Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dillad Gwarchod

Siarad am sut rydyn ni’n gofalu amdanom ein hunain, a sut mae Duw’n gofalu amdanom ni.

gan Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Siarad am sut rydyn ni’n gofalu amdanom ein hunain, a sut mae Duw’n gofalu amdanom ni.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dillad gyrrwr beic modur, e.e. helmed, menig, esgidiau, siaced, fest lachar, etc. (Bydd angen i chi fod yn ddyfeisgar i ddod o hyd i bethau fel hyn, os nad oes rhai gennych chi!).

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am y byd sydd o’n cwmpas, ac fel mae’n gallu bod yn lle digon garw ar brydiau – er enghraifft, fe allwn ni ddod ar draws mannau budr pan fyddwn ni’n mynd am dro allan yn yr awyr agored, neu fe allen ni gwympo i’r mwd. Weithiau, fe fyddwn ni angen dillad sy’n ein hamddiffyn rhag y baw neu rhag i ni gael dolur!

  2. Dangoswch y dillad gyrrwr beic modur: os yw hynny’n bosib efallai yr hoffech chi ofyn i un o’r plant ddod ymlaen i fod yn fodel i chi (er mwyn yr effaith, fe allai fod yn hwyl dewis plentyn gweddol fach, ond eto fe allai plentyn hyn fwynhau cael gwisgo dillad y gyrrwr beic modur). Sgwrsiwch am bob eitem fel mae’r plentyn yn ei wisgo; beth ydyw a beth yw ei bwrpas – sut mae’n gallu eich amddiffyn.

  3. Soniwch fod rhai rhannau o’r Beibl wedi’i ysgrifennu gan ddyn o’r enw Paul. Ar un adeg roedd Paul wedi cael ei arestio, ac roedd yn cael ei warchod gan filwyr Rhufeinig. Defnyddiodd Paul arfwisg y milwr fel llun, neu fel enghraifft, er mwyn cael egluro sut roedd ef yn credu bod Duw yn ein hamddiffyn ni ac yn ein gwarchod rhag drygioni. Dywedodd Paul fod y gwirionedd fel belt, a bod gair Duw fel cleddyf.

  4. Mae pethau drwg yn gallu digwydd i bob un ohonom, maen nhw’n rhan o fywyd. Ond os gwnawn ni gadw rhag ymuno â phethau drwg, a cheisio atal rhag gwneud pethau drwg ein hunain, ac os gofynnwn ni i Dduw ein helpu, yna fe fydd y pethau gwarchodol, amddiffynnol, gorau posib gennym - fel gwisg y milwr Rhufeinig, neu ddillad y gyrrwr beic modur.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Wrth i chi dynnu pob un o’r eitemau gwarchodol oddi ar y ‘model’, gofynnwch i’r plant awgrymu beth y gallai pob eitem fod yn ei chynrychioli, yn yr un ffordd ag y cyfeiriodd Paul at y belt a’r cleddyf. Er enghraifft:
Yr helmed – dweud y gwir
Y fest lachar – bod yn garedig
Esgidiau crydion – gwenu ar bobl

Gweddi
Gad i ni gyd fod yn gryfach oherwydd y geiriau caredig y byddwn ni’n eu dweud wrth rywun, a’r cymwynasau y byddwn ni’n eu gwneud â rhywun arall heddiw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon