Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pêl-droed, Pêl-droed, Pêl-droed!

Defnyddio’r syniad o reolau ym myd chwaraeon i archwilio sut mae angen i ni gytuno â’n gilydd, a byw yn ôl rheolau yn ein cymunedau.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio’r syniad o reolau ym myd chwaraeon i archwilio sut mae angen i ni gytuno â’n gilydd, a byw yn ôl rheolau yn ein cymunedau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae rhan gyntaf y gwasanaeth yn ffug raglen chwaraeon ar y teledu, felly fe fyddai’n dda cael cerddoriaeth agoriadol fel cerddoriaeth thema Match of the Day neu rywbeth fel ‘Beautiful Day’ gan  U2, neu hyd yn oed gân Bryn Coch o gyfres C’mon Midffild.

  • Fe fydd arnoch chi angen nifer o ‘brops’ syml fel meicroffon a bwrdd clip, ac fe allech chi wisgo’n addas ar gyfer chwarae eich rhan fel cyflwynydd teledu.

  • Fe allech chi baratoi rhai plant o flaen llaw, i ddarllen stori Jessica.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch gyda’r ffug raglen chwaraeon. Chwaraewch y gerddoriaeth, ac yna dechreuwch ar eich cyflwyniad, fel pe byddech chi’n gyflwynydd rhaglen deledu.

    Noswaith dda, Ian Gwyn Hughes ydw i, a chroeso’n ôl i chi i’r rhaglen arbennig hon ar Gêm Derfynol Cwpan y Byd, Sgorio Heno. Os mai newydd droi’r teledu ymlaen ydych chi, mae’n hanner amser ar y chwaraewyr yng Nghystadleuaeth Derfynol Cwpan y Byd, a dyna i chi beth oedd hanner cyntaf! Ar yr hanner, mae Cymru ar y blaen yn erbyn Brasil 23 o goliau i 22.

    O, ie, fe ddylwn i egluro - ychydig o funudau cyn dechrau'r gêm cyhoeddodd un o swyddogion y Gymdeithas Bêl-droed bod y gemau blaenorol yn y gystadleuaeth wedi bod braidd yn ddigyffro. Felly, ar gyfer y gêm derfynol hon, maen nhw wedi newid y rheolau. Yn wir, maen nhw wedi penderfynu cael gwared â phob rheol. Caiff y chwaraewyr wneud beth bynnag fynnan nhw yn y gêm hon.

    Buan iawn y daeth Craig Bellamy i ymgyfarwyddo â hyn, ac fe gyfunodd ei waith croesi nodweddiadol â sgiliau pêl-rwyd hynod iawn! Tua 20 munud i mewn i’r gêm fe guddiodd Ronaldinho y bêl yn ei wallt, a gweiddi, ‘Edrychwch draw acw!’ ac yna fe redodd yr holl ffordd i fyny’r cae, a thaflu’r bêl i’r gôl.

    Ond y peth gorau a ddigwyddodd oedd pan anfonodd rheolwr tîm Cymru fasgot y tîm i’r maes - draig goch tair medr o daldra. Yn anffodus, fe achosodd hyn dipyn o gythrwfl rhwng hyfforddwyr Cymru a Brasil. Ond, gan nad oes unrhyw reolau i gadw atyn nhw, mae’n  bosib i’r rheolwyr wneud fel y mynnan nhw!

    Gadewch i ni fynd yn ôl nawr at y sylwebyddion ar gyfer yr ail hanner, a gweld beth sy’n …. O, mae’r chwaraewyr wedi dechrau cicio’r bêl eisoes, heb ddisgwyl am y chwiban. Yn wir, maen nhw wedi rhedeg o’r twnnel ar eu hunion tua’r gôl ac mae pob un o’r chwaraewyr yn cario pêl yn ei law. Wel yn wir! Edrychwch, mae’r  gwragedd a’r cariadon hefyd yn eu dilyn - a’r ‘gwrags’ yn cario pêl bob un hefyd! Well i ni fynd drosodd ar unwaith at Gareth yn y bocs sylwebu ....

    Chwaraewch rywfaint o gerddoriaeth eto, a’i ddistewi’n raddol.

  2. Siaradwch yn fyr am y gêm bêl-droed yn gyffredinol, a’r ffaith bod llawer iawn o bobl yn hoffi gwylio’r gemau. Mae rhai yn wyllt am bêl-droed - ond os na fyddai gennych chi reolau, fe fyddai gennych chi gemau pêl droed gwyllt fel yr un rydych chi newydd ei disgrifio! Atgoffwch bawb bod tîm Brasil yn un o brif dimau pêl-droed y byd, ac yna cyflwynwch y stori yma sy’n dod o Frasil.

    Stori Jessica
    Mae’r gêm bêl-droed yn cael ei chwarae ledled y byd, ond mae rheolau’r gêm yr un rhai, ble bynnag yr ydych chi – ac mae’r rheolau i gyd yn bwysig iawn er mwyn i’r gêm lwyddo.

    Ym Mrasil, mae grwp o bobl ifanc sydd hefyd yn credu bod rheolau yn bwysig – ac nid dim ond ar gyfer gemau pêl-droed. Lloches arbennig yw Passage House, sy’n cael ei rhedeg gan elusen, i helpu genethod ifanc sy’n cael trafferthion gartref, neu sy’n byw ar y strydoedd. Yno, caiff y genethod ofal, ac mae yno feddygon a deintyddion all eu trin os bydd angen. Bydd y genethod yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau fel dosbarthiadau dawns a drama, lle gallan nhw siarad am eu problemau.

    Yn Passage House, caiff y genethod gyfle i ail lunio eu bywydau. Ond, er mwyn cael hyn, mae rheolau i’w cadw. Rhaid iddyn nhw fynd i’r ysgol, peidio ag ymladd â’i gilydd, a rhaid iddyn nhw barchu ei gilydd. Os nad ydyn nhw’n cadw at y rheolau hyn, fe fydd yn rhaid iddyn nhw ymadael â Passage House. Mae hynny fel cael cerdyn coch.

    Roedd merch un ar bymtheg oed o’r enw Jessica Lins Silva yn arfer crwydro’r strydoedd, ac fe fyddai’n cweryla ac yn ymladd yn aml â phobl eraill. Ond, ers iddi dreulio rhywfaint o amser yn Passage House, mae’n dweud, ‘Rydw i wedi dysgu pob math o bethau – sut i ymddwyn yn briodol, sut i siarad yn iawn, sut i feddwl am bethau, a dadansoddi pethau. Cyn hyn, pe byddai rhywrai yn fy meirniadu, fe fyddwn i eisiau eu taro yn y fan a’r lle. Ond nawr, rydw i wedi dysgu sut i ymddwyn yn dderbyniol. Rydw i wedi newid.’

  3. Pwysleisiwch y ffaith, cyn i Jessica fynd i fyw i Passage House, ychydig iawn o reolau oedd ganddi yn ei bywyd. Ac roedd hynny’n golygu y byddai’n cael ei hun mewn rhai sefyllfaoedd peryglus. A pha un ai yn Passage House, ar y cae pêl-droed, neu yn eich ysgol, mae rheolau wedi’u llunio fel y byddwn ni’n gwybod beth sy’n dderbyniol i ni ei wneud a beth sydd ddim yn dderbyniol. Felly, fe fyddwn ni’n gwybod sut i ymddwyn, ac oherwydd hynny fe fyddwn ni’n cadw’n hunain yn ddiogel.

  4. Holwch y plant beth maen nhw’n feddwl fyddai’n digwydd pe na bai rheolau, a phe na bai pobl yn cadw at y rheolau rheini, fel yn y gêm bêl-droed a ddisgrifiwyd ar y dechrau? A yw’r plant yn gallu meddwl am enghreifftiau o achosion pan gafodd rheolau eu torri, naill ai yn eu profiad eu hunain, neu rywbeth y maen nhw wedi’i weld ar y teledu, neu mewn rhyw gêm welson nhw ryw dro? Beth ddigwyddodd?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant feddwl am reol mewn gêm, neu gartref, neu yn yr ysgol, y maen nhw’n ei chael yn anodd cadw ati. Beth sy’n digwydd pan fyddan nhw’n torri’r rheol honno?
A yw pob rheol yn deg?
Beth ddylem ni ei wneud os ydyn ni’n meddwl bod rheol yn annheg?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y gwaith da sy’n cael ei wneud mewn llefydd fel Passage House,
a diolch am y rheolau y mae’n rhaid i’r bobl yno eu cadw, er mwyn i bawb fod yn ddiogel.
Helpa ni i gadw’r rheolau sy’n ein cadw ninnau’n ddiogel,
pa un ai mewn chwaraeon, gartref, neu yn yr ysgol,
a rho i ni y doethineb i wybod sut i ddelio â rheolau sy’n ymddangos yn annheg.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon