Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nwyddau Sel

Dangos na all unrhyw beth newid ein gwerth ni yng ngolwg Duw.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos na all unrhyw beth newid ein gwerth ni yng ngolwg Duw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dwy eitem sy’n cael eu gwerthu fel anrhegion, (a) a (b), gwelwch isod. Rhaid i’r ddau beth fod yn union yr un fath, o’r un siop, ond bod pris llawn ar un a phris y sêl ar y llall, e.e. set pethau ymolchi, albwm ffotograffau neu degan neilltuol. Does dim rhaid i’r eitemau fod yn bethau drud.
  • Dwy dderbynneb am yr eitemau, yn dangos mai’r un eitem sydd wedi’i phrynu ar ddau ddiwrnod gwahanol, ond yn yr un siop.

  • Dwy label gyda’r pris arnyn nhw, wedi’u gwneud o gerdyn. Ar yr adeg briodol yn ystod y gwasanaeth, bydd y labeli’n cael eu harddangos o flaen yr eitemau ar fwrdd. Fe ddylech chi gadw at y prisiau gwreiddiol.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch wrthrych (a) i’r plant. Holwch faint maen nhw’n feddwl yw ei werth. Dywedwch wrthyn nhw faint wnaethoch chi ei dalu amdano, a’i osod ar y bwrdd, gan roi’r label â’r pris arni o’i flaen.

    Yna, dangoswch wrthrych (b). Holwch y plant eto faint maen nhw’n feddwl yw gwerth hwn. Dywedwch wrthyn nhw faint wnaethoch chi ei dalu amdano a’i osod ar y bwrdd, gan roi’r label â’r pris arni o’i flaen.

  2. Oes unrhyw un o’r plant yn gallu awgrymu pam fod gwahaniaeth ym mhris y ddau beth? Os bydd rhywun yn awgrymu bod nam ar un, gofynnwch iddo ddod ymlaen i edrych a oes rhywbeth o’i le ar un o’r eitemau.  Os bydd rhywun yn awgrymu eich bod wedi prynu’r ddau beth mewn siopau gwahanol, gofynnwch iddo ddod ymlaen i weld y label neu’r derbynebau gwreiddiol.

  3. Gofynnwch i wirfoddolwr ddod ymlaen i’ch helpu. Gofynnwch iddo gau ei lygaid. Rydych chi am gyfnewid lle’r eitemau, droeon, ac yna gofynnwch i’r gwirfoddolwr agor ei lygaid ac edrych yn fanwl ar y ddwy eitem a cheisio dyfalu pa un oedd wedi costio mwyaf o arian.

  4. Sut y gall rhywbeth fod yn llai o werth heddiw nag a oedd ddoe, neu nifer o ddyddiau neu wythnosau’n ôl? Eglurwch fod tua 100 efallai o’r pethau hyn wedi dod i’r siop, yn barod i’w gwerthu cyn y Nadolig. Mae’n bosib bod 96, dywedwch, wedi eu gwerthu, a bod yr un gwrthrych sydd gennych chi yn un o’r pedwar oedd ar ôl ar y silff, heb eu gwerthu. Mae gan y siop berffaith hawl i’w gwerthu am bris gostyngol.

    Nawr, dychmygwch mai chi yw’r eitem. Dychmygwch gael eich gadael yng nghefn y silff. Dychmygwch sut y byddech chi’n teimlo pan ddeuai rhywun yno i aildrefnu’r nwyddau ar y silffoedd, a newid y pris o £X i £X, neu hyd yn oed ysgrifennu’r geiriau ‘Hanner Pris’ arnoch chi! Efallai y byddai rhyw gwsmer yn falch iawn o gael cystal bargen, ond fe fyddai eich teimlad o hunanwerth yn suddo i’r gwaelodion. ‘Hei!’ fe fyddech chi eisiau gweiddi, ‘Rydw innau’n werth y pris llawn hefyd!’

  5. Weithiau, mae pobl yn gallu teimlo fel yr eitem oedd yn cael ei gwerthu am bris gostyngol. Am bob math o wahanol resymau, maen nhw’n teimlo’n llai o werth na phawb arall. Efallai na fyddan nhw’n cael eu dewis yn gyntaf i fod yn y tîm pêl-droed. Efallai nad oes neb yn eu hedmygu. Efallai eu bod yn gorfod gwylio pobl eraill yn gwneud y pethau yr hoffen nhw fod yn eu gwneud. Mae hynny’n gallu digwydd weithiau, hyd yn oed mewn ysgol.

  6. Mae’r Beibl yn dweud bod Duw’n gwybod pan fyddwn ni’n teimlo fel hyn. Fe ddarluniodd Iesu hyn i’w gyfeillion trwy gyfeirio at aderyn y to. Fe ddywedodd bod Duw’n gwybod pa bryd bynnag y byddai un aderyn y to bach, yn unrhyw le, ar unrhyw adeg, yn disgyn i’r llawr. Er bod miliynau o’r adar bach rheini yn y byd o bosib, a phob un yn edrych yr un fath i chi a mi, fe fydd Duw’n gwybod. Dywedodd Iesu, ‘Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi’n werth mwy na llawer o adar y to.’

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant edrych ar y ddwy eitem eto, a meddwl am amser pan oedden nhw’n teimlo eu bod wedi cael eu diystyru neu eu hesgeuluso.
Meddyliwch nawr am yr aderyn to, ac am adar eraill, ac am ba mor bwysig ydyn nhw yng ngolwg Duw.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti’n gwybod pwy ydw i.
Diolch fy mod i’m werthfawr ac yn anrhydeddus yn dy olwg,
a diolch dy fod yn fy ngharu i.
Diolch i ti am fy ngharu i bob amser.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon