Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yn Falch o Fod yn Fyw

Dathlu’r llawenydd syml o gael bod yn fyw!

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu’r llawenydd syml o gael bod yn fyw!

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Efallai y gallech chi ganu’r addasiad Cymraeg canlynol ar yr un dôn, a chael y  plant i’w dysgu:

    Rwy’n falch o fod yn fyw,
    Yn falch o’r awyr las,
    Yn falch o lwybrau’r wlad - 
    Mwynhau fy ngorau glas.

    Ar ôl yr haul, daw’r glaw,
    Ar ôl y glaw daw’r haul, 
    Dyma’r drefn yn y byd,
    Popeth bob yn ail.

    Cofiwn beth allwn wneud, 
    Ar dywydd braf neu gas,
    Yw tyfu’n dal a hardd
    Tua’r awyr las. 

  2. Gofynnwch i’r plant pa fath o deimlad mae’r gân yn ei gyfleu. Chwiliwch am ymateb fel llawen, hapus, diolchgar etc. Beth maen nhw’n ei feddwl y mae’r awdur yn ceisio’i ddweud gyda’r brawddegau, ‘Ar ôl yr haul, daw’r glaw, Ar ôl y glaw daw’r haul,’? Oes ffordd arall o ddweud yr un peth? Er enghraifft, fydd pethau ddim yn anodd bob amser. Mae cydbwysedd o adegau da ac adegau sydd ddim cystal mewn bywyd. Mwynhewch yr adegau da tra maen nhw’n parhau, a chofiwch na fydd y cyfnodau sydd ddim cystal yn parhau am byth.

  3. Gofynnwch i’r plant feddwl am ba bethau eraill y gallen nhw’u cynnwys mewn cân debyg i hon, a fyddai’n dechrau â’r un geiriau: Rwy’n falch o fod yn fyw ....’ Gwerthfawrogwch bob cynnig, ac ysgrifennwch y cynigion ar siart droi neu fwrdd gwyn, er mwyn i bawb gael eu gweld.

  4. Efallai y gallech chi droi hyn y fath o gystadleuaeth. Eglurwch yr hoffech chi i’r plant ddefnyddio rhai o’r syniadau rydych chi wedi’u nodi, a’u llunio’n benillion eu hunain, i’w canu ar yr un dôn, o bosib, (gwelwch enghraifft yn dilyn). Rhowch enghraifft iddyn nhw wedi’i seilio ar rai o’r awgrymiadau. Fe allai’r penillion fod yn rhywbeth tebyg i hyn:

    Rwy’n falch o fod yn fyw,
    Yn falch o allu canu,
    Yn falch o allu chwarae,
    Ac yn gallu gwenu.

    Gallwch gymryd yr ail bennill o’r gerdd sydd ar y dechrau fel cytgan os hoffech chi, a mynd ymlaen wedyn i lunio pennill olaf eich fersiwn chi, a chanu’r ail bennill eto fel cytgan i orffen.

    Chwerthin hapus weithiau, 
    Dro arall - wyneb gwg!
    Ond fe ddylem geisio gwenu
    Trwy’r amser da a’r drwg. 

    Ond mae’n debyg y gallech chi wneud yn well na hyn!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Darllenwch trwy’r rhestr syniadau, a gofynnwch i’r plant feddwl am y pethau hyn, a meddwl pa bethau y bydden nhw’n hoffi eu cynnwys yn eu cân eu hunain.

Gweddi
Gofynnwch i’r plant ddefnyddio geiriau’r gân fel gweddi tra rydych chi’n darllen y geiriau. Awgrymwch y gallan nhw wrando ar y geiriau’n unig, neu wneud y weddi yn weddi iddyn nhw’u hunain trwy ymuno ar y diwedd i ddweud ‘Amen’ gyda chi.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon