Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Cylchoedd Olympaidd

Defnyddio symbol y Cylchoedd Olympaidd i bwysleisio’r gwersi am gydberthynas ledled y byd.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio symbol y Cylchoedd Olympaidd i bwysleisio’r gwersi am gydberthynas ledled y byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llun mawr o’r Cylchoedd Olympaidd – mae’n rhwydd cael copi o’r logo oddi ar y rhyngrwyd (chwiliwch ar Google ymysg y delweddau - images). Fe allech chi ddefnyddio’r ddelwedd fel arweiniad, ond beth am ofyn i’r plant lunio fersiwn mawr o’r cylchoedd yn benodol ar gyfer y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod pa ddigwyddiad mawr ym myd chwaraeon sy’n cael ei gynnal yn Tsieina eleni. Dangoswch y llun o’r Cylchoedd Olympaidd iddyn nhw, a holwch oes rhywun yn gwybod beth yw ystyr y cylchoedd.

  2. Eglurwch fod y cylchoedd wedi’u defnyddio’n gyntaf fel arwydd am y Gemau Olympaidd gan sefydlydd y mudiad Olympaidd modern, Y Barwn Pierre de Coubertin, yn 1913. Mae’r pum cylch yn cynrychioli pum prif ran y byd: Affrica, yr Americas, Asia, Ewrop ac Ynysoedd y De. Mae pob baner genedlaethol yn y byd yn cynnwys o leiaf un o’r pum lliw, sef (o’r chwith i’r dde) glas, melyn, du, gwyrdd a choch.

  3. Bron 100 mlynedd yn ôl, fe welodd y Barwn Pierre de Coubertin pa mor bwysig oedd y Gemau Olympaidd fel digwyddiad i ddod â phobl o bob cwr o’r byd ynghyd. Roedd llawer o’r bobl oedd yn cymryd rhan yn siarad gwahanol ieithoedd, yn edrych yn wahanol, ac yn dilyn crefyddau gwahanol. Ond, am gyfnod byr fe fyddai pob gwahaniaeth yn cael ei roi o’r neilltu wrth i athletwyr o bob cenedl gystadlu yn erbyn ei gilydd.

    Roedd y Barwn de Coubertin yn awyddus i’r cylchoedd fod i gyd wedi’u cysylltu â’i gilydd, nid cylchoedd unigol wedi’u gosod ochr yn ochr, ac ar wahân. Roedd yn teimlo bod y chwaraeon yn cysylltu’r cenhedloedd â’i gilydd.

  4. Os teimlwch fod hynny’n briodol, fe allech chi holi’r plant a yw safbwynt Coubertin ynghylch cydberthynas ledled y byd yn parhau i fodoli rhwng gwledydd y byd heddiw, wrth i ni edrych ymlaen at y Gemau Olympaidd – efallai y bydd rhai plant yn cofio clywed ar y rhaglen Newsround, neu ar y newyddion, am yr anawsterau fu yn ystod gorymdaith y ffagl dân Olympaidd. Efallai y byddwch yn awyddus i drafod hyn, a chynnwys y syniad o ddelfryd: rhywbeth y mae pobl yn cytuno ei fod yn dda, ac y maen nhw’n amcanu amdano, hyd yn oed os nad ydyn nhw bob amser yn llwyddo.

  5. Eglurwch fod y Cylchoedd Olympaidd yn rhoi i ni enghraifft wych o sut y dylai pethau fod yn ein byd: holl genhedloedd y byd wedi’u cysylltu â’i gilydd, waeth pa mor dlawd neu gyfoethog ydyn nhw, a pha beth bynnag yw eu ffydd neu grefydd y bobl, etc. Fe allech chi hefyd sôn am yr estyniad i’r ddelfryd Olympaidd gyda datblygiad y Gemau Paralympaidd.

  6. Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn caru pawb fel ei gilydd, fel mae’n cael ei awgrymu gan y Cylchoedd Olympaidd. Wrth i chi edrych ar y Cylchoedd Olympaidd, does dim gwahaniaeth yn cael ei wneud rhwng y gwledydd. Yn hytrach, mae pob gwlad yn cael ei chynnwys mewn rhyw ffordd gyda lliwiau pob baner genedlaethol yn y byd yn cael eu cynnwys yn y pum cylch.

  7. Anogwch y plant i feddwl am neges y gwasanaeth yma pan fyddan nhw’n gweld llun y Cylchoedd Olympaidd ar y teledu, neu yn unrhyw le arall, yr haf yma.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Oedwch am foment i feddwl am bobl mewn rhannau eraill o’r byd.
Heddiw, mae llawer yn newynu, llawer yn ddigartref, a llawer yn ofnus.
Yn ganolog i’r Gemau Olympaidd, mae’r syniad ei bod hi’n bosib i bawb gystadlu’n gydradd.
Beth ydych chi’n feddwl o’r syniad yma? Ydi hi’n bosib i chwaraeon a mabolgampau chwarae rhan mewn dod â heddwch a thegwch i’n byd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bopeth sydd gennym ni yn ein gwlad – rydyn ni’n arbennig o ffodus!
Diolch dy fod ti’n caru pobl ble bynnag y maen nhw yn y byd.
Helpa ni i feddwl bob amser am bobl eraill.
Helpa ni i ledaenu cariad Duw i’r rhai sydd o’n cwmpas.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon