Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nid Goroesi ond Byw

Edrych ar y dyfnder ychwanegol sydd gennym yn ein bywydau oherwydd ein bod yn berchen ar ffydd.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Edrych ar y dyfnder ychwanegol sydd gennym yn ein bywydau oherwydd ein bod yn berchen ar ffydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi lwytho i lawr rywfaint o gerddoriaeth y ffilm Wall-E (Pixar, 2008). Byddai’r gân ‘Put on your Sunday clothes’ yn addas iawn. Efallai yr hoffech chi ddangos enghreifftiau o deganau sy’n gysylltiedig â’r ffilm, os oes rhai gan y plant, y gallech chi eu benthyca ar gyfer y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Holwch y plant faint sydd wedi gweld y ffilm Wall-E? Treuliwch rywfaint o amser yn trafod y ffilm. Dangoswch y teganau os oes rhai gennych chi.

  2. Mewn golygfa o’r byd yn y dyfodol, sy’n cael ei darlunio yn y ffilm, mae’r holl fodau dynol wedi ymadael â’r Ddaear am fod sbwriel a llygredd wedi graddol orchuddio’r tir. Robot bach yw Wall-E, sy’n treulio’i amser yno’n clirio’r llanast. Un diwrnod mae llong ofod yn glanio, ac mae robot arall o’r enw Eva yn dod allan ohoni. Mae Eva yn chwilio am arwyddion o fywyd ar y blaned, ac mae Wall-E newydd ddod o hyd i un planhigyn bach oedd yn dechrau tyfu, ac roedd wedi ei gadw. 

    Wedi i Wall-E ddangos y planhigyn i Eva, mae hi’n galw ar y llong ofod. Daw’r llong i’w nôl, ac mae Wall-E hefyd yn cael ei gario gydag Eva yn ôl i’r orsaf ofod lle mae hynny o fodau dynol sydd ar ôl, yn byw. Erbyn hyn, mae’r bodau dynol rheini wedi mynd yn fodau anweithredol iawn, dydyn nhw’n gwneud dim ond hofran mewn cadeiriau arbennig heb berthnasu â’i gilydd o gwbl. 

    Wedi cyfres o anturiaethau, maen nhw’n dangos y planhigyn i gapten y llong ofod, ac mae hwnnw’n arwain ei long yn ôl tua’r Ddaear. Ond, mae’r cyd-beilot, sy’n robot, yn gofidio mwy am y peryglon sydd ar y ddaear, ac am barhad yr hil ddynol. A oedd hi’n bosib iddyn nhw oroesi yno pe bydden nhw’n mynd yn ôl? Yn y diwedd, fe ddywedodd y capten, a oedd yn awyddus iawn i fynd yn ôl, ‘Nid dim ond goroesi ydw i eisiau, rydw i eisiau byw!’

  3. Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl oedd y peilot yn ei olygu wrth ddweud: ‘Nid dim ond goroesi ydw i eisiau, rydw i eisiau byw!’?

    Sut rydyn ni, ambell dro, yn goroesi yn hytrach na byw? Ym mha ffordd y byddwn ni’n lleihau cyflawnder ein bywydau?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Dywedodd Iesu, ‘Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder.’ (Ioan 10.10)
Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl oedd Iesu’n ei olygu wrth ddweud hyn.
Sut y gallwn ni fyw bywydau llawnach?
Sut y gallwn ni helpu pobl eraill i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder?
Sut gwnaeth Wall-E ac Eva helpu’r bodau dynol ar y llong ofod i fyw bywyd llawn, yn hytrach na dim ond goroesi?

Gweddi
Arglwydd, helpa fi i fyw bywyd yn ei holl gyflawnder.
Helpa fi i fyw, nid dim ond i oroesi.
A rho i ni dy gyflawnder di yn ein bywydau ninnau heddiw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2008    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon