Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dweud Helo wrth Flwyddyn Ysgol  Newydd

Darparu gwasanaeth i groesawu blwyddyn newydd ysgol newydd.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Darparu gwasanaeth i groesawu blwyddyn newydd ysgol newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen paratoi, ond fe fyddai OHP yn ddefnyddiol wrth ddarllen y gerdd.

  • Ond, os hoffech chi, fe fyddai’n bosib actio’r stori pe byddech yn paratoi hynny o flaen llaw. Ac fe allai rhai o’r plant gyflwyno’r gerdd, yn unigol, neu fel parti llefaru.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud ‘Helo’. Sylwch ar y plant sy’n ymateb i chi gyda gwên, a dywedwch wrthyn nhw pa mor dda mae hynny’n gwneud i chi deimlo wrth i chi sefyll yno o’u blaenau. Gwahoddwch y plant i wrando ar eich stori.

  2. Mr Haia

    Roedd Mr Haia yn berchen ar siop fechan oedd yn gwerthu papur newydd a melysion. Yn anffodus, dyn sarrug iawn oedd Mr Haia, ac oherwydd hynny roedd yn ddyn unig hefyd. Roedd yn sarrug pan godai yn y bore, roedd yn sarrug trwy gydol y dydd, ac fe fyddai’n sarrug wrth fynd i’w wely yn y nos. Bob dydd, fe safai wrth ddrws y siop yn gwylio’r bobl yn mynd heibio. Roedd Mr Haia yn methu deall pam nad oedd cwsmeriaid yn dod i mewn i’r siop. 

    Un diwrnod, fe ddaeth bachgen bach heibio gan feddwl prynu hufen ia. Ond pan welodd wyneb sarrug Mr Haia, roedd gormod o ofn arno i fynd i mewn i’r siop, felly aeth oddi yno heb brynu hufen ia. Daeth dyn heibio i brynu papur newydd. Wnaeth Mr Haia ddim gwenu arno, nac edrych fel pe bai am ei annog i brynu rhywbeth, felly fe aeth y dyn i siop arall i brynu ei bapur newydd. Daeth merch fach yno wedyn i brynu melysion. Ond cyn iddi ddewis pa felysion a hoffai, fe ofynnodd i Mr Haia, ‘Pam rydych chi’n edrych mor sarrug trwy’r amser?’ Rhythodd y siopwr yn gas arni, ac fe ddychrynodd y ferch fach gymaint fel y rhedodd oddi yno.

    Dechreuodd fwrw glaw, ac aeth Mr Haia allan trwy’r drws i nôl y stand papur newydd oedd y tu allan a dod â’r papurau i mewn rhag iddyn nhw wlychu. Wrth basio’r drws gwydr, oedd ar agor, fe welodd adlewyrchiad o ddyn oedd â golwg sarrug iawn arno. Dyna syndod a gafodd Mr Haia pan sylweddolodd ei fod yn edrych ar lun ohono’i hun! Fe safodd ac edrych ar yr adlewyrchiad am foment. Yna, fe newidiodd ei wyneb, ac fe ddechreuodd chwerthin. ‘Dim syndod pam nad oes pobl yn dod i mewn i’r siop,’ meddai wrtho’i hun.

    Erbyn hyn, fe hoffai olwg y Mr Haia arall. Dechreuodd dynnu wynebau digri arno’i hun, a pharodd hyn iddo chwerthin yn uchel dros y lle. Clywodd y bobl ar y stryd y swn chwerthin mawr, ac fe ddaethon nhw yno i weld beth oedd yn bod. ‘Helo,’ meddai Mr Haia wrthyn nhw, gan wenu. 

    Cyn pen dim, roedd yno gwsmeriaid yn chwerthin yn braf gyda Mr Haia, ac fe ddechreuodd rhai ohonyn nhw hefyd dynnu wynebau digri yng ngwydr y drws. Dyna wahaniaeth! Ac wrth i ragor o bobl ddod i mewn trwy’r drws, roedd Mr Haia’n gwenu ar bob un ac yn gwneud i bawb deimlo bod croeso yno iddyn nhw yno. 

    Daeth y siop fach yn lle poblogaidd iawn gan y plant lleol a’u rhieni. Roedd pawb yn gwenu yno, a byddech bob amser yn clywed Mr Haia yn dweud ‘Helo’ yn glên.

    Tybed ai dyna pam mae rhai pobl erbyn hyn yn dweud ‘Haia’ weithiau yn hytrach na ‘Helo’?

  3. Efallai yr hoffech chi roi rhywfaint o amser i’r plant drafod y stori, cyn cyflwyno’r gerdd ganlynol.

    Helo 
    addasiad o gerdd gan Jan Edmunds

    Mae bob amser yn braf clywed rhywun yn dweud ‘helo’,
    a chael eich cyfarch gyda gwên.
    Pan fyddwch chi’n cwrdd â rhywun welwch chi,
    Digon hawdd yw bod yn glên.
    Mae’n dangos ein bod yn groesawus,
    Bydd pawb yn teimlo’n ddibryder
    Wrth weld rhywun yn eu cyfarch yn llon -
    Cofiwch wneud hynny bob amser!

    Nid yw’n costio'r un ddimai goch
    i ddweud ‘helo’ bach cyfeillgar,
    Dangos ein bod yn barod i gyfarch unrhyw un,
    A gwneud hynny mewn ffordd groesawgar.

    Gofalwch wneud yr ysgol yn lle dymunol,
    Mae peth bychan fel hyn yn gallu helpu sefyllfa.
    Dywedwch ‘helo’ wrth bawb a welwch,
    I ddangos i bob un bod croeso yma. 

    Felly, cyfarchwn ein gilydd gyda ‘haia’ neu ‘helo’,
    Wrth gwrdd â rhywun arall, pwy bynnag fo.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Efallai nad ydym yn siarad yr un iaith â phobl eraill. Efallai nad ydym yn dilyn yr un grefydd, neu’n dod o’r un math o gefndir - ond mae’r gair ‘helo’, ynghyd â gwên gyfeillgar yn iaith fyd-eang cyfeillgarwch.
(Dewisol)
Hyd yn oed pan fyddwn yn teimlo bod y byd yn mynd o’i go,
Gwnewch ymdrech bob amser i ddweud ‘helo’.
Fydd pobl wedyn ddim yn teimlo’n ddrwgdybus,
Bydd dweud helo’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus.
Hyd yn oed os nad ydym yn siarad yr un iaith,
Bydd pawb yn deall ‘helo’, mae hynny’n ffaith!

Gweddi
Wrth i ni ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd hon, helpa ni i wneud ffrindiau, i ddysgu pethau newydd, ac i fwynhau ein hamser yn yr ysgol gyda’n gilydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon