Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth yw Gwerth Pobl?

Meddwl am werth bywyd dynol, a pha mor bwysig yw addysg.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Meddwl am werth bywyd dynol, a pha mor bwysig yw addysg.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen chwe darn £1 (neu werth tebyg o arian lleol, fel 9 euro neu 10 doler).
  • Casgliad o eitemau fyddai’n costio tua £6, e.e. bocs o siocledi moethus, pecyn o hosanau, tocyn i fynd i’r sinema, a phethau felly.
  • Paratowch ddau wirfoddolwr i ddarllen stori Venkatamma: gall un ddarllen rhan y llefarydd a’r llall yn darllen geiriau Venkatamma. Neu, fe allech chi rannu’r stori rhwng nifer fwy o ddarllenwyr.
  • Fe fydd arnoch chi angen Beibl, os byddwch chi’n darllen yr adnodau o Efengyl Luc 12.6–7.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant beth fydden nhw’n gallu ei brynu â £6. Gwerthfawrogwch bob awgrymiad priodol, ac os yw hynny’n addas, awgrymwch rai pethau eich hunan er mwyn gofalu bod syniad gan bawb o beth yw gwerth £6. 

  2. Holwch a yw hi’n bosib rhoi gwerth ariannol ar unigolion. Yn dibynnu ar oedran y plant, anogwch drafodaeth ar sut mae pobl yn perthnasu â gwerth ariannol, fel cost cael addysg mewn ysgol, cyflogau, faint mae unigolion yn ei wario arnyn nhw’u hunain, a chost gofal iechyd. Llywiwch y drafodaeth tuag at y syniad na allwch chi roi ‘pris ‘ ar bobl fel y gallwch chi roi pris ar bethau neu ar wasanaethau - neu allwch chi?

  3. Cyflwynwch stori Venkatamma:

    Llefarydd: Un ar ddeg oed yw Venkatamma, ac mae’n mynd i’r ysgol yn Andhra Pradesh yn ne India. Ond, hyd yn ddiweddar, roedd hi’n treulio pob diwrnod, yn gofalu trwy’r dydd am ddeg byfflo. Roedd hynny’n waith anodd i blentyn. Nid byfflos yn perthyn i’r teulu oedden nhw, hyd yn oed - roedd y byfflos yn perthyn i ffermwr oedd wedi prynu Venkatamma. Roedd y ffermwr wedi prynu Venkatamma am £6 - wedi talu £6 i deulu Venkatamma amdani! Nid talu £6 yr awr, cofiwch, na £6 y dydd, nid £6 yr wythnos hyd yn oed, dim ond cyfanswm o £6, a dyna fo! Doedd ar y teulu ddim eisiau gwerthu Venkatamma, ond oherwydd eu bod mor dlawd, doedd ganddyn nhw ddim dewis. Gwrandewch ar beth sydd gan Venkatamma i’w ddweud:

    Venkatamma: Un diwrnod fe ddihangodd y byfflos i gae ffermwr arall, a difetha’r cnwd yn y cae hwnnw. Roedd y ffermwr yn gas iawn, ac fe wnaeth fy nghuro i’n ddrwg. Rhedais i ffwrdd i dy fy chwaer. Roeddwn i’n crio, a chrio a chrio, ac roeddwn i mor anhapus doeddwn i ddim eisiau bwyta. Roeddwn i’n dweud wrth fy chwaer bob dydd, ‘Rydw i eisiau mynd i’r ysgol.’ Ar ôl tri diwrnod, fe aeth fy chwaer â fi i Ysgol y Bont.

    Llefarydd: Ysgol sy’n cael ei rhedeg gan fudiad Indiaidd yw Ysgol y Bont, mudiad sy’n cael ei gefnogi gan elusennau yn y D.U. Mae’n ysgol i blant sydd heb fod mewn ysgol o’r blaen. Erbyn hyn, mae Venkatamma wedi bod yn yr ysgol am tua blwyddyn, ac mae ei bywyd wedi newid yn llwyr. Gwrandewch ar beth sydd ganddi i’w ddweud nawr:

    Venkatamma: Fe hoffwn i fynd i brifysgol. Fe hoffwn i fod yn athrawes a gallu gwneud rhywbeth i helpu’r gymuned.

  4. Atgoffwch y plant bod Venkatamma wedi cael ei gwerthu am ddim ond £6 – pris sydd fawr mwy na beth fyddech chi’n ei dalu am ychydig o draciau cerddoriaeth, neu DVD rad. Ond diolch i elusennau o’r wlad hon ac o India, mae Venkatamma erbyn hyn yn mynd i’r ysgol. Pam rydych chi’n meddwl bod mynd i’r ysgol yn bwysig? Gwerthfawrogwch ymateb y plant, a cheisiwch grynhoi’r prif resymau:

    • Mae’r plant yn gallu dysgu pethau fydd yn eu helpu i gael gwaith.
    • Maen nhw’n gallu dysgu sut i fod yn iach a chadw’n ddiogel.
    • Fe fyddan nhw’n gallu helpu eu cymuned a’u gwlad i ddod allan o sefyllfa o dlodi.

  5. Hefyd, gwnewch sylw o’r pwyntiau sy’n awgrymu efallai nad yw pawb yn hoffi mynd i’r ysgol bob tro. Efallai y byddai’n well gan rai beidio gorfod codi o’r gwely ar fore tywyll oer yn y gaeaf, neu beidio gorfod bod i mewn dosbarth ar ddiwrnod braf o haf pan fydd yr haul yn gwenu. Bydd sawl un yn gallu meddwl am lefydd eraill lle’r hoffen nhw fod. Ond, heb addysg, fe fyddem ninnau yn y wlad hon hefyd yn byw mewn cymdeithas lle byddai’r rhan fwyaf o’r bobl yn dlawd iawn ac ychydig o’r bobl yn gyfoethog iawn. Mae addysg yn ffordd allan o dlodi ac o anwybodaeth, a dyna beth rydyn ni ei eisiau ar gyfer plant ledled y byd, plant fel Venkatamma.

  6. Mae dros 100 miliwn o blant yn y byd sydd heb gyfle i fynd i’r ysgol. Dyna 100 miliwn o blant fel Venkatamma sydd naill ai’n gorfod gweithio yn lle mynd i’r ysgol, neu sy’n gorfod aros gartref am nad yw eu rhieni’n gallu fforddio eu hanfon i’r ysgol.

  7. Fe allech chi ddarllen Luc 12.6–7. Eglurwch fod Cristnogion, a phobl o grefyddau eraill yn credu bod Duw yn gofalu am bob un ohonom. Mae’n gweld gwerth ym mhob un, gwerth sy’n fwy na dwy geiniog, mwy na £6 hefyd, mwy nag unrhyw swm o arian y gallwch chi feddwl amdano!

Amser i feddwl

Myfyrdod

Faint ydych chi’n werth?

Meddyliwch am unrhyw swm o arian – fydd hynny ddim yn ddigon.

Meddyliwch am y peth drutaf posibl: awyren breifat, llong ofod breifat, eich ynys eich hunan, eich gwlad eich hunan, planed i chi eich hunan, bydysawd cyfan i chi eich hunan …. Ond, does dim un o’r rhain yn gallu meddwl a theimlo, na byw a charu, fel rydych chi’n gallu ei wneud. Rydych chi’n amhrisiadwy.

Gweddi

Annwyl Dduw,

Diolch i ti am ofalu am bob un ohonom.

Diolch i ti ein bod ni’n gallu dod i’r ysgol heb orfod talu am wneud hynny.

Rydyn ni’n meddwl am Venkatamma, ac am sut y cafodd hi ei gwerthu am ddim ond £6.

Diolch i ti am y gwaith y mae elusennau yn ei wneud er mwyn rhoi cyfle i rai fel Venkatamma fynd i’r ysgol.

Helpa ni i werthfawrogi ein haddysg

a helpa ni i wneud popeth sy’n bosib i ofalu bod y 100 miliwn o blant ledled y byd sydd ar hyn o bryd yn methu mynd i’r ysgol, yn cael cyfle i fynd i ysgol yn fuan.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon