Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pethau Da

Helpu’r plant i feddwl am y pethau da yn eu bywydau, a sut y mae’n bosib rhannu’r pethau rheini.

gan The Revd Sophie Jelley

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i feddwl am y pethau da yn eu bywydau, a sut y mae’n bosib rhannu’r pethau rheini.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen bocs storio, sy’n focs dydych chi ddim yn gweld trwyddo, a hwnnw’n cynnwys rhai ‘cynhwysion’ e.e. ffa pob, Ready Brek, dwr, banana, coffi, ynghyd â rhai pethau mwy bisâr fel hylif golchi llestri a thun o fwyd cath, etc.

  • Bwrdd er mwyn gallu arddangos.

  • Jar o rywbeth melys i’w daenu, fel mêl, jam, neu jam siocled, a llwy de (cadwch y rhain o’r golwg yn y bocs storio).

  • Mwgwd i’w roi dros y llygaid, bowlen gymysgu, a llwy bren.

  • Ffedogau, un maint plentyn ac un maint oedolyn, i fod yn ddelfrydol.

  • Trafodwch eich cynllun o flaen llaw gydag un o’ch cyd athrawon sy’n barod i wirfoddoli!

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant pwy sy’n hoffi coginio? Dywedwch eich bod chi wrth eich bodd yn coginio, a’ch bod awydd gwneud rhywfaint o goginio yn y gwasanaeth heddiw. Gofynnwch i un o’ch cyd athrawon sy’n barod i ddod atoch chi i ymuno yn y gweithgarwch  – holwch y plant ydyn nhw’n meddwl eich bod yn gogydd da. Clymwch fwgwd am lygaid yr un sydd wedi gwirfoddoli i’ch helpu, a gofynnwch i’r unigolyn hwnnw a yw’n eich trystio. Nawr, dewiswch blentyn i ddod i’r tu blaen i’ch helpu gyda’r cymysgu. Gwisgwch chi un o’r ffedogau a rhowch y llall i’r plentyn ei gwisgo.

  2. Dewch â’r cynhwysion i’r golwg a’u rhoi ar y bwrdd, a gofynnwch i’r gwirfoddolwr sy’n gwisgo’r mwgwd a yw’n teimlo’n nerfus o gwbl. Yn eu tro, ychwanegwch rywfaint o bob un o’r cynhwysion i’r fowlen tra mae’r plentyn yn cymysgu’r cyfan. Dangoswch y gymysgedd i weddill y plant ar ôl i chi orffen - fe ddylai fod fel past o liw brown atgas. Dywedwch eich bod yn meddwl bod angen cymysgu ychydig rhagor arno, ac oherwydd y gallai hynny fod yn broses braidd yn anniben fe fyddwch chi’n rhoi’r fowlen yn y bocs sydd gennych chi.

  3. Yn ofalus, rhowch y fowlen gymysgu yn ôl yn y bocs a chymryd arnoch eich bod yn cymysgu’r gymysgedd yn dda. Yna, cymrwch lwy lân, fel bod y plant yn meddwl eich bod yn mynd i roi ychydig o’r gymysgedd i’r athro arall ei flasu. Ond yn lle hynny, rhowch i’r athro ychydig o’r mêl neu’r jam siocled neu beth bynnag sydd gennych chi yn y jar wedi’i guddio yn y bocs. Gofynnwch i’ch cyd athro sut flas sydd arno - fe ddylai fod yn flasus. Rhowch gymeradwyaeth i’r ddau sydd wedi bod yn eich helpu a gofyn iddyn nhw fynd yn ôl i eistedd.

  4. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n meddwl eich bod wedi rhoi’r gymysgedd o’r fowlen i’r athro, mewn gwirionedd? Nawr, dangoswch y jar i’r plant gan ddweud na fyddech chi byth yn gwneud rhywbeth cas felly, nac yn gwneud dim i niweidio’ch cyd athro. Yn lle hynny, fe wnaethoch chi roi rhywbeth melys a hyfryd a da iddo ef neu hi.

  5. Yn fyr, yn eich geiriau eich hun, adroddwch y stori sydd i’w gweld yn y Beibl yn Luc 11.9–13. Dyna pryd mae Iesu’n dysgu’r bobl am weddi, ac yn egluro pan fydd rhywun yn gweddïo ar Dduw am rywbeth, dim ond pethau da y mae Duw eisiau eu rhoi i ni. Soniwch am y pysgodyn a’r wy, y bwyd mae rhywun eisiau i dyfu a byw, nid y neidr a’r sgorpion, a allai achosi dolur a niwed.

  6. Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn dda, a bod Duw eisiau i bobl gael pethau da yn eu bywydau: bwyd a dillad, addysg a ffrindiau, etc. Rydyn ni’n gwybod nad yw pob plentyn yn gallu cael y pethau da y mae arnyn nhw’u hangen, ond a allwn ni wneud mwy i rannu’r pethau da sydd yn y byd?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Meddyliwch am yr holl bethau da sydd gennych chi. Treuliwch foment neu ddwy yn bod yn ddiolchgar.
Beth allech chi ei wneud i helpu i ledaenu pethau da i’r rhai sydd o’ch cwmpas?
Beth allech chi ei wneud i helpu rhywun rydych chi’n ei adnabod?
Beth allech chi ei wneud i helpu pobl ledled y byd, sydd heb yr holl bethau da sydd gennych chi?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti yn dda.
Rwyt ti eisiau pethau da i ni.
Helpa ni i fod yn ddiolchgar am bob peth sydd gennym ni.
Helpa ni i rannu.
Helpa ni i ofalu.
Helpa ni i garu.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon