Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Draen neu Reiddiadur?

Meddwl am yr effaith y bydd ein hymddygiad yn ei gael ar bobl eraill.

gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am yr effaith y bydd ein hymddygiad yn ei gael ar bobl eraill.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi, er fe allech chi ofyn i rai o’r plant ddarllen y cerddi i chi, os hoffech chi.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y syniad o draeniau a rheiddiaduron. Eglurwch nad ydych chi’n sôn am y pibellau gwastraff dwr neu baneli gwresogi’n unig - ond am y gwahanol ystyron sy’n gysylltiedig â’r geiriau:

    Draen: cwter i gael gwared â gwastraff, rhywbeth sy’n blino rhywun, neu rywbeth efallai sy’n amddifadu rhywbeth o gryfder.
    Rheiddiadur: yn pelydru ynni fel golau neu wres, neu’n llewyrchu’n ddisglair.

    Soniwch y gallwch chi gymhwyso’r syniad yma ar gyfer pobl.

  2. Pa fath o ffaeleddau allen ni eu gweld mewn pobl (heb enwi neb) y byddwn ni’n eu hystyried sy’n blino rhywun, neu a fyddai’n ddraen? Er enghraifft: bod yn faleisus neu’n sbeitlyd, yn amharod i rannu, rhywun â thymer ddrwg, neu rywun sydd ddim yn ystyried pobl eraill. Pa rinweddau allai fod yn perthyn i reiddiadur? Er enghraifft: haelioni, parod i helpu, caredig.

  3. Cyflwynwch y stori enwog yma o ddyddiau cynnar Cristnogaeth. Mae’r stori yn sôn am rywun y gallech chi ei ddisgrifio fel rheiddiadur! 

    Sant Martin
    Ganwyd bachgen draw yn yr Eidal,
    Ganrifoedd lawer cyn i ni gael ein geni.
    Ond ni chafodd ei eni’n Gristion,
    Ni wyddai ei deulu am Grist bryd hynny.
    Roedd yn addoli duwiau Rhufeinig,
    ’Run fath â’i fam a’i dad,
    Ac fe ymunodd â byddin Rhufain
    Dyna oedd y drefn yn y wlad.
    Martin oedd enw’r llanc ifanc hwn,
    Roedd yn fachgen caredig a da, byth yn creu trwbl.
    Doedd arno ddim eisiau mynd i ryfel,
    Hoffai pe na bai’n rhaid iddo fynd o gwbl.
    Un diwrnod yn y gaeaf, 
    a’r gwynt yn rhewynt oer ar grwydr,
    Fe wisgodd Martin ei glogyn cynnes amdano,
    A chychwyn gyda’r milwyr eraill i frwydr.
    Wrth farchogaeth, fe welodd gardotyn,
    Yn eistedd ar ochr y stryd yn crynu,
    Dim byd ond carpiau gwael amdano,
    A dim esgidiau am ei draed, dim ond carpiau, dim ond hynny.
    ‘O! Helpa fi,’ llefodd y cardotyn tlawd,
    ‘Fe fydda i’n sicr o farw, yn wir i ti,
    Alli di sbario rhywbeth bach,
    Unrhyw beth bach i druan tlawd fel fi.’
    Tynnodd Martin ei glogyn mawr oddi amdano,
    A chyda’i gleddyf fe’i torrodd yn ei hanner.
    ‘Mae’r hanner yma’n ddigon i mi,
    Cei dithau'r llall,’ meddai wrtho’n dyner.
    ‘Wel ! Beth yn y byd sy’n bod arnat ti?’
    Meddai’r milwyr eraill wrth Martin.
    ‘Yn rhwygo dy ddillad er mwyn rhyw greadur fel hwn.
    Dwyt ti ddim hanner call! Rwyt ti’n ynfytyn!’ 
    Ond y noson honno, mewn breuddwyd glir,
    Fe ddywedodd Iesu Grist fel hyn wrth Martin,
    ‘Roeddwn i’n marw, allan yno, yn yr oerfel blin - 
    Ond fe wnest ti roi, i mi, dy glogyn.’

    Ar ôl hyn, fe ddaeth Martin yn Gristion. Fe dreuliodd weddill ei fywyd yn helpu pobl, ac yn sôn wrthyn nhw am Iesu Grist. Wedi iddo farw, cafodd ei wneud yn sant. Caiff dydd Sant Martin ei ddathlu ar 11 Tachwedd, bob blwyddyn.

  4. Felly beth sy’n gwneud rheiddiadur da? Wel, dyma rai rheolau i’ch helpu.

    Rheolau Rheiddiadur
    Mewn chwaraeon, mae bob amser yn deg,
    Mae’n bleser bod yng nghwmni un mor hapus.
    Fydd o byth yn cwyno nac yn pwdu wrth gael ei ddal allan
    Mewn gêm o griced - dim ond dweud ‘campus’.
    Mae rheiddiadur yn ffrind
    Fydd bob amser yn deall y broblem –
    Os bydd rhywbeth bach yn eich poeni, 
    Fe fydd hi yno i’ch cynnal yn llawen.
    Mae rheiddiadur yn gwrtais,
    Fe fydd yn dal y drws ar agor ichi, 
    Ac os bydd o’n gweld sbwriel ar lawr 
    Mae o’n siwr o’i godi.
    Mae rheiddiadur yn gwrando.
    Fe fydd hi’n ceisio cael pethau’n ôl i drefn a chytuno.
    Os bydd rhywun wedi’i thramgwyddo,
    Fe wnaiff hi siarad a thrafod, nid codi cweryl a chwffio.
    Mae rheiddiadur yn pelydru.
    Mae bob amser yn dweud, ‘Helo.’
    Os byddwch chi ar goll, neu wedi’ch anafu,
    Mae’n barod i’ch helpu - dyna sut un ydi o.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Fyddwch chi’n pelydru heddiw neu’n dipyn o ddraen?
Bydd draen yn gwneud i bobl deimlo’n ddiflas neu’n ddig neu’n cyfrif dim.
Bydd rheiddiadur yn pelydru â gwên neu sgwrs gyfeillgar.
Pelydrau o gyfeillgarwch a hwyl a llawenydd.
Neu fe allwch chi fod yn ddraen – ac i  bawb yn dipyn o straen.
Gwnewch benderfyniad nawr, peidiwch âi adael tan ryw dro yn y dyfodol.
Fyddwch chi’n ddraen, neu a fyddwch chi’n rheiddiadur?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti, Arglwydd, pan fydda i’n oer,
Fe fydd dy gariad di’n lapio amdanaf.
Gad i mi ddod o hyd i ffyrdd sy’n dangos i bobl fy mod yn ofalgar,
Ac fel Sant Martin, bob amser yn barod i rannu.
Ac os bydda i naill ai’n fodlon neu’n drist,
Gad i gynhesrwydd belydru ohonof i wneud i bobl eraill deimlo’n llon.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon