Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Byddwch yn Real!

Dangos i’r myfyrwyr ei bod hi’n bwysig iawn i chi fod yn chi eich hun, ac mae hynny’n rhoi cyfle i bobl eraill fod yn nhw’u hunain hefyd.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Dangos i’r myfyrwyr ei bod hi’n bwysig iawn i chi fod yn chi eich hun, ac mae hynny’n rhoi cyfle i bobl eraill fod yn nhw’u hunain hefyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen recordiad o’r gân ‘Stick to the Status Quo’ allan o High School Musical.
  • Mae hefyd fersiwn dderbyniol iawn, a hawdd cael ati, o Salm 139 wedi’i gosod ar gerddoriaeth gan y band Dependance. Fe allech chi wrando ar honno, os hoffech chi. Mae ar gael ar y wefan: http://www.dependance.tv/original/sound/139.htm

Gwasanaeth

  1. Oeddech chi’n gwybod bod yr actor Max Beesley yn mwynhau dawnsio tap? Bod David a Victoria Beckham yn mwynhau treulio gyda’r nos yn chwarae dominos? Bod Fearne Cotton yn arlunydd brwd? A Paris Hilton wedi gwirioni ar bysgota?

    Mae pob math o wahanol ddiddordebau gan bob math o wahanol bobl.

  2. Beth amdanoch chi? Ydych chi’n hoffi gwneud rhywbeth, ond nad ydych chi wedi cyfaddef hynny wrth eich ffrindiau? Oes gennych chi ddiddordeb rydych chi’n ei gadw’n gyfrinach? Hoffech chi ymuno â chlwb neu gymdeithas neilltuol, ond eich bod yn meddwl y byddai eich ffrindiau’n eich gwawdio pe byddech chi’n gwneud hynny? Oes rhyw weithgaredd yr hoffech chi roi cynnig arno, ond eich bod yn poeni beth fyddai eich rhieni’n ei ddweud?

  3. Beth sy’n digwydd yn yr High School Musical pan fydd Troy a Gabriella yn rhoi’r gorau i ofidio beth fyddai eu ffrindiau’n ei feddwl, ac yn penderfynu mynd am glyweliad ar gyfer y sioe gerdd?

    Chwaraewr pêl fasged yw Troy. Ac mae Gabriella yn dipyn o ‘brainiac’. Ond mae’r ddau yn hoffi canu hefyd. A phan wnaethon nhw benderfynu rhoi cynnig arni, a chyfaddef eu bod wrth eu bodd yn canu, mae pobl eraill hefyd yn gallu sôn am eu diddordebau hwythau wedyn. Gwrandewch ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud.

    Chwaraewch y gân ‘Stick to the Status Quo’ from High School Musical.

    Mae’n gymaint o ryddhad iddyn nhw gael dweud y gwir, ac o’r diwedd gael rhoi gwybod i’r bobl o’u cwmpas pwy ydyn nhw mewn gwirionedd! Ond sut mae’r bobl rheini’n ymateb?
    Dyma ddyfyniad o’r gerdd:
    Stick to the stuff you know.
    Don’t mess with the flow.
    Keep things as they are.
    Stick to the status quo.’

  4. Mae angen bod yn ddewr iawn i fod yn chi eich hun, go iawn. Mae gofyn bod yn gryf i allu gwneud yr hyn rydych chi eisiau ei wneud o ddifrif. Mae’n hawdd iawn dilyn y dyrfa, dilyn y lleill. Ac mae’n hawdd iawn gwneud hwyl am ben rhai sy’n dilyn diddordebau gwahanol.

Amser i feddwl

Roedd Dafydd, un o’r rhai a ysgrifennodd y Salmau yn y Beibl, yn cael ei annog ac yn cael cysur wrth gredu bod Duw yn ei adnabod yn dda, ac yn gwybod popeth oedd i’w wybod amdano – ac eto’n dal i’w garu, a’i dderbyn yn union fel ag yr oedd (Salm 139).

Gwrandewch ar y geiriau yma o Efengyl Luc, pennod 12:

Dywedodd Iesu; ‘Oni werthir pump aderyn y to am ddwy geiniog? Eto nid yw un ohonynt yn angof gan Dduw. Yn wir, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo. Peidiwch ag ofni; yr ydych yn werth mwy na llawer o adar y to.’ (Luc 12.6, 7)

A sut mae Duw yn gallu ein hadnabod mor dda? Duw â’n gwnaeth ni. Mae Duw yn ein hadnabod ni. Mae Duw’n ein caru ni.

Ac mae llawer o bobl sydd â ffydd yn dal i gredu hyd heddiw mai Duw â’n gwnaeth ni i gyd. Mae Duw yn ein hadnabod ni i gyd. Mae Duw’n ein caru ni i gyd.

Duw â’ch gwnaeth chi. Mae Duw yn eich adnabod chi. Mae Duw’n eich caru chi.

Gweddi

Hollalluog Dduw,
a greaist y nefoedd a’r ddaear,
a llunio dyn ar dy ddelw dy hun:
caniatâ inni ganfod ôl dy law yn dy holl waith,
a’th foliannu’n wastadol am dy ddoethineb a’th gariad;
Trwy Iesu Grist, dy Fab, ein Harglwydd,
sydd gyda thi, a’r Ysbryd Glân, yn un Duw,
yn awr a hyd byth.
Amen.

(Colect o’r llyfr Y Weddi Gyffredin)

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon