Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dal Ati

Dysgu gwerth dyfalbarhau a gwneud eich gorau.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dysgu gwerth dyfalbarhau a gwneud eich gorau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen llun o Shanaze Reade gyda Chris Hoy. Ewch i Google Images, teipiwch yr enw 'Shanaze Reade' a defnyddiwch yr ail lun (o’r Daily Mail) o Shanaze a Chris Hoy.

Gwasanaeth

  1. Wel, a ninnau wedi bod yn ôl yn yr ysgol am tua XX wythnos (neu X mis), rydyn ni wedi hen arfer â’n sefyllfa newydd. Rydyn ni wedi setlo yn ein hystafelloedd newydd, wedi dod i arfer â’r athro neu’r athrawes a fydd yn ein dysgu am y flwyddyn, wedi ymgynefino â’r cynllun dosbarth newydd, â llyfrau newydd a phob math o wahanol bethau eraill. Erbyn hyn hefyd, efallai ein bod yn dechrau meddwl bod peth o’r gwaith yn anodd neu’n dechrau mynd yn drwm. Mae mis Tachwedd, yn gyffredinol, yn gallu bod felly. Mae’n nosi’n gynnar ac mae’r tywydd yn aml yn oer a gwlyb a diflas!

  2. Ar ddechrau’r tymor, fe fyddwn ni’n ceisio gwneud ein gorau glas yn y dosbarth. Fe fyddwn ni’n ceisio ysgrifennu’n daclus yn ein llyfrau newydd. Fe fydd pawb yn gwneud ymdrech i geisio cadw’i drôr yn daclus, ac fe fyddwn ni’n cymryd gofal i wneud ein gwaith cartref yn iawn. Mae’r un peth yn wir am yr athrawon hefyd! Rydyn ni i gyd yn frwdfrydig ac yn llawn hwyl, ond mae’n bosib ein bod, o dipyn i beth, yn dechrau blino ychydig ac yn tueddu i fod braidd yn ddifywyd. Weithiau, mae’n anodd dal ati i wneud gwaith caled fel dysgu sillafu a dysgu agweddau newydd ar fathemateg.

  3. Dangoswch y llun o Shanaze Reade gyda Chris Hoy, a gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n gwybod ym mha faes y mae hi wedi rhagori. Fe ddechreuodd hi ymddiddori mewn rasio gyda beic BMX pan oedd hi’n ddeg oed, ac roedd wedi prynu ei beic BMX cyntaf am £1. Fe enillodd hi ei gwobr Ewropeaidd gyntaf flwyddyn yn ddiweddarach.

    Cafodd Shanaze yr anrhydedd o fynd i Beijing i gystadlu yn y Gemau Olympaidd yn ddiweddar. Fe ddywedodd y pencampwr beicio, Chris Hoy: ‘Pe byddai raid i mi roi arian mawr (fel morgais fy nhy) ar rywun i ennill y fedal aur, fe fyddwn ni’n ei roi ar Shanaze.’

    Yn ystod y ras, roedd hi’n mynd yn dda iawn, ond roedd hi y tu ôl i feiciwr arall. Fe allai hi’n hawdd fod wedi aros yno yn yr un safle, a dod yn ail yn y ras, gan ennill y fedal arian. Ond wnaeth hi ddim. Fe fu’n ddewr, fe fentrodd. Ceisiodd basio’r un oedd ar y blaen, ond tarodd olwyn ei beic yn erbyn rhywbeth ac fe gafodd ddamwain ar y drofa olaf. O ganlyniad, chafodd hi ddim medal o gwbl.

    Wrth gael ei chyfweld yn ddiweddarach, fe ddywedodd Shanaze Reade: ‘Dydw i ddim wedi hyfforddi’n galed, galed, fel rydw i wedi gwneud, er mwyn cael medal arian. Roeddwn i eisiau medal aur neu ddim.’

    Holwch y plant beth fydden nhw wedi’i wneud pe bydden nhw yn ei lle hi?

  4. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gorfod wynebu anawsterau ac adegau anodd o dro i dro, rhai yn fwy na’i gilydd. Mae’n bwysig dal ati er gwaethaf anawsterau er mwyn llwyddo i wneud rhywbeth gwerth chweil. Weithiau, o bosib, fydd ein rhieni ni ddim yn teimlo awydd mynd i’r gwaith, neu efallai na fydd mam awydd dechrau smwddio’r pentwr dillad yn y fasged. Weithiau, fe fydd ambell bennaeth hyd yn oed ddim awydd codi o’i wely ar fore dydd Llun!

  5. Yn y Beibl, mae’r apostol Paul, sef y dyn cyntaf a gafodd y gwaith gan Dduw o fynd â’r neges am gariad Duw i bobl yn y byd nad oedden nhw’n Iddewon, yn dweud hyn: ‘Rwyf yn cyflymu at y nod.’

    Roedd Paul yn enghraifft wych o rywun fu’n dyfalbarhau, er bod pethau’n anodd iawn iddo. Yn ystod ei oes, fe gafodd ei guro a’i garcharu, a bu mewn llongddrylliad. Bu mewn pob math o wahanol sefyllfaoedd peryglus, ac fe brofodd newyn, syched a blinder hefyd. Ond, roedd yn dweud wrtho’i hun fod bywyd ar y ddaear yn fyr, ac roedd am wneud ei orau yn ystod ei fywyd er mwyn Duw. Ac fe wnaeth Paul hynny’n wir! Fe deithiodd ledled Ewrop yn pregethu’r newydd da am Iesu. Mae’n bosib na fyddem wedi clywed am Iesu Grist oni bai am Paul.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Pa dasg y byddwch chi’n ei hwynebu heddiw sy’n gofyn am ychydig bach o ymdrech ychwanegol?
Mae’r dewis gennych chi i wneud y dasg, neu i wneud y dasg yn dda.
Fel Shanaze Reade a’r apostol Paul, a llawer un arall tebyg iddyn nhw, ‘Gwnewch eich gorau glas heddiw!’

Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae rhai dyddiau yn dywyllach nag eraill.
Weithiau mae’r tywydd yn dywyllach.
Weithiau mae fy hwyliau yn dywyllach.
Weithiau mae’r pethau sy’n digwydd o fy nghwmpas yn fy mywyd yn gwneud i bopeth ymddangos yn dywyllach ac yn anoddach.
Helpa fi i godi uwchlaw fy nheimladau a’m sefyllfa, a helpa fi i beidio â gwastraffu'r diwrnod heddiw. 
Helpa fi i wneud fy ngorau glas heddiw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon