n eich helpu yno. Bydd yr un hwnnw’n dweud wrthyn nhw beth i’w wneud, sef: Pan fyddwch chi’n gofyn iddyn nhw, ‘Oes trysor yma?’ maen nhw i fod i wneud sain isel sy’n golygu ‘Na’. Ond os ydych chi’n gofyn, ‘Beth am fan hyn?’ maen nhw i fod i wneud sain uchel sy’n golygu ‘Oes’. Mae defnyddio’r gair ‘Oes’ ar ddechrau’r cwestiwn felly yn arwydd mai ‘Nag oes’ yw’r ateb - a hynny’n galw am i sain isel sy’n golygu nad oes trysor yno.

  3. Tra bydd y gwirfoddolwyr-ddatgelyddion allan o’r ystafell, dangoswch y tri darn arian sydd gennych chi, a gofynnwch am chwe phlentyn arall i’ch helpu. Rydych chi eisiau i’r chwe phlentyn sefyll mewn gwahanol lefydd o gwmpas yr ystafell. Rhowch ddarn arian i dri ohonyn nhw (gofalwch eich bod yn cofio i ba dri phlentyn rydych chi wedi rhoi’r darnau arian). Gofynnwch i bob un o’r chwe phlentyn gau eu dyrnau a’u dal o’u blaenau, pa un ai a yw’r darnau arian ganddyn nhw ai peidio. 

    Galwch ar y ‘datgelyddion trysor’ i ddod i mewn. Eglurwch i’r plant bod y datgelyddion trysor wedi’u rhaglennu i ganfod dim ond y darnau arian sydd wedi’u cau yn nyrnau’r plant.  
    Chwaraewch y gêm, gan ofyn y cwestiwn, ‘Oes trysor yma?’ wrth ymyl y plant sydd heb ddarnau arian - er mwyn i’r datgelyddion ymateb yn negyddol. A gofynnwch, ‘Beth am fan hyn?’  pan fyddwch chi yn ymyl y rhai sydd ag arian - er mwyn i’r datgelyddion ymateb yn gadarnhaol.

  4. Ar ddiwedd y gêm, gofynnwch i bawb eistedd. Fe allwch chi egluro sut y gweithiodd eich cynllun, neu fe allwch chi ofyn i’r plant eraill ddyfalu. Neu, fe allech chi addo egluro yn ystod y gwasanaeth nesaf.

  5. Soniwch am un o storïau Iesu Grist, sef yr un am wraig a gollodd ddarn arian. Bu’r wraig yn chwilio ac yn chwilio trwy’r dydd amdano, nes y daeth hi o hyd iddo yn y diwedd (Luc 15.8-9). Dywedwch fod rhai Cristnogion yn credu mai dyma un ffordd oedd gan Iesu o ddweud wrthym ni ein bod ni yn drysor yng ngolwg Duw. Rydyn ni i gyd yn arbennig iawn yn ei olwg. Mae Cristnogion yn credu nad yw Duw byth eisiau ein colli ni, ac os byddwn ni’n mynd ar goll mae’n dod i chwilio amdanom ni, ac yn dod o hyd i ni. Neu, efallai mai stori yw hi amdanom ni’n chwilio am Dduw, ac na ddylem ni roi’r gorau i chwilio nes y gwnawn ni ddod o hyd iddo.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Ydych chi wedi colli rhywbeth ryw dro,
ac wedi chwilio’n ddyfal am y peth hwnnw wedyn?
Ddaeth y peth roeddech chi wedi’i golli i’r golwg yn y diwedd?
Beth yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennych chi,
y peth y byddech chi’n gofidio’i golli fwyaf?
Beth arall, ar wahân i eiddo, y gallwch chi ei golli?
Allwch chi golli cyfeillgarwch, neu golli diddordeb,
neu golli parch, neu hyd yn oed llawenydd a hwyl?
Beth yw’r pethau pwysicaf y mae eisiau gofalu amdanyn nhw mewn bywyd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y stori am y darn arian oedd ar goll,
a’r wraig fu’n chwilio drwy’r dydd amdano nes daeth hi o hyd iddo, yn y diwedd.
Diolch dy fod ti fel y wraig honno,
yn chwilio amdanom ni i’n caru ni a gofalu amdanom ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon