Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim Lle yn y Llety

Darparu cyflwyniad dosbarth, syml, sy’n atgoffa’r plant o wir ystyr y Nadolig.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Darparu cyflwyniad dosbarth, syml, sy’n atgoffa’r plant o wir ystyr y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Yn sicr, bydd gan athrawon eu syniadau eu hunain ynghylch sut i ddefnyddio’r deunydd hwn, gan ddewis plant sy’n gallu siarad yn glir i chwarae’r prif rannau. Y gobaith yw y bydd y gerdd yn ei gwneud hi’n haws i’r plant gofio’r llinellau.

  • Mae’n bosib trefnu bod carolau’n cael eu canu neu eu chwarae yn ysbeidiol mewn mannau priodol yn ystod y ddrama.

  • Bydd plant, bob amser, yn hoffi gwisgo dilladau fyddai’n gweddu i’r cymeriadau. Gall unrhyw ‘brops’ neu wisgoedd eraill fod mor syml, neu mor wych, ag y dymunwch chi.

  • Bydd angen ymarfer gofalus ar gyfer lle mae’r plant yn sefyll yn yr olygfa o Wyl y Geni.

Gwasanaeth

Carol: ‘O dawel ddinas Bethlehem’

Golygfa 1: Gwesty ym Methlehem

Llefarydd 1 (yn dod ymlaen at flaen y llwyfan)
Roedd Mair a Joseff wedi teithio o bell, roedden nhw wedi teithio o Nasareth i Fethlehem. Roedd yn rhaid i’r bobl fynd i’r dref lle roedden nhw wedi cael eu geni, i gael eu cofrestru. (Y llefarydd yn mynd allan oddi ar y llwyfan.)

Llefarydd 2 (yn dod ymlaen at flaen y llwyfan)
Roedd Joseff wedi’i eni ym Methlehem. Roedd hi’n daith hir yno, taith nifer o ddyddiau. Roedd Mair yn disgwyl babi, ac roedd hi wedi blino’n lân. (Y llefarydd yn mynd allan oddi ar y llwyfan.)

Llefarydd 3 (yn dod ymlaen at flaen y llwyfan)
Roedden nhw wedi chwilio ym mhob man yn y dref am rywle i aros, ond roedd pob llety’n llawn. (Y llefarydd yn mynd allan oddi ar y llwyfan.)

Carol: Unrhyw garol fyddai’n addas ar gyfer y rhan hon o’r stori

(Daw Mair a Joseff i mewn. Mae Joseff yn curo ar ddrws y gwesty. Daw gwr y llety i’r llwyfan.)

Gwr y llety
Mae rhywun yn curo ar ddrws fy ngwesty,
Gwr a gwraig flinedig, yn chwilio am lety.

Joseff
Os gwelwch chi’n dda, wr y llety, graslon,
Oes gennych chi le i ni aros am noson?

Gwr y llety
Na, mae’r llety’n llawn, mae’n ddrwg gen i’ch siomi,
Mae’r dref  ’ma mor llawn, does dim lle mewn un gwesty.

Joseff
O, plîs! Oes gennych chi ddim cornel yn unlle?
Dim ond lle i orffwys - yn y stabl, neu rywle?

Gwr y llety  
Wel, os ydych chi’n fodlon ar y fan honno,
Dewch ar fy ôl i, cewch aros yno â chroeso.
(Mair a Joseff yn dilyn gwr y llety o gwmpas y llwyfan.)

Mair
Diolch yn wir, rydych chi’n hynod garedig,
Bydd y stabl yn glyd .... Rydyn ni mor flinedig!

Gwr y llety  
Mae’r stabl yn sych, os nad yw’r lle gorau,
Ond cewch orffwys yma nes daw y bore.

(Mair, Joseff a gwr y llety yn mynd oddi ar y llwyfan. Llenni.)

Carol: ‘Dawel nos’

Golygfa 2: Y tu mewn i’r stabl

(Y llenni’n ailagor. Mae Mair yn eistedd gyda’r baban yn ei breichiau, a Joseff yn sefyll yn ei hymyl.
Daw nifer i angylion i mewn, yn cael eu harwain gan blentyn wedi’i wisgo fel seren.
Fe fyddai’n bosib cyflwyno dawns yma.
Yna bydd yr angylion yn ffurfio grwp y tu ôl i Mair a Joseff, a bydd y seren yn sefyll mewn man ychydig yn uwch yng nghefn y llwyfan.)

Llefarydd 4
Cafodd baban arbennig ei eni yn y nos,
Ac uwchben y stabl, disgleiriai seren dlos.

Llefarydd 5
Dywedodd angylion wrth fugeiliaid fod baban wedi’i eni,
Ac fe aethon nhw ar eu hunion i’w weld, ac i’w foli.

(Daw’r bugeiliaid i mewn. Fe allen nhw ddod i mewn trwy’r gynulleidfa, o gefn yr ystafell. Fe fydda’n bosib canu’r garol, neu chwarae’r gerddoriaeth, ‘Pan oedd bugeiliaid gyda’u praidd’, tra bydd y bugeiliaid yn dod i mewn, ac yn ymgrymu o flaen y  baban cyn mynd i sefyll i’w lle.)

Llefarydd 6
Daeth doethion o bell ag anrhegion i Iesu,
Aur, thus a myrr oedd yr anrhegion rheini.

(Daw’r doethion i’r llwyfan mewn gorymdaith, gan gario’r anrhegion. Maen nhw’n ymgrymu o flaen y baban ac yn cyflwyno’r anrhegion iddo fesul un.
Chwaraewch gerddoriaeth yma, neu canwch garol fel ‘Tri ym ni o’r Dwyrain draw’.
Bydd y doethion wedyn yn mynd i sefyll i’w lle hwythau yng ngolygfa Gwyl y Geni.
Daw’r Llefarwyr yn ôl i’r llwyfan, i sefyll gyda’r cymeriadau eraill. Mae’r olygfa nawr yn gyflawn.)

Llefarydd 7 (yn camu ymlaen)
Rhaid i ni beidio ag anghofio, pan gawn ni anrhegion a phethau,
Beth yw gwir ystyr y Nadolig, a’i neges i ninnau.
Rydym wedi ceisio darlunio beth ddigwyddodd bryd hynny,
Trwy actio, heddiw i chi, ddrama fach o’r stori.
NADOLIG LLAWEN I BAWB!

Carol: Unrhyw garol sy’n cyfeirio at Mair a’i baban

Amser i feddwl

Gadewch i’r plant sydd yn yr olygfa aros am ysbaid, gyda gweddill y gynulleidfa yn edrych arnyn nhw, gan roi cyfle i bawb feddwl am y stori.

Gweddi
Diolch i ti, Arglwydd Dduw, am y Nadolig,
am Mair a Joseff, ac am y baban Iesu,
am y bugeiliaid, ac am y doethion.
Gad i ninnau hefyd addoli’r baban Iesu y Nadolig hwn,
a byw ein bywydau gyda’n calonnau’n llawn o lawenydd y Nadolig.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon