Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Efeilliaid

Dangos y ffordd y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i siapio’n bywydau.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos y ffordd y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i siapio’n bywydau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Holwch a oes parau o efeilliaid yn yr ysgol. Os nad oes, tynnwch lun dau wyneb sy’n union yr un fath ar ddarn mawr o bapur. (Neu, chwiliwch o flaen llaw am ddau lun wyneb sydd yr un fath.)

  • Fe fydd arnoch chi angen siswrn.

  • Tynnwch lun siâp â phin ffelt ar ddarn mawr o bapur (gwelwch rhif 3).

  • Byddai OHP yn ddefnyddiol wrth i chi ddarllen y gerdd.

Gwasanaeth

  1. Cyflwynwch yr efeilliaid i’ch cynulleidfa, neu dangoswch y lluniau. Pan fydd dau frawd, dwy chwaer, neu frawd a chwaer sy’n edrych yr un fath, neu’n debyg iawn, a’r ddau wedi’u geni ar yr un diwrnod, beth fyddwn ni’n eu galw? Treuliwch ychydig o amser yn sgwrsio am beth sy’n debyg yn achos yr efeilliaid sydd yn y gwasanaeth, neu’r rhai sydd yn y lluniau.

  2. Cyflwynwch y gerdd.

    Efeilliaid 
    addasiad o gerdd gan Jan Edmunds  

    Efeilliaid yw dau blentyn, wedi’u geni ’run dydd.
    Y naill yn frawd neu’n chwaer i’r llall, beth bynnag a fydd.
    Ar wahân i’w henwau, y ddau ’run ffunud, fwy neu lai
    Pan fydd un yn gwneud drygau - bydd y ddau’n cael y bai!  
    Pan fydd y naill wrth ei fodd, bydd y llall yn hapus.
    Ond, pan fydd un yn drist, bydd y llall yn anhapus.
    Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd y ddau yn un,
    Saif y ddau gyda’i gilydd i wneud un tîm.
    Mae’r ddau unigolyn yn rhan o bâr,
    Ac o’r dechrau cyntaf, fe fyddan nhw’n rhannu eu siâr.

  3. Gofynnwch i’r efeilliaid eistedd, ac awgrymwch y gallwch chi gael gefeilliaid neu barau o bethau eraill sydd ddim yn fodau dynol, e.e. menig, esgidiau, sanau. Fe allech chi ofyn i’r plant awgrymu rhagor o barau o bethau.

    Dywedwch eich bod wedi dod â gefeilliaid gwahanol i’r plant eu gweld. Dangoswch y siswrn. (Dyma gyfle da i ddangos sut y dylem ni gario siswrn yn ddiogel.) Yn Saesneg, bydd pobl yn cyfeirio at y siswrn fel ‘a pair of scissors’. Mae’r ddau lafn a’r ddwy handlen yn gweithio gyda’i gilydd ac yn edrych yn debyg. 

    Gan ddefnyddio’r siswrn, torrwch oddi amgylch eich siâp ar y papur, gan bwysleisio bod yn rhaid i chi, wrth dorri, ddilyn y llinell yn ofalus. Mae’n debyg iawn i yrru car ar hyd ffordd - pe na byddem yn cadw ar y ffordd fe allen ni fynd dros yr ochr a chael damwain ddrwg.

  4. Yn ein bywydau, mae angen i ni ddilyn llwybr, ffordd o fyw a set o reolau sydd wedi’u dylanwadu gan ein ffydd, pa un ai’r ffydd Gristnogol, Mwslim, Hindw, Sikh neu unrhyw grefydd arall yw honno. Fe fydd hyn gobeithio yn ein cadw ar y llwybr iawn, ac i ffwrdd oddi wrth bethau allai ein harwain i gyfeiriadau anghywir. 

    Mae’n bosib i chi gynnal trafodaeth bellach yma, e.e. dysgu gwahaniaethu rhwng y pethau y gwyddom ni eu bod yn iawn a phethau sydd ddim yn iawn i’w gwneud. Gallech gyfeirio at fwlio, lladrata, a cham ddefnyddio cyffuriau, etc.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gadwech i ni feddwl am y pethau rydym wedi bod yn eu trafod heddiw. 

Gweddi
Helpa ni i weithio gyda’n gilydd i ddilyn llwybr goddefgarwch a chariad tuag at bawb rydyn ni’n dod i gysylltiad â nhw.
Dysga ni i wybod y gwahaniaeth rhwng beth sy’n iawn a beth sydd ddim yn iawn i’w wneud.
Helpa ni i feddwl am yn hyn y byddwn ni’n ei ddweud, a’i wneud, a sut y bydd y pethau hynny’n gallu effeithio ar bobl eraill.
Rho heddwch yn ein calonnau ac yn y byd.
Bendithia ni, bob un ohonom, a’n cadw yn ddiogel heddiw a hyd byth.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon