Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud Camgymeriadau

Dysgu sut i edrych ar ein camgymeriadau a’n methiannau mewn ffordd gadarnhaol.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dysgu sut i edrych ar ein camgymeriadau a’n methiannau mewn ffordd gadarnhaol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen beic oedolyn a helmed ddiogelwch.
  • Gwirfoddolwr o un o’r dosbarthiadau iau i fod yn bresennol.

  • Piano, dol Superman, arwydd lolipop croesi’r ffordd; neu luniau o biano, Superman, ac arwydd traffig STOP.

  • Dyfyniadau ar gyfer y bwrdd gwyn:
    ‘Nid gwneud camgymeriadau ydyn ni, dim ond cael damweiniau hapus!’ (anhysbys)
    ‘Camgymeriad yw cam cyntaf dysgu.  Daw llwyddiant yn sgil camgymeriadau.’ (Igor Stravinsky)
    ‘Mae cyfeiliorni yn ddynol; mae cyfaddef hynny’n fwy na dynol.’ (Doug Larson)
    ‘Mae’n hawdd peidio gwneud camgymeriadau.  Dim ond peidio cael syniadau sy’n rhaid i chi ei wneud.’ (anhysbys)

  • Cerddoriaeth gan Stravinsky ar gyfer y myfyrdod.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod chi wrth eich bodd yn mynd am dro ar Wyl Sant Steffan a gweld plant yn chwarae gyda’r teganau newydd a gawson nhw ar y Nadolig.  Pramiau, sgwteri a beics, a hyd yn oed cwn bach!  Fel arfer, mae llawer o famau a thadau yn cael tipyn o ymarfer corff, wrth iddyn nhw helpu rhai sy’n dysgu reidio beic, gyda llawer o waith gwthio!

    Holwch sawl un o’r plant yn y gwasanaeth heddiw sy’n gallu reidio beic.  Gofynnwch am wirfoddolwr i ddangos eu gallu.  Gofalwch ei fod ef/hi yn gwisgo’r helmed.

    Gyda chymorth y plant, nodwch y pethau rydych hi angen eu dysgu a’u cofio er mwyn reidio beic, er enghraifft: Os ydw i’n gwyro gormod i’r dde neu’r chwith, yna fe fyddaf yn disgyn.  Rydw i angen gallu mynd yn syth ymlaen.  Rydw i eisiau ymarfer fy nghydbwysedd.

    Cydnabyddwch mai’r unig ffordd mae pawb ohonom wedi dysgu yw drwy wneud camgymeriadau, drwy ddisgyn oddi ar ein beics!

  2. Gosodwch y dyfyniad, ‘Nid gwneud camgymeriadau ydyn ni, dim ond cael damweiniau hapus!’ ar y bwrdd gwyn, ac edrychwch ar hwn gyda’ch gilydd.

    Eglurwch nad ydych yn siwr y byddai pawb ohonom yn cytuno â’r datganiad hwn, yn achos disgyn oddi ar feic a chrafu ein pengliniau, ond mae’n codi pwynt pwysig iawn.  Sut ydyn ni’n edrych ar ein camgymeriadau a’n methiannau?

    Os oes gan rai ohonyn nhw frodyr a chwiorydd iau, sydd wrthi’n dysgu siarad, soniwch y byddwn ni’n aml yn eu clywed nhw’n dweud pethau nad ydyn nhw yn hollol gywir, fel: ‘Dwi’n gwisgo jipamas.’ ‘Mi wnes i reged adref.’  Rydym yn tueddu i beidio â’u cywiro nhw.  Yn wir, rydym yn aml yn meddwl bod eu camgymeriadau yn bethau digon annwyl a chiwt!

    Ond holwch faint o’r plant sydd yma sy’n hoffi gwneud camgymeriadau yn y dosbarth?  Mae hynny’n fater gwahanol, yn dydi?  Mae ein balchder yn cael ei glwyfo pan fyddwn ni’n gwneud camgymeriadau, ac rydym yn teimlo cywilydd.  Weithiau, mae gwneud camgymeriad yn gwneud i ni deimlo mor ddrwg am y peth fel bod hynny’n ein rhwystro ni rhag hyd yn oed rhoi cynnig arni y tro nesaf.

  3. Eglurwch ein bod ni heddiw yn mynd i ddysgu sut i droi ein camgymeriadau yn ddamweiniau hapus!  Er mwyn ein helpu ni, fe fyddwn ni angen y tair eitem hon (neu’r lluniau): piano, Superman ac arwydd STOP.

    Sut y gall piano ein helpu ni i weld ein camgymeriadau yn y ffordd iawn?  Holwch y plant ydyn nhw wedi clywed am gyfansoddwr enwog o’r enw Stravinsky.  Cyfansoddodd gerddoriaeth hyfryd sy’n cael ei chwarae gan gerddorfeydd ar hyd a lled y byd.  Dangoswch yr ail ddyfyniad.  Dyma a ddywedodd: ‘Camgymeriad yw cam cyntaf dysgu.  Daw llwyddiant yn sgil camgymeriadau.’

    Holwch sawl plentyn sy’n dysgu sut i chwarae offeryn?  Sawl un a afaelodd mewn offeryn am y tro cyntaf a chwarae rhywbeth swynol?  Faint wnaeth swn gwichian, cras, ar y ffidil, neu roi wmff go iawn ar offeryn pres!?

    Pan oedd Stravinsky yn ceisio rhoi synau’r holl offerynnau hyn gyda’i gilydd, ni lwyddodd i gael popeth yn iawn y tro cyntaf, chwaith … na’r ail dro … na’r trydydd tro, hyd yn oed!  Yn wir, dywedodd ei fod wedi dysgu mwy o’i gamgymeriadau nag yn sgil yr holl hyfforddiant rhagorol roedd wedi ei dderbyn.  Felly, pryd bynnag y gwelwch chi biano, neu y byddwch chi’n gafael mewn offeryn cerddorol, cofiwch hynny.

  4. Sut y gall Superman ein helpu ni i weld ein camgymeriadau yn y ffordd iawn?  Wel, rydym i gyd yn gwybod mai Superman yw’r gorau, ond yn hytrach na chofio hynny, meddyliwch am y dyfyniad hwn pryd bynnag y byddwch chi’n ei weld.  Dangoswch y trydydd dyfyniad: ‘Mae cyfeiliorni yn ddynol; mae cyfaddef hynny’n fwy na dynol.’

    Am eich bod chi’n ddynol (a dydw i ddim yn meddwl fod gennym ni unrhyw un o’r gofod yma heddiw, felly mae’n debyg bod hynny’n golygu pawb ohonom), ac felly mae hyn yn golygu y bydd pawb ohonom yn gwneud camgymeriadau weithiau. Mae’n rhan annatod o fod yn ddynol!  Ond, mae cyfaddef ein bod ni wedi gwneud camgymeriad yn gofyn am rywun mwy na dynol!

    Holwch y plant a ydyn nhw’n meddwl bod hynny’n wir.  Ydyn nhw’n ei chael hi’n anodd dweud eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad os ydyn nhw’n gwneud hynny, a chyfaddef eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le?  Wyddoch chi beth?  Mae oedolion yn union yr un fath!  Ond os ydyn nhw’n gallu cydnabod eu bod nhw’n gwneud camgymeriadau, yna maen nhw’n fwy na dynol, ac maen nhw’n haeddu canmoliaeth.  Mae’n rhywbeth i ymfalchïo ynddo.

  5. A sut y gall yr arwydd STOP ein helpu ni i weld ein camgymeriadau yn y ffordd iawn?  Edrychwch ar y dyfyniad olaf: ‘Mae’n hawdd peidio gwneud camgymeriadau.  Dim ond peidio cael syniadau sy’n rhaid i chi ei wneud.’  Go brin fod hynny’n rhywbeth y mae eich athro’n debygol o’i ddweud, yn nac ydi?  Dychmygwch ystafell ddosbarth lle nad oes unrhyw un fyth yn cael syniadau.  Pa mor ddiflas fyddai hynny?!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gwrandewch ar y darn hwn o gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Stravinsky.  Cofiwch fod Stravinsky wedi gwneud llawer o gamgymeriadau cyn iddo gael y darn hwn o gerddoriaeth yn iawn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rwyt ti’n gwybod ein bod ni’n ddynol ac rwyt ti’n gwybod ein bod ni’n gwneud llawer o gamgymeriadau. 
Helpa ni i beidio cael ein trechu gan ein camgymeriadau, gan eu gweld nhw fel proses ddysgu.
Maddau i ni pan fydd ein camgymeriadau yn rhoi loes i bobl eraill.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon