Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Malwod Mawr Melys

Cynyddu dealltwriaeth y plant o’r angen sydd gan bobl am degwch, er mwyn iddyn nhw gael bwyd.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cynyddu dealltwriaeth y plant o’r angen sydd gan bobl am degwch, er mwyn iddyn nhw gael bwyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen tin o falwod parod i’w bwyta (ar gael o siopau delicatessen).

  • Dewisol: Bag polythen neu ddeunydd clir y gallwch chi weld trwyddo, yn cynnwys melysion. Mae’n bwysig bod maint a siâp y melysion i’w gweld trwy’r bag, fel y gallwch chi smalio eu bod yn cynrychioli darnau o gig malwod mawr, e.e. melysion pineapple chunks neu rywbeth tebyg.

  • Os oes creaduriaid fel y malwod tir Affricanaidd gennych chi yn un o ddosbarthiadau’r ysgol, dewch ag un i’r golwg. Neu, os nad oes gennych chi rai, holwch oes rhywbeth tebyg ar gael, gan fod dangos malwen fyw yn siwr o ychwanegu at y ffactor ‘ych-a-fi’!

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch y thema, bwyd. Gofynnwch i’r plant ddyfalu beth ydych chi’n ei ddisgrifio: 
    Rhywbeth oer, melys, hufennog, hyfryd ar ddydd braf o haf, weithiau fe’i cewch mewn côn - hufen ia.
    Rhywbeth brown tywyll neu frown golau, weithiau’n wyn, yn cael ei werthu’n aml ar ffurf bar, mae’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi hwn - siocled.
    Cig da gyda blas melys arno …

    Bydd y plant hynny sy’n bwyta cig yn debyg o roi eu hawgrymiadau i chi. Derbyniwch rai awgrymiadau, ond eglurwch wedyn mai dyfyniad uniongyrchol sydd gennych chi yma gan fachgen 14 oed, o wlad Ghana, ar gyfandir Affrica. “Cig da gyda blas melys arno ….”
    Gofynnwch i’r plant ddyfalu am ba anifail y mae’n sôn felly, yn ôl y disgrifiadau canlynol:

    Does dim coesau gan yr anifail yma.
    Mae’n byw ar y tir.
    Mae ganddo gragen galed i’w amddiffyn.
    Mae ei enw’n odli â’r gair cragen ....  Ie! Malwen!!

    Byddwch yn barod am ambell ebychiad o atgasedd.

    Dewisol: (Os credwch chi ei bod hi’n briodol i chi wneud hyn, a gan gadw mewn cof beth yw polisi’r ysgol ynghylch bwyta melysion.) Dywedwch fod gennych chi gig malwen yn y bag, fyddai rhywun yn hoffi blasu tamaid? Dangoswch y bag melysion a chynnig peth o’i gynnwys i rai o’r plant, gan fwynhau’r peth os oes un o’r plant yn ddigon dewr i roi ei law yn y bag i gymryd un o’r melysion.

  2. Dangoswch y tun malwod ac eglurwch fod llawer o bobl yn ystyried cig malwod yn rhywbeth ‘sbesial’ i’w fwyta, yn enwedig yn Ffrainc. Mae malwod i’w cael yn y wlad hon hefyd, yn rhai o’n tai bwyta mwyaf moethus. Defnyddiwch y cyfle i archwilio’r syniad nad yw pawb yn hoffi’r un pethau i’w bwyta, ac y byddwn ni’n meddwl bod rhywbeth y mae pobl eraill yn ei wneud yn od, dim ond am nad ydym ni’n arfer gwneud y peth hwnnw. Fe allech chi sôn yma am eich hoff fwyd, a’r bwyd dydych chi ddim yn ei hoffi, a gallech holi’r plant oes rhai bwydydd dydyn nhw ddim yn ei hoffi.

    Os cawsoch chi afael ar falwod byw, dyma’r adeg i’w dangos. Gadewch hi yn y golwg tra byddwch chi’n dweud y stori yn y gobaith y bydd yn dod o’i chragen, ac y bydd y plant yn gallu gweld ei maint. Gofalwch olchi eich dwylo wedyn.

    (Gyda’r stori, mae’n bwysig i chi osgoi cyfleu’r teimlad bod bwyta malwod yn iawn i bobl dlawd mewn gwledydd tlawd, pobl sy’n methu cael ‘bwyd iawn’ fel ni. Eglurwch nad oes y fath beth â ‘bwyd iawn’ - a bod dywediad yn Saesneg sy’n datgan ‘one man’s meat is another man’s poison’ neu ‘gallai rhywbeth sy’n dda i  un fod yn ddrwg i rywun arall’. Neu, os hoffech chi fersiwn arall o’r un peth, fe allech chi ddadlau bod stecen hyfryd yng ngolwg un person yn anifail wedi’i lofruddio yng ngolwg rhywun arall sy’n llysieuwr, efallai!)

  3. Dywedwch y stori, sut y dechreuodd Gideon a Timothy, sy’n byw yn Ghana, fwyta cig malwod.

    Mae Gideon yn 11 oed, a’i ffrind gorau yw Timothy, sy’n 14 oed. Maen nhw’n byw mewn pentref bychan yng ngwlad Ghana, yn Affrica. Ffermwyr yw teuluoedd y ddau fachgen. Roedden nhw’n arfer tyfu casafa ac india-corn, ond ychydig o flynyddoedd yn ôl, fe ddywedodd perchennog y tir y byddai’n rhaid i bawb dalu rhagor o rent am y tir. Doedd Moses, tad Gideon, a Mathias, tad Timothy, ddim yn gallu talu rhagor o rent - doedd yr arian ddim ganddyn nhw. Felly, fe aeth y perchennog â’r tir oddi arnyn nhw, a’i werthu i gwmni mawr a ddaeth yno i dyfu afalau pîn. Doedd y teuluoedd ddim yn gallu tyfu bwyd iddyn nhw’u hunain wedyn. A doedd ganddyn nhw ddim arian i brynu bwyd. Bu’n rhaid i Gideon a Timothy stopio mynd i’r ysgol am nad oedd gan eu teuluoedd arian i dalu’r ffioedd. Roedd y ddau deulu’n anhapus iawn.

    Yna, fe glywson nhw am y Development Action Association (DAA), cymdeithas oedd â syniad anarferol ynghylch helpu pobl i gael bwyd. Dangosodd y DAA i bobl sut i fagu malwod, y brid malwod mawr Affricanaidd. Roedd gan y gymdeithas ‘fanc o falwod’, a chafodd Moses tad Gideon 168 o falwod ganddyn nhw. Mae’r malwod tir yma’n gallu tyfu’n fawr, gall rhai fod cymaint â 20cm! Wedi i’r malwod rheini gawson nhw gael llawer o rai bach, roedd Moses yn gallu rhoi rhai yn ôl i’r banc, fel ei bod hi’n bosib i’r gymdeithas eu rhannu â phobl eraill er mwyn iddyn nhw hefyd gael dechrau ffermio malwod.

    Mae Mathias, tad Timothy, hefyd yn cadw malwod erbyn hyn, a dyma a ddywedodd Timothy, ‘Cyn hyn, doedden ni ddim yn gallu cael bwyd bob amser. Nawr, rydyn ni’n gallu bwyta malwod bob dydd. Mae’n gig da, gyda blas melys arno.’

    Mae Gideon a Timothy yn helpu i ofalu am y malwod. Mae Gideon yn dweud, ‘Rydw i’n bwydo’r malwod ac yn rhoi dwr iddyn nhw, yn brwsio llawr yr ystafell ac yn golchi’r cafnau bwyd. Maen nhw’n fodd i’n teulu ni gael arian, ac maen nhw’n dda eu blas hefyd.’ Ambell dro, fe fydd y bechgyn yn dewis y malwod fydd yn barod i’w gwerthu yn y farchnad.

    Erbyn hyn, mae Gideon a Timothy yn edrych ymlaen tuag at y dyfodol. Fe hoffai Timothy fod yn yrrwr tacsi, ond dydi Gideon ddim wedi penderfynu eto beth a hoffai fod. Efallai y bydd yn ffermwr malwod, neu’n yrrwr lori. Neu, yn well na dim, yn beldroediwr!

  4. Fyddai Timothy a Gideon ddim wedi meddwl bwyta malwod oni bai bod y gymdeithas, y Development Action Association, wedi dod o hyd i syniad newydd, da. Ym mhob rhan o’r byd, mae pobl yn gorfod dod o hyd i ffyrdd newydd o fyw. Oherwydd y newid yn yr hinsawdd, mae rhai pobl yn ein gwlad ni hefyd yn gorfod meddwl am syniadau newydd. Pan gollodd teuluoedd y ddau fachgen eu tiroedd, roedd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i syniad newydd. Ond, a oedd hi’n deg bod y tir wedi cael ei gymryd oddi arnyn nhw yn y lle cyntaf?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Meddyliwch am y malwod yn y stori.
Ydych chi’n meddwl bod bwyta malwod yn beth rhyfedd?
Allwch chi weld bod rhai o’r pethau rydych chi’n eu bwyta yn gallu ymddangos yn od i bobl o wledydd eraill?
Rydyn ni yn y wlad hon yn bwyta pethau fel selsig neu sosej, ond fe allai rhai pobl mewn gwledydd eraill feddwl na fydden nhw’n hoffi pethau felly.
Mae llawer o bobl ledled y byd yn bwyta cig, ond mae rhai pobl sy’n llysieuwyr ac sydd yn methu hyd yn oed feddwl am fwyta cig anifail sydd wedi cael eu lladd!
Ydych chi’n meddwl ei fod yn bwysig bod pawb yn y byd yn cael digon i’w fwyta, ac yn cael eu trin mewn ffordd deg a chyfiawn?
Os yw hynny’n briodol, fe allech chi ddarllen yr adnodau, a’r addasiadau o ddyfyniadau, sy’n dilyn:
Onid dyma’r dydd ympryd a ddewisais: tynnu ymaith rwymau anghyfiawn, a llacio clymau’r iau, gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd, a dryllio pob iau? Onid rhannu dy fara gyda’r newynog, a derbyn y tlawd digartref i’th dy, dilladu’r noeth pan y’i gweli, a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun? (O’r Beibl, Llyfr Eseia 58.6–7)
Os gwelwch chi weithred ddrwg, newidiwch hi â’ch llaw, os na allwch chi wneud hynny, yna gwnewch â’ch tafod, ac os na allwch chi wneud hynny, yna gwnewch â’ch calon. (O’r Hadith Mwslimaidd - addasiad)
Cartref Duw yw ein byd. Mae’n byw ym mhob peth. Dim ond yr hyn y mae ar yr unigolyn ei angen y dylai ei gymryd, gan adael y gweddill i eraill, am mai eiddo Duw yw’r cyfan. (O’r Isa Upanishad Hindwaidd - addasiad)

Gweddi
Rwy’n meddwl am yr holl fwyd rwy’n gallu ei fwynhau.
Rwy’n meddwl am y bobl sydd heb ddigon o fwyd.
Annwyl Dduw, helpa ni, bob un ohonom, i wneud dy fyd di yn lle mwy teg.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

Mae’n debyg y byddai’n well pe gallech ymarfer y gân o flaen llaw, ond does dim yn eich rhwystro rhag rhoi tro arni’n fyrfyfyr. Canwch y geiriau ar y diwn, “ Mae’r ffermwr eisiau gwraig” (The Farmer’s in his Den), gan ychwanegu’r symudiadau priodol.

1 Mae’r ffermwr yn ei gae
Mae’r ffermwr yn ei gae  
I – AI – I – AI
Mae’r ffermwr yn ei gae.

2 Mae’n tyfu’r cnydau yd …

3 Rhaid iddyn nhw adael y tir …

4 Mae’n anodd iawn cael bwyd …

5 Dyma ddechrau magu malwod …

6 Erbyn hyn, mae mwy o fwyd …

7 Mae Duw’n ein helpu ni
I rannu â phawb yn deg
I – AI – I – AI
Mae’n ein helpu i fod yn deg.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon