Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwlio

Deall bod yn rhaid i ni ‘ddweud’ wrth oedolyn, os ydyn ni’n gwybod bod rhywun yn cael ei fwlio.

gan Annabel Humphries

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Deall bod yn rhaid i ni ‘ddweud’ wrth oedolyn, os ydyn ni’n gwybod bod rhywun yn cael ei fwlio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch rai o’r plant i berfformio’r ddrama fach.
  • Paratowch y cardiau dewis (gwelwch y ddrama).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant awgrymu’r agweddau ar fwlio a allai ddigwydd o’u cwmpas. Ymysg yr awgrymiadau, fe fyddai pethau fel galw enwau, brifo teimladau neu frifo corfforol, mynnu cael arian gan rywun, ac ati. Rhaid i’r pwyslais fod ar y ffaith bod y weithred yn digwydd drosodd a throsodd mewn achos o fwlio.

  2. Galwch y plant rydych chi wedi eu paratoi ar gyfer cyflwyno’r ddrama, i ddod ymlaen atoch chi. Gallai nifer ychwanegol o blant gymryd rhan fel aelodau’r ‘gang’.

    Y Bwli

    Golygfa 1

    Llefarydd:  Yn ysgol Gynradd Sant Steffan, roedd bachgen o’r enw Owain yn cael ei fwlio gan ferch o’r enw Cathi. Roedd hi bob amser yn chwerthin am ei ben. Roedd ganddi gang, a byddai’n gwneud i aelodau’r gang hefyd chwerthin am ben Owain. Roedd Owain yn pryderu cymaint am hyn, roedd ei waith ysgol yn dirywio. Roedd Owain yn llawer llai na Cathi, ac roedd yn gwisgo sbectol. Roedd Cathi’n ferch fawr, ddigywilydd, a doedd arni hi ddim ofn unrhyw beth.

    Cathi:  Hei, Sbecsi! Ti’n iawn?

    Owain (yn nerfus):  Ym … y … ym …

    Cathi:  Be sy’? Wedi colli dy dafod?

    Owain (yn ddig):  Gad lonydd i mi, Cathi.

    Cathi:  Gwranda, Owain, dydw i ddim wedi gwneud unrhyw waith cartref ers tair wythnos, dy waith di ydi hwnnw, OK?

    Llefarydd:  Mae ofn ar Owain ac mae’n edrych o’i gwmpas i chwilio am help.

    Cathi:  Os na fyddi di’n gwneud y gwaith i mi, fe ddaw’r gang ar dy ôl di. Os byddi di’n mynd i ddweud amdanom ni wrth rywun, yna hen snichyn bach wyt ti, ac fe gei di dy gosbi’n waeth. Wyt ti’n deall?

  3. Yn y rhan yma o’r gwasanaeth gofynnwch i bedwar plentyn ddal i fyny y cardiau dewis rydych chi wedi’u paratoi, er mwyn i bawb eu gweld. Dyma’r dewisiadau:

    (a) Anwybyddu bygythiadau Cathi, a gwneud dim.
    (b) Dweud wrth Cathi nad ydych chi am wneud ei gwaith cartref iddi.
    (c) Dweud wrth oedolyn beth sy’n mynd ymlaen.
    (d) Gwneud beth mae Cathi’n ddweud.

    Fe ddylai’r plant feddwl am y dewisiadau a bwrw pleidlais ar yr hyn y maen nhw’n ei gredu y dylai Owain ei wneud.

  4. Golygfa 2

    Llefarydd:  Ar ôl meddwl tipyn am y peth, mae Owain yn penderfynu dweud wrth rywun am Cathi a’i bygythiadau. Mae’n poeni’n fawr am hyn, ond mae’n gwybod na ddylai Cathi ei drin fel hyn.

    Owain:  Miss Huws, alla i ofyn rhywbeth i chi, os gwelwch chi’n dda?

    Miss Huws:  Wrth gwrs, Owain. Beth alla i ei wneud i dy helpu di?

    Owain: Ydi hi’n iawn i rywun eich gorfodi chi i wneud gwaith cartref yn eu lle nhw?

    Miss Huws:  Nac ydi, wrth gwrs, Owain. Os oes rhywun yn gofyn i ti wneud hynny, fe ddylet ti ddweud wrth rywun, wir. Fyddet ti’n hoffi dweud rhywbeth wrtha i, Owain?

    Owain (mewn rhyddhad): O byddwn, Miss Huws. Mae Cathi wedi dweud wrtha i am wneud ei gwaith cartref hi, ac rydw i’n gwybod y bydda i mewn helynt os na wna i wneud y gwaith iddi. Plîs peidiwch â dweud wrth fy mod i wedi dweud wrthych chi. Fe fydda i mewn helynt dychrynllyd os daw hi i wybod.

    Miss Huws:  Owain, rydw i mor falch dy fod ti wedi dweud wrtha i am hyn. Nawr fy mod i’n gwybod, fe alla i wneud rhywbeth am y peth, a dy helpu di. Wyt ti’n teimlo’n well, nawr dy fod ti wedi dweud wrtha i?

    Owain:  Ydw, yn wir!

  5. Oedwch wrth roi’r cwestiwn yma i’r plant feddwl amdano: A wnaeth Owain y peth iawn? Gofynnwch i’r plant bleidleisio ‘Do’ neu ‘Naddo’, ac yna cyfrwch y pleidleisiau.

  6. Golygfa 3

    Llefarydd:  Drannoeth mae Miss Huws ar ddyletswydd ar iard yr ysgol, ac mae hi’n sylwi ar Cathi yn mynd at Owain. Mae golwg flin ar Cathi.

    Cathi:  Wel, ble mae ’ngwaith cartref i? Tyrd â fo i mi.

    Llefarydd:  Mae Miss Huws yn gweld Cathi yn codi ei dwrn fel petai’n mynd i daro Owain, ac mae’n mynd atyn nhw ar frys.

    Miss Huws (yn dawel):  Cathi. Alla i gael gair bach tawel efo ti, plîs?

  7. Fel eglurhad i’r stori, dywedwch wrth y plant bod Miss Huws wedi cael sgwrs hir gyda Cathi a’i rhieni ar ôl hynny. Ac erbyn gweld, roedd Cathi’n cael trafferth gyda’i gwaith ysgol. Roedd hi’n methu ei wneud, ac yn genfigennus o Owain am ei fod ef yn gallu gwneud y gwaith yn iawn. A’r canlyniad oedd iddi ddechrau ei fwlio.

  8. Holwch y plant ydyn nhw’n gwybod wrth bwy y gallan nhw ‘DDWEUD’ os ydyn nhw’n cael eu bwlio. Fe ddylech chi awgrymu eu bod yn gallu mynd at unrhyw oedolyn sydd â chysylltiad cyson â’r ysgol. Rhowch y pwyslais ar rywun sy’n gysylltiedig â’r ysgol y mae'r plentyn yn teimlo’n gyfforddus yn ei gwmni, ac yn rhywun y gallan nhw’i drystio.

    Atgoffwch y plant os ydyn nhw’n pryderu o gwbl am achos o fwlio, fe ddylen nhw DDWEUD.

Amser i feddwl

Myfyrdod

Gofynnwch i’r plant feddwl am y ddrama fach y maen nhw newydd ei gweld, a meddwl am rai o’r teimladau oedd yn cael eu hamlygu yn y ddrama.

Gweddi

Annwyl Dduw,
Helpa ni i dderbyn y pethau sy’n wahanol ym mhob un ohonom.
Dysga ni i fod yn oddefgar o bobl eraill, a dysga ni i adeiladu ar gyfeillgarwch.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon