Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amrywiaeth sy’n Rhoi Blas ar Fywyd

Archwilio’r syniad fod arnom ni i gyd angen amrywiaeth yn ein bywydau.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad fod arnom ni i gyd angen amrywiaeth yn ein bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar gyfer her yr amrywiaeth, paratowch gardiau neu restrau gwirio ar gyfer y plant, iddyn nhw gael mynd â nhw gyda nhw o’r gwasanaeth. Nodwch ar y cardiau, y penawdau sy’n cael eu rhoi i chi yn y rhestr sydd i’w gweld yn nes ymlaen (yn rhif 5) gan adael lle i ysgrifennu o dan bob pennawd.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant beth yw eu hoff chwaraeon. Yna, dywedwch eich bod yn chwilio am rywun sy’n gwirioneddol garu un o’r chwaraeon rheini - rhywun a hoffai dreulio’i holl amser yn chwarae neu’n gwylio’r chwaraeon hynny. Gadewch i’r plant gynnig eu hawgrymiadau, a dewiswch ddau sy’n dangos gwir ddiddordeb mewn rhywbeth neilltuol, i ddod atoch chi i’r tu blaen (dau weithgaredd gwahanol).

  2. Gofynnwch iddyn nhw: Ydyn nhw’n siwr eu bod yn hoffi’r ddau fath hwnnw o chwaraeon? Yn hollol sicr? Yna dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n mynd i brofi eu hymrwymiad. ‘Allwch chi ddweud dim byd arall heblaw pêl-droed, (neu nofio, gymnasteg, neu beth bynnag arall) am y munud nesaf?’

    Wedi iddyn nhw gytuno, rhowch gyfweliad i’r ddau fesul un, gan ofyn cwestiynau fel y rhai welwch chi’n dilyn. Rhaid iddyn nhw ateb pob cwestiwn gydag enw’r chwaraeon maen nhw wedi’i ddewis:

    Beth ydi dy enw? (pêl-droed)
    Ble rwyt ti’n byw? (pêl-droed)
    Beth wyt ti’n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden? (pêl-droed)
    Beth wyt ti’n hoffi ei wylio ar y teledu? (pêl-droed)
    Beth wyt ti’n hoffi ei fwyta? (pêl-droed)
    Beth wyt ti’n hoffi ei yfed? (pêl-droed)
    Pwy yw’r Prif Weinidog? (pêl-droed)
    Beth fyddi di’n ei ddefnyddio i ysgrifennu? (pêl-droed)
    Pa un yw’r gêm fwyaf diflas yn y byd? (pêl-droed)

    Ar y diwedd, diolchwch i’r gwirfoddolwyr a’u hanfon yn ôl i’w lle gyda chymeradwyaeth. Gallwch gyfaddef nad oedd y gêm yn deg iawn, ond awgrymwch pe bai eich gwirfoddolwyr yn gwneud dim arall trwy’r dydd, bob dydd, heblaw chwarae neu wylio’u hoff chwaraeon, fe fyddai bywyd yn gallu mynd yn undonog a diflas iawn!

  3. Holwch pwy sy’n hoffi losin, melysion, fferins neu dda-da? Mwy na thebyg y bydd bron bawb yn rhoi eu dwylo i fyny. Chwaraewch y gêm eto, y tro yma gyda’r gynulleidfa gyfan. Ond dydyn nhw ddim yn cael dweud unrhyw beth ar wahân i’r gair losin (melysion, fferins, da-da neu beth bynnag yw’r gair fydd plant eich ardal yn ei ddweud am ‘sweets’) yn ateb i’ch cwestiynau. Ar gyfer eich cwestiwn olaf, gofynnwch, ‘Beth yw’r pethau mwyaf atgas yn y byd? (Melysion!)

  4. Pwysleisiwch fod y ‘ffans’ mwyaf ym myd pêl-droed, chwaraeon, llyfrau neu ffilmiau, neu unrhyw beth arall, angen amrywiaeth yn eu bywydau. Mae amrywiaeth yn eu gwneud nhw’n bobl fwy diddorol. Ac mae’n gwneud eu chwaraeon (neu beth bynnag) yn fwy o hwyl pan fyddan nhw’n mynd yn ôl at y gweithgaredd hwnnw ar ôl bod yn gwneud rhywbeth arall am sbel. Nodwch, pe byddech chi’n bwyta dim ond melysion trwy’r adeg, fe fyddech chi’n siwr o fynd yn sâl yn y diwedd. Fyddech chi ddim yn rhoi maeth iawn i’ch corff. A phe baech chi’n gwneud dim byd ond chwarae pêl-droed bob dydd, fyddech chi ddim yn dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu na dysgu sut i wneud mathemateg.

  5. Mae dywediad yn Saesneg: ‘Variety is the spice of life’. Sbeis yw rhywbeth sy’n rhoi blas arbennig neu ddiddorol ar rai bwydydd. Rhowch her i’r plant ddatblygu bywyd mwy diddorol gyda mwy o amrywiaeth iachus. Ydi hi’n bosib iddyn nhw’n feddwl am gynllun sy’n mynd i roi’r pethau canlynol iddyn nhw bob dydd:

    Gweithgaredd corfforol ac egniol (chwaraeon, gemau, ymarfer corff).
    Amrywiaeth cytbwys a da o fwyd a diod.
    Amser i fod yn llonydd a thawel.
    Gweithgaredd sy’n rhoi her i’r ymennydd (posau mathemategol, croesair, chwilair ac ati).
    Gweithgaredd sy’n greadigol (ysgrifennu storïau, gwneud lluniau, cyfansoddi cerddoriaeth).

    Dydi hyn ddim mor hawdd ag y byddech chi’n meddwl.

  6. Fe allech chi ddiweddu’r gwasanaeth trwy rannu’r cardiau sydd gennych chi â’r penawdau sydd yn rhif 5 arnyn nhw, i’r plant eu llenwi yn eu hamser eu hunain.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Heddiw, sut galla i fod yn:

weithgar a bywiog,

yn llonydd ac yn feddylgar;

sut y gallaf fi roi her i fy meddwl,

sut y gallaf fi roi her i fy nghreadigedd,

a bwyta amrywiaeth da o fwyd -  

a dal i ddod o hyd i amser i fynd i gysgu!

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch i ti am y gallu i wneud yr holl wahanol fathau o bethau.

Helpa ni i fod yn aml dalentog,

ac i allu gwneud amrywiaeth da o wahanol bethau yn ein bywydau.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon