Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pethau’n Newid

Meddwl am farwolaeth a phrofedigaeth, a chred llawer un mewn bywyd ar ôl y bywyd hwn.

gan Oliver Harrison

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am farwolaeth a phrofedigaeth, a chred llawer un mewn bywyd ar ôl y bywyd hwn.

Nodwch: Rhaid bod yn sensitif wrth arwain y gwasanaeth yma, ac (os ydych chi’n ymwelydd) mae’n well ei gynnal mewn ysgol lle rydych chi’n adnabod y plant yn dda, ac os oes gennych chi wybodaeth am unrhyw bethau allai fod wedi digwydd yn ddiweddar ym mywydau’r plant. Os oes gennych chi amheuaeth trafodwch gyda’r pennaeth o flaen llaw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy falwn, dwy sach gysgu, dau bâr o adenydd ‘tylwyth teg’ neu ‘angel’ i’w gwisgo.

  • Cerddoriaeth: ‘Fragile’ gan Sting (ar gael i’w llwytho i lawr).

  • Adnoddau ar gyfer helpu plant i ddeall mwy am farwolaeth a phrofedigaeth: Waterbugs and Dragonflies (Doris Stickney)
    Badger’s Parting Gifts (Susan Varley)
    When Goodbye is Forever (Lois Rock)
    The Goodbye Boat (Mary Joslin)

Gwasanaeth

  1. Dyma stori syml gydag ystyr dwfn iawn. Mae’n stori am rywbeth yn newid. Dangoswch y balwnau (wedi’u chwythu). 

    Dywedwch mai wyau bach ydyn nhw, un ar bob deilen, a phob un yn ddim mwy na maint dot neu sbecyn bach. O’r wy fe ddaw lindys. Galwch ar bawb i ysgwyd ei fys i gyfleu lindys yn symud.

  2. Symudwch y ddwy falwn o’r neilltu, a gofynnwch i ddau blentyn ddod ymlaen i gynrychioli’r ddau lindysyn.

    Mae’r ddau lindysyn yn ffrindiau mawr. Un diwrnod mae un o’r ddau lindysyn yn sylwi ei fod yn newid o ran pryd a gwedd. Mae’r ddau lindysyn yn dychryn, dydyn nhw ddim yn gwybod beth sy’n digwydd. 

    Ymhen ychydig, mae’r un oedd wedi dechrau newid yn troi’n gocwn (defnyddiwch y sach gysgu) ac yn araf yn diflannu o’r golwg. Mae’r lindys sydd ar ôl yn unig ac yn drist ac yn mynd i sefyll i’r ochr.

  3. Yn araf wedyn, mae’r un sydd y tu mewn i’r cocwn yn dod allan, ac mae wedi newid yn llwyr. (Rhowch bâr o adenydd iddi eu gwisgo.) Mae wedi troi’n bili-pala neu’n löyn byw. 

    Ac mae’n hedfan i ffwrdd. Gall sefyll ar yr ochr gyferbyn neu fynd i guddio o’r golwg.

  4. Ewch yn ôl at yr un oedd wedi cael ei adael ar ôl: gadewch i ni geisio meddwl sut roedd y lindysyn bach hwnnw’n teimlo. Gofynnwch i’r plant ddweud wrthych chi beth maen nhw’n ei feddwl.

    Ond yn fuan wedyn, mae’r lindys bach hwnnw hefyd yn dechrau newid (estynnwch y sach gysgu arall ... ac wedyn y pâr arall o adenydd …).

    Mae’r ddau oedd yn arfer bod yn lindys yn dod o hyd i’w gilydd unwaith eto, ond erbyn hyn maen nhw’n ddau bili-pala!

  5. Gofynnwch i’r plant beth fyddai orau ganddyn nhw, bod yn lindys sy’n cropian dros y pridd yn bwyta dail, neu’n bili-pala hardd sy’n gallu hedfan yn rhydd i unrhyw le a byw ymysg y blodau?

    Gofynnwch i bawb wneud ystum lindys â’u bysedd eto, ac yna dangoswch ddwylo pili-pala (gyda bodiau’r ddwy law wedi cydgloi, ysgwyd y bysedd eraill fel adenydd).

  6. Mae pobl sydd â ffydd yn credu nad yw marwolaeth yn ddiwedd ein bywydau, ond yn hytrach yn ddechrau newydd ar fywyd o fath arall – yn debyg i sut mae pethau cyn i chi gael eich geni, doedd gan yr un ohonom syniad sut le oedd y tu allan i fol mam. Mae dysgeidiaeth sawl ffydd yn dweud wrthym ni ein bod ni’n symud i fath arall o fywyd ar ôl i ni farw, yn union fel mae’r pili-pala yn dod allan o’r cocwn.

  7. Sgwrsiwch am ba mor anodd yw hi pan fydd rhywun rydyn ni’n ei adnabod yn dda yn marw, ac yn ein gadael: sut roedd y lindys yn teimlo pan ddiflannodd ei ffrind o fewn y cocwn? 

    Fe allech chi sôn am anifeiliaid anwes yn marw, gan fod rhai o’r plant efallai heb brofiad o brofedigaeth colli rhywun agos yn y teulu neu rywun arall maen nhw’n ei adnabod. Eglurwch ei fod yn beth naturiol i deimlo’n drist pan fydd hynny’n digwydd, gan fod hynny’n dangos eich bod yn caru’r un sydd wedi mynd, ac yn gweld ei golli.

  8. Gorffennwch trwy atgoffa’r plant am harddwch a hyfrydwch y pili-pala, ac am y rhyddid sydd ganddyn nhw. Atgoffwch y plant hefyd o’r pleser gawn ninnau wrth weld y creadur bach tlws hwnnw’n hedfan o flodyn i flodyn.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Ar ôl i chi fynd dros y stori’n gryno eto, rhowch ysbaid o dawelwch i’r plant feddwl. Efallai yr hoffech chi chwarae’r gerddoriaeth ‘Fragile’ gan Sting tra bydd y plant yn myfyrio.

Gweddi
Arglwydd Dduw, mae’n anodd iawn i ni fod ar wahân i’r bobl rydyn ni’n eu caru.
Rydyn ni’n gweld eu colli bob dydd.
Helpa ni i gofio stori’r am y lindys a’r pili-pala pan fyddwn ni’n teimlo’n drist,
a helpa ni i geisio teimlo’n falch o ryddid a harddwch y pili-pala a welwn ni yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon