Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dod i’ch Adnabod

Archwilio’r syniad bod gan y disgyblion, yr athrawon a disgyblion newydd, lawer i’w ddysgu am y naill a’r llall. Defnyddio diagram Carroll i gyflwyno gwybodaeth.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Archwilio’r syniad bod gan y disgyblion, yr athrawon a disgyblion newydd, lawer i’w ddysgu am y naill a’r llall. Defnyddio diagram Carroll i gyflwyno gwybodaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen copi o’r llyfr Alice in Wonderland gan Lewis Carroll (dewisol).

  • 4 darn mawr o bapur gwyn wedi’u gosod gyda’i gilydd â thâp gludiog, (ar ffurf ffenestr pedwar paen).

  • 4 label yn dangos y geiriau Gwallt Tywyll, Gwallt Golau, Geneth, Bachgen.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant a oes rhywun wedi clywed am ddyn o’r enw Lewis Carroll. Fe fyddwch yn gobeithio bod un o’r plant hynaf efallai wedi darllen y llyfr Alice in Wonderland, ac yn gwybod mai Lewis Carroll oedd yr awdur. Rhowch foment neu ddwy i’r plant rannu’r hyn maen nhw’n ei wybod am y stori.

  2. Dywedwch wrth y plant bod Lewis Carroll yn byw yn ystod oes y Frenhines Victoria, a’i fod yn awdur enwog. Ond, mae’n debyg nad oes llawer o bobl yn gwybod ei fod hefyd yn ddarlithydd mewn mathemateg. Lewis Carroll oedd yr un a ddyfeisiodd y peth o’r enw diagram Carroll. Rydym yn mynd i ddarganfod beth yw diagram Carroll, ac mae’n bosib y byddwn ni’n gweld bod rhai o’r plant hynaf wedi defnyddio diagramau o’r fath eisoes wrth iddyn nhw gasglu a dosbarthu gwybodaeth yn y gwersi mathemateg.

  3. Gosodwch y darnau mawr o bapur gwyn ar y llawr. Ar y chwith i’r papurau, rhowch y ddwy label Gwallt Tywyll a Gwallt Golau. Ar hyd y gwaelod gosodwch y ddwy label Geneth a Bachgen. 

    Dewiswch ddosbarth sydd â’r nifer lleiaf o ddisgyblion ynddo, neu’r dosbarth derbyn, neu grwp arall o blant, i’ch helpu i ddangos diagram Carroll ar waith. Eglurwch eich bod yn mynd i ddosbarthu plant y grwp yn ôl lliw eu gwallt ac yn ôl pa un ai genethod neu fechgyn ydyn nhw. Gofynnwch i’r plant ddod ymlaen atoch fesul un, gan ofyn iddyn nhw ydyn nhw’n gwybod ym mha sgwâr y dylen nhw sefyll. Gall gweddill y plant yn y gynulleidfa helpu, hefyd.

    Wedyn, gofynnwch gwestiynau i’r plant hynaf yn ôl y wybodaeth sydd ar gael iddyn nhw yn y sgwariau. Er enghraifft, faint o fechgyn sydd â gwallt golau? Faint yn fwy sydd o ferched â gwallt tywyll na bechgyn sydd â gwallt tywyll?

  4. Eglurwch, wrth i ni ddechrau blwyddyn ysgol newydd, bod nifer o blant wedi symud i ddosbarthiadau newydd gydag athrawon newydd. Mewn ambell ddosbarth, mae plant newydd. Efallai bod ambell ddosbarth wedi ymuno â dosbarth arall am y tro. Ac mae gennym lawer i’w ddysgu am y naill a’r llall!

    Mae’n hawdd iawn gweld pa un ai gwallt tywyll neu wallt golau sydd gennym, neu a ydym yn fyr neu’n dal, neu’n dawel neu swnllyd! Ond mae cymaint mwy i’w ddysgu am y naill a’r llall. Mae cymaint o ddiddordebau a doniau sy’n datblygu ym mhob un ohonom. 

    Ychydig o bobl, yn cynnwys yr athrawon efallai, sy’n gwybod bod Lewis Carroll nid yn unig yn awdur enwog ond yn fathemategydd enwog hefyd.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Roedd Lewis Carroll yn un da am ysgrifennu storïau yn ogystal â bod yn dda mewn mathemateg.
Meddyliwch am ddau beth rydych chi’n dda am eu gwneud. Efallai y gallech chi rannu’ch syniadau â’ch athro neu’ch athrawes wedi i chi fynd yn ôl i’r dosbarth.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am gael bod yn fi fy hun!
Diolch i ti fy mod i’n ‘sbesial’, ac nad oes unrhyw un arall yn union yr un fath a fi.
Diolch dy fod ti wedi fy ngwneud i ar dy ddelw di, sy’n golygu fy mod i’n gallu meddwl a gwneud, llunio a chreu, a dysgu a mwynhau.
Helpa fi fel rydw i’n tyfu ac yn newid yn ystod y flwyddyn ysgol hon, i fod yr hyn rwyt ti wedi bwriadu i mi fod.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon