Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Datbylgiad - Newid Er Gwell

Cyflwyno cysyniad datblygu trwy ddefnyddio ymadroddion ac enghreifftiau syml.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Cyflwyno cysyniad datblygu trwy ddefnyddio ymadroddion ac enghreifftiau syml.

Paratoad a Deunyddiau

  • Eitemau bob dydd ar gyfer y cwis.
  • Fe fyddwch chi angen tegan meddal y byddwch chi wedi ei enwi.

  • Mae cân syml iawn y gellir ei chanu, ar y dôn ‘Frère Jacques’ (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud bod gennych chi gwis anodd iawn i ddechrau’r gwasanaeth.  Codwch bensel a gofynnwch i’r plant godi eu dwylo os ydyn nhw’n gwybod beth ydyw.  Gwnewch yr un peth gyda darn o bapur, bag, llyfr a/neu nifer o wrthrychau bob dydd eraill.

    Cydnabyddwch nad oedd hynny mor anodd wedi’r cwbl.  Pwy sy’n meddwl ei bod hi’n hawdd enwi pethau – dweud beth yw eu henwau nhw eu hunain?

  2. Gan eu bod nhw wedi gwneud mor dda, dywedwch eich bod chi’n mynd i wneud y cwestiwn nesaf ychydig yn anoddach.  Dangoswch eich tegan meddal a gofynnwch beth ydyw.  Cytunwch mai ci/cath/llwynog anwes yw’r tegan, ond beth yw ei enw – oes rhywun yn gwybod? 

    Dywedwch wrth y plant beth yw’r enw rydych chi wedi ei roi ar y tegan (fe allech chi egluro’r dewis os yw hynny’n briodol), ac eglurwch fod gan rai pethau enwau arbennig, enw y byddwch chi’n ei roi arnyn nhw.  Gofynnwch am enghreifftiau fel eu teganau a’u hanifeiliaid anwes eu hunain; rhowch enwau’r plant eu hunain, a roddwyd arnyn nhw gan eu rhieni.

  3. Dywedwch fod gennych chi enw arbennig ar gyfer ‘9 Mawrth’ (newidiwch y dyddiad am eich pen-blwydd chi).  All unrhyw un ddyfalu pam?  Rydych chi’n ei alw’n ‘Fy Mhen-blwydd i’.  Derbyniwch ychydig o ddyddiadau ‘Fy Mhen-blwydd i’ gan rai o’r plant.

  4. Siaradwch am enw’r ysgol – beth yw’r ystyr sydd y tu ôl i’r enw?

  5. Dywedwch wrth y plant eich bod chi’n gwybod am ysgol sy’n cael ei galw yn ‘4 Ebrill’.  Ydyn nhw’n gallu dyfalu pam ei bod hi’n cael ei galw’n hynny?  Gwerthfawrogwch bob awgrym, ac yna eglurwch mai ysgol yn Angola yw hi, sef gwlad yn ne Affrica – rhywle sydd ymhell, bell i ffwrdd!  Cafodd ei henw ar ôl y diwrnod y rhoddodd pobl Angola y gorau i ymladd yn erbyn ei gilydd a byw’n heddychlon.  Roedd hwn yn ddiwrnod mor bwysig a hapus fel bod pawb eisiau ei gofio – gan gynnwys plant Ysgol y 4ydd o Ebrill.

  6. (Dewisol) Fe allech chi ddysgu’r gân syml hon i dôn ‘Frère Jacques’:

    Y pedwerydd, Pedwerydd o Ebrill,
    Diwrnod hedd, diwrnod hedd.
    Cofiwch y pedwerydd, pedwerydd dydd o Ebrill,
    Diwrnod hedd, diwrnod hedd.

  7. Gorffennwch trwy ddweud bod gennych chi un gair arall i feddwl amdano.  Mae’n air hir: ‘datblygiad’.  Mae’n golygu pethau yn newid er gwell. Eglurwch fod newid pethau er gwell yn gallu gweithio reit o amgylch y byd!  Daeth rhywfaint o’r arian a godwyd ar gyfer Ysgol y 4ydd o Ebrill gan bobl o’r wlad hon, a oedd eisiau helpu plant Angola.  Mae arian fel hyn yn rhyw fath o ‘arian hud’, oherwydd unwaith y bydd yr ysgol gan y bobl, fe allan nhw wedyn ddatblygu eu hunain – newid pethau er well trwy ddysgu.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Beth mae datblygiad yn ei olygu?  Mae’n golygu:
Newid er gwell … Pan ddaw rhyfel i ben … Pan fydd gan blant ysgol newydd i’w mynychu … Pan fydd pobl newynog yn gallu tyfu eu bwyd eu hunain …
Pa ddatblygiadau welwch chi heddiw?  Pa newidiadau allwch chi eu gwneud –ffrind newydd, dysgu pethau newydd, chwarae gêm newydd?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolchwn i ti am Ysgol y 4ydd o Ebrill,
a enwyd ar ôl y diwrnod y daeth y rhyfel i ben yn Angola.
Diolch i ti am ddatblygiad – newid er gwell – lle bynnag mae’n digwydd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon