Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sefydlu Arlywydd Newydd

Dathlu’r diwrnod hanesyddol hwn gyda’n gilydd.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Dathlu’r diwrnod hanesyddol hwn gyda’n gilydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Nid oes yn rhaid paratoi, ond efallai yr hoffech chi lwytho i lawr ambell lun o Barack Obama oddi ar http://www.myspace.com/barackobama (mae hyn yn cynnwys darnau byr o fideo y gallech chi eu dangos cyn y gwasanaeth).

Gwasanaeth

  1. Ar 4 Tachwedd y llynedd, aeth pobl yr Unol Daleithiau i’r gorsafoedd pleidleisio i ddewis eu harlywydd nesaf.  Arlywydd yr Unol Daleithiau yw’r arweinydd gwleidyddol mwyaf pwerus yn y byd, ac mae’r ymgyrchoedd etholiadol yn adlewyrchu hyn: mae’n anodd dweud yn union beth yw’r ffigyrau terfynol, ond rhagwelir bod yr etholiad hwn wedi costio cyfanswm o dros un biliwn o ddoleri.  Dechreuodd yr ymgyrchu yn gynnar: dechreuodd datganiadau cyntaf ymgeiswyr y Blaid Ddemocrataidd ym mis Hydref 2006; ddwy flynedd cyn yr etholiad.  Ar ôl cyfres hir a chaled o gystadlaethau a ralïau, cyflwynwyd dau ymgeisydd tra gwahanol i gyhoedd America.  Disgrifiodd cylchgrawn The Economist nhw fel ‘America ar ei gorau’.

  2. Cynrychiolai John McCain blaid asgell dde'r gweriniaethwyr.  Gan dynnu ar ei brofiadau fel carcharor rhyfel, a’i enw da fel rebel a fyddai’n mynd yn groes i’r graen i wneud beth oedd yn iawn, cafodd ei lyffetheirio gan y cysylltiad oedd rhyngddo â’r Arlywydd amhoblogaidd iawn, George W. Bush.  Ei wrthwynebydd, Barack Obama, sef y buddugwr, fydd arlywydd amlhiliol cyntaf UDA.  Yn fab i fyfyriwr o Kenya a aned yn Hawaii, gyda’i fam yn anthropolegydd gwyn o Kansas, addawodd ‘newid’ system a meddylfryd gwleidyddol UDA.  Fe wnaeth y neges hon, law yn llaw â'i garisma enfawr a’r dadrithiad helaeth yn sefydliad gwleidyddol UDA, sicrhau buddugoliaeth iddo gyda 53 y cant o bleidleisiau’r cyhoedd o’u cymharu â’r 46 y cant a gafodd McCain.

  3. Ildiodd McCain yr ornest yn raslon a charedig, gan gadarnhau ei enw da am fod yn anrhydeddus ac unplyg, ar ôl ymgyrch waedlyd lle'r oedd celwyddau yn gymysg â’r gwirionedd ar y ddwy ochr.  Arweiniodd llinach a magwraeth egsotig Obama at sibrydion gau ei fod yn Fwslim (deliwyd â hyn yn y pen draw gan Colin Powell, cadfridog blaenllaw, a ddywedodd ‘Beth yw’r ots?’).

  4. Yr hagrwch a’r gwahanu diwylliannol yw’r hyn a ddenodd lawer at ymgyrch Obama.  Cafodd Obama ymgyrch gwirioneddol ysblennydd, gan ddenu rhagor o gyfraniadau bychan nag unrhyw ymgyrch flaenorol, gan adlewyrchu ei boblogrwydd.  Roedd y gorfoledd a deimlwyd gan y torfeydd enfawr a heidiodd o bob cwr o’r wlad i’w rali fuddugoliaeth yn Chicago yn deillio nid yn gymaint, efallai, o’r dyn ei hun, na’i bolisïau, ond yn hytrach yr hyn mae’n ei gynrychioli. 

    Mae’r wyth mlynedd ers i Bush ddod yn arlywydd wedi cael eu cysylltu ag argraffiadau gwaethaf pobl o’r Unol Daleithiau: grym milwrol trahaus ac ymosodol sy’n gweithredu er ei dibenion ei hun yn unig.  Wrth ddweud hynny, mae’n wir fod UDA wedi gwneud rhai pethau da yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond y mae wedi gweithredu yn debyg i uwch-bwer sy’n dangos ychydig iawn o ddiddordeb yng nghanlyniadau ei gweithrediadau.  Adlewyrchwyd y meddylfryd hwn yn elitau’r wlad, hyd yn oed ar ôl methiannau dinistriol y farchnad ariannol sydd wedi gyrru cymaint o’r byd gorllewinol i ddirwasgiad.

  5. Safodd Obama dros gyfeiriad newydd, ac mae pobl Unol Daleithiau America wedi dewis y llwybr hwn.  Cawn weld a fydd yn llwyddo i gyflawni’r addewid enfawr hwn.  Yr hyn a ddangoswyd, er hynny, yw y bydd pobl yn mynnu cael arweinwyr a fydd yn gweithredu er eu lles nhw; mae’n rhaid i arweinwyr democrataidd barhau’n gyfrifol.  Yn y pen draw, mae arweinwyr yn gweithio dros y rhai maen nhw’n eu harwain, a’r pris maen nhw’n ei dalu am anghofio hyn yw colli grym.

Amser i feddwl

Treuliwch funud neu ddau yn meddwl am yr addewid enfawr y mae Barack Obama yn ei gynrychioli ym meddyliau pobl ar hyd a lled y byd.
Ystyriwch y pwysau y mae ef, a’i deulu, nawr yn gorfod dygymod ag ef.

Gweddi
Arglwydd Dduw, deuwn ag Arlywydd newydd Unol Daleithiau America ger dy fron.
Deuwn â’r dyn mwyaf pwerus yn y byd ger dy fron.
Gofynnwn iddo weithredu â doethineb,
byw yn onest
a chael ei gefnogi gan y bobl y mae’n eu rheoli.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon