Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Wynebu’r Bwli

Meddwl am wynebu gofidiau - waeth pa mor fawr mae’r rheini’n ymddangos ar y pryd.

gan Jenny Tuxford

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am wynebu gofidiau - waeth pa mor fawr mae’r rheini’n ymddangos ar y pryd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Trefnwch fod grwpiau o blant yn cael ymarfer dweud y gerdd.

  • Dewiswch nifer o grwpiau gwahanol i ddarlunio’r hyn sy’n cael ei ddweud ym mhob pennill, ar ffurf tablo neu ddarlun llonydd - fe allan nhw ffurfio’r darlun yn eu tro, fesul pennill, wrth i’r gerdd gael ei llefaru.

Gwasanaeth

Dafydd a Golïath

  1. Roedd y Philistiaid yno’n aros,
    Ar lethrau’r mynydd mawr,
    I ymladd yn erbyn yr Israeliaid
    Oedd yr ochr arall i’r dyffryn, nawr.
  2. Philistiad oedd Golïath 
    Roedd ef yn gawr i fri.
    Rhuai, ‘Pwy ddaw i’m trechu i?
    A’m lladd – os meiddiwch chi!
  3. Chwiliwch am rywun sydd am roi cynnig,
    Oes rhywun digon dewr gyda chi?
    Pe llwyddai fy nhrechu – ha-ha -ha-ha,
    Fe fyddaf yn gaethwas i chi!’
  4. Dyna oedd yr her gan Golïath,
    Fe waeddai'r un peth bob dydd.
    Doedd gan yr Israeliaid ddim gobaith,
    Roedd Golïath mor anferthol o gryf.
  5. Bugail bach cyffredin oedd Dafydd,
    Dywedodd ei dad wrtho, un dydd,
    ‘Dos â’r bwyd yma i’n milwyr ar y mynydd –
    Rhaid iddyn nhw gael bwyd. O bydd!’
  6. Felly aeth Dafydd â’r bwyd i’r milwyr,
    Gymaint ag a allai ei gario,
    A dyna lle clywodd yr hanes am Golïath 
    Yn galw ar rywun i’w herio.
  7. ‘Fe roddaf i gynnig,’ medd Dafydd,
    Y bugail fyddai ryw ddydd yn frenin,
    ‘Fe wnaiff Duw fy helpu i’n wir
    Bydd ei help ef yn fwy na’r cyffredin.’
  8. Gwisgai Golïath arfwisg drom,
    Roedd picell ganddo a tharian,
    Chwerthin a wnaeth pan welodd o Dafydd,
    Pa obaith fyddai gan un mor fychan!
  9. ‘Dwyt ti yn ddim ond bachgen bach,
    Sut meiddi di ddod yma?
    Fe wnaf dy ladd di ar un waith
    A’th roi di i’r adar i’w fwyta!’
  10. Roedd Golïath yn gawr mawr anferth,
    Crynai pawb wrth glywed ei fygythion.
    Pawb ond Dafydd, roedd ef yn ddewr,
    A chododd bum carreg o’r afon.
  11. Doedd gan Dafydd na helmed nac arfwisg,
    Na phicell na tharian i’w chario.
    Dim ond nifer o gerrig o’r afon
    A ffon dafl y bugail oedd ganddo.
  12. Fe redodd Dafydd yn ddewr i’w gyfarfod
    Ac anelu at y cawr mawr hwn.
    Fe daflodd y garreg o’r ffon dafl -
    Disgynnodd Golïath  yn drwm!
  13. Roedd y garreg wedi taro Golïath 
    Ar ganol ei dalcen yn union.
    Rhoddodd waedd dros y lle,
    A chwympo yn farw gelain!
  14. Bloeddiai’r Israeliaid mewn syndod,
    Roedd pawb yn gorfoleddu.
    Cododd y Philistiaid eu harfau i gyd …
    Rhedodd pob un, a diflannu!
  15. Roedd y bugail bach wedi lladd y cawr
    Gyda’i ffon dafl a nifer o gerrig.
    Penliniodd wedyn o flaen gorsedd Saul –
    Rhyw ddydd fe fyddai Dafydd yn frenin.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Profiad brawychus iawn fyddai ymladd â rhywun fel y cawr Golïath.
Yn ffodus, does dim rhaid i ni wynebu cawr fel hwnnw. Ond weithiau fe fydd y problemau sy’n ein hwynebu’n ymddangos ar y pryd yn enfawr ac aruthrol, fel Golïath. Efallai eich bod wedi dioddef cael eich bwlio, neu fod ffrind i chi wedi cael ei fwlio ryw dro. Beth ddylem ni ei wneud os ydyn ni’n cael ein bwlio? (Siarad ag oedolyn.)
Beth ddylem ni ei wneud os ydyn ni’n gweld rhywun arall yn cael ei fwlio? (Siarad ag oedolyn.)
Cofiwch: Roedd Golïath yn llawer mwy ac yn gryfach na Dafydd, ond Dafydd oedd yr un a enillodd.

Gweddi
Pan fydd bywyd yn anodd, helpa fi i gofio am Dafydd.
Pan fydd rhywun yn gas wrthyf fi, helpa fi i siarad ag oedolyn.
Pan fydd bywyd yn anodd i rywun arall hefyd, helpa fi i fod yn ffrind da.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon