Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ras Bywyd

Annog y plant i feddwl am fywyd fel ras, a meddwl gan bwy y gallen nhw gael cyngor ac arweiniad er mwyn bod yn barod i allu gwneud y gorau o’u bywydau.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am fywyd fel ras, a meddwl gan bwy y gallen nhw gael cyngor ac arweiniad er mwyn bod yn barod i allu gwneud y gorau o’u bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Bydd angen paratoi’r ddrama o flaen llaw. Mae angen pum cymeriad, gyda’r arweinydd yn chwarae rhan yr un sy’n cyfweld.

Gwasanaeth

  1. Eleni, mae gemau Olympaidd 2008 yn cael eu cynnal yn Beijing yn Tsieina.
    Bydd y gemau’n cael eu cynnal o 8 i 24 Awst.
    302 o gystadlaethau.
    28 o wahanol chwaraeon.
    600 cystadleuydd o Unol Daleithiau’r America’n unig.
    7 miliwn o dicedi’n cael eu gwerthu i wylwyr.
    Bydd y cystadleuwyr yn cynrychioli dros 200 o Bwyllgorau Olympaidd Cenedlaethol.
    Bydd athletwyr sydd wedi bod yn ymarfer ddydd ar ôl dydd, sydd wedi gwthio’u cyrff i’r eithaf, ac sydd wedi bod yn disgyblu eu hunain yn hytrach nac ymlacio a chael hwyl – wedi gwneud hyn er mwyn y cystadlaethau yma. Dyma’r cystadlaethau pwysicaf yn ei bywydau.

  2.   Cyflwynwch y ddrama: gadewch i ni ddychmygu ein bod yn gallu cwrdd â rhai ohonyn nhw.

    Holwr: Bore da, a chroeso i Ddosbarth Meistroli’r Prif Athletwyr, y sioe lle rydyn ni’n datgelu’r cyfrinachau sut mae ein prif athletwyr yn ymarfer. Heddiw, rydyn ni’n ymweld â’r pentref Olympaidd lle mae ein hathletwyr ni’n ymarfer ar gyfer y prawf pwysicaf yn eu bywydau. Ac rydyn ni yma i ofyn un cwestiwn iddyn nhw - sut rydych chi’n gallu gwneud yr hyn y mae eich hyfforddwr eisiau i chi ei wneud?

    Daw rhedwr i mewn.

    Rhedwr yw ein gwestai cyntaf. Croeso. Felly, sut rydych chi’n gallu gwneud yr hyn y mae eich hyfforddwr eisiau i chi ei wneud?

    Rhedwr (yn rhedeg yn ei unfan): Wel, mae’n amlwg na all fy hyfforddwr fod gyda fi bob cam o'r daith. Rydw i’n hoffi iddo ysgrifennu ei holl gyngor i mi, ac wedyn fe fydda i’n darllen hwnnw’n rheolaidd, bob tro mae gen i funud i’w sbario. Felly, pan fydda i’n rhedeg, fe ddaw’r holl awgrymiadau defnyddiol i fy meddwl, ac rydw i bron fel pe bawn i’n gallu ei glywed yn fy annog ymlaen.

    Holwr: Dyna awgrym da. Diolch yn fawr i chi. A chroeso i’n athletwr nesaf. 

    Daw codwr pwysau i mewn

    Nawr mae gen i godwr pwysau efo fi. Sut rydych chi’n gallu gwneud yr hyn y mae eich hyfforddwr eisiau i chi ei wneud?

    Codwr pwysau (yn ymdwymo): Wel, rydw i’n hoffi treulio amser gyda gweddill aelodau’r tîm. Rydw i’n treulio oriau yn cymharu ein profiadau ac yn annog ein gilydd. Fe wyddom ni i gyd am yr uchafbwyntiau a’r pwyntiau isaf wrth godi pwysau, ac mae’n braf bod yng nghwmni rhai eraill sy’n deall sut mae pethau, ac mae pawb yn gallu rhoi awgrymiadau i’w gilydd ar sut i ddal ati.

    Holwr: Da iawn, dyna syniad da arall. Diolch i chi am eich amser. 

    Daw marchogwr i mewn


    Dyma farchogwr. Esgusodwch fi, allwch chi ddweud wrtha i, sut rydych chi’n gallu gwneud yr hyn y mae eich hyfforddwr eisiau i chi ei wneud?

    Marchogwr: Wel, yr hyn rydw i’n ei weld yn ddefnyddiol yw cyfansoddi rhigymau bach y bydda i’n eu dysgu ar fy nghof. Dyma un: ‘Dal fy nghefn yn syth, a gwenu’n hapus braf, dyna’r ffordd i ennill, dyna beth a wnaf.’ Wedyn, pan fydd pethau’n anodd, rydw i’n adrodd y rhigwm wrthyf fy hun, ac mae hynny’n helpu. Tali ho!

    Holwr: Diddorol! 

    Daw gymnastwr i mewn

    Gymnastwr yw fy ngwestai nesaf. Croeso! Sut rydych chi’n gallu gwneud yr hyn y mae eich hyfforddwr eisiau i chi ei wneud?

    Gymnastwr: Wel, rydw i’n treulio cymaint o amser ag a allaf fi gyda fy hyfforddwraig. Bob munud o’r dydd, os bydd hynny’n bosib. Po fwyaf o amser rydw i’n ei dreulio gyda hi, mwyaf yn y byd rydw i’n ei ddysgu. Mae mor syml â hynny.

    Holwr: Ardderchog, diolch i chi. Wel, dim ond un athletwr arall sydd gennym ar hyn o bryd i’w holi. 

    Daw neidiwr polyn  i mewn gyda pholyn.

    Rydw i’n gallu dweud oddi wrth beth rydych chi’n ei gario yn eich llaw mai neidiwr polyn ydych chi. Sut rydych chi’n gallu gwneud yr hyn y mae eich hyfforddwr eisiau i chi ei wneud?

    Neidiwr polyn: Hyfforddwr? Pa hyfforddwr? Pam y dylwn i fod angen hyfforddwr? Beth fyddai hyfforddwr yn gallu ei ddweud wrtha i nad ydw i’n ei wybod eisoes? Rhaid i mi gyfaddef, dydw i ddim wedi cael llawer o hwyl arni’n ddiweddar mewn cystadlaethau, ac rydw i wedi torri ambell asgwrn o dro i dro, ond felly mae bywyd ynte? Fe ddalia i ati - efallai y bydda’ i’n gwella ymhen amser. 

    Mae’r neidiwr polyn yn mynd allan; fe allai smalio baglu ar draws ei bolyn ar y ffordd allan os gallwch chi ymarfer hynny fel bod yn ei wneud mewn modd diogel!

    Holwr: Well, dyna ni gyfeillion! Fe’ch gadawaf i chi gyda’r un cwestiwn: yn ras bywyd, sut rydych chi’n gallu gwneud yr hyn y mae eich hyfforddwr eisiau i chi ei wneud?

  3. Gofynnwch i’r plant oddi wrth bwy maen nhw’n dysgu? Pwy maen nhw’n ei ystyried sy’n hyfforddwr iddyn nhw mewn bywyd? Ceisiwch gynnwys rhai fel rhai sy’n eu hyfforddi mewn chwaraeon, athrawon, rhieni ac oedolion eraill, ffrindiau, plant eraill y dosbarth, etc. Hefyd, anogwch y plant i ystyried faint maen nhw’n ei ddysgu o lyfrau, o’r rhyngrwyd a chyfryngau eraill.

  4. Dewisol: Siaradwch am fywyd Paul. Yn llyfr yr Actau yn y Beibl, rydyn ni’n dysgu am ddyn o’r enw Paul, a welodd ei fywyd fel ras. Yn un o’i lythyrau, fel roedd yn nesu at ddiwedd ei oes, fe ysgrifennodd: ‘Yr wyf wedi ymdrechu’r ymdrech lew, yr wyf wedi rhedeg yr yrfa i’r pen, yr wyf wedi cadw’r ffydd.’ (2 Timotheus 4.7).

    Fel pistol cychwyn ras, fe nododd golau a’i dallodd ar y ffordd i Ddamascus ddechrau bywyd Paul gyda Iesu fel ei hyfforddwr. Roedd yr anogaeth a gafodd ar hyd y ffordd, wrth i rai eraill ddysgu am Iesu, yn ei symbylu i ddal ati â’r gwaith caled. Doedd pethau fyddai’n ei atal ddim yn rhwystr iddo – dim hyd yn oed llongddrylliad, afiechyd, na bod mewn carchar. Doedd dim yn ei ddal yn ôl.

    Fel y gymnastwr, fe dreuliodd Paul amser yn dod i adnabod ei hyfforddwr, Iesu, trwy weddi. 

    Fel y rhedwr, fe ddarllenodd y llawlyfr – yr Hen Destament – a’r storïau oedd wedi cael eu hadrodd am Iesu, er mwyn atgoffa’i hun am yr holl bethau roedd ei hyfforddwr, Iesu, wedi’i ddysgu iddo.

    Fel y codwr pwysau, fe dreuliodd amser gyda phobl eraill oedd yn ystyried Iesu fel eu hyfforddwr, felly roedden nhw’n gallu rhannu eu profiadau ac annog ei gilydd. 

    Fel y marchogwr, fe ddefnyddiodd ganeuon i godi ei ysbryd pan oedd yn y carchar, ac i’w atgoffa am y gwirionedd.

    Fe fu Paul yn byw ei fywyd gyda Iesu fel ei hyfforddwr. Gyda hyder, fe allai fynd yn ei flaen a dweud: ‘Bellach y mae torch cyfiawnder ar gadw i mi; a bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn yn ei chyflwyno hi imi ar y dydd hwnnw ’ (2 Timotheus 4.8).

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gad i ni feddwl am ein bywydau fel ras.
Fel y neidiwr polyn, ydych chi’n meddwl y gallwch chi wneud y gamp ar eich pen eich hun?
Ydych chi’n teimlo nad oes arnoch chi angen cyngor gan unrhyw un?
Neu, a ydych chi’n cydnabod fod arnoch chi angen pobl eraill i’ch helpu chi?
Pwy yw eich hyfforddwr?
Ar bwy rydych chi’n gwrando?
Pwy sy’n eich arwain a’ch cynghori ar hyd y ffordd?
Pwy sy’n eich annog pan fydd pethau ddim yn hawdd?
Eich rhieni? Eich ffrindiau? Eich athrawon?
Gadewch i ni dreulio munud bach i fod yn ddiolchgar i’r bobl hynny.

Gweddi
Arglwydd Iesu, mae gennym gymaint o bethau i ddiolch i ti amdanyn nhw.
Diolch am yr hwyl gawn ni wrth wylio’r gemau Olympaidd,
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Am bopeth rydyn ni wedi’i ddysgu am Paul,
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Am yr holl bobl sy’n ein helpu ni, ac yn ein harwain,
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Fe ddaethost ti i redeg y ras gyda ni yn y byd yma,
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Rwyt t i gyda ni bob amser fel ein hyfforddwr, trwy’r Ysbryd Glân,
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Fe allwn ni weddïo arnat ti unrhyw bryd ac yn unrhyw le,
Diolch i ti, Arglwydd Iesu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon