Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Gwener Y 13EG

Annog y plant i feddwl am rôl siawns a ffawd yn eu bywydau, ar y diwrnod hwn sy’n cael ei ystyried gan rai fel diwrnod mwyaf anlwcus y flwyddyn.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog y plant i feddwl am rôl siawns a ffawd yn eu bywydau, ar y diwrnod hwn sy’n cael ei ystyried gan rai fel diwrnod mwyaf anlwcus y flwyddyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Cerddoriaeth addas: ‘I Should Be So Lucky’ gan Kylie Minogue.

Gwasanaeth

  1. Croeswch ddau fys cyntaf eich dwy law, a’u dangos i’r plant. Holwch ydyn nhw’n gwybod beth ydych chi’n ei wneud â’ch dwylo.

    Rydw i’n croesi fy mysedd. Pam y mae rhai pobl yn croesi eu bysedd? Derbyniwch rai awgrymiadau gan y plant. 

    Mae rhai pobl yn credu, os gwnewch chi groesi eich bysedd, y byddwch chi’n cael lwc dda. Fe fydd rhai hefyd yn cyffwrdd rhywbeth pren ac yn dweud, ‘Touch wood’, cadair bren, silff neu bensil efallai, gan gredu y bydd hynny’n dod â lwc dda iddyn nhw. 

    Bydd rhai yn gwneud arwydd y groes o’u blaen fel hyn (dangoswch), gan gredu bod hynny’n mynd i roi lwc dda iddyn nhw. 

    Os ydych chi’n credu bod rhai pethau’n lwcus, y peth gorau all ddigwydd i chi yw i gath ddu groesi’r llwybr o’ch blaen. Holwch y plant oes gan rywun gath ddu gartref. Fe fyddech chi’n meddwl mai nhw yw’r bobl mwyaf lwcus yn y byd am fod y gath yn siwr o fod yn cerdded o’u blaen yn aml iawn!   

  2. Oes rhywun yn gwybod pa ddiwrnod yw hi heddiw? (dydd Gwener) Oes rhywun yn gwybod pa ddyddiad yw hi heddiw? (y 13eg).

    Mae dydd Gwener y 13eg yn ddiwrnod y mae pobl yn ei gysylltu ag anlwc. Mae rhai pobl yn dweud ei bod hi’n beth annoeth iawn i gerdded o dan ysgol ar ddydd Gwener y 13eg, fe fyddai hynny’n siwr o ddod ag anlwc i chi. 

    Maen nhw’n dweud hefyd ei bod hi’n beth anffodus iawn pe byddech chi’n colli halen ar y diwrnod hwn, fe fyddai hynny’n dod â rhagor o anlwc i chi. 

    Ac fe fyddai’n waeth byth pe baech chi’n torri drych ar ddydd Gwener y 13eg. Fe fyddech chi’n anlwcus iawn wedyn. 

    Mae rhai pobl hyd yn oed yn credu ei fod yn beth anlwcus gweld un bioden ar ben ei hun. Dyna goroni eich anlwc!

    Wel, dyna beth mae rhai pobl yn ei ddweud, beth bynnag!

  3. Weithiau mae’n hwyl bod ag ychydig bach o ofn. Efallai mai gwrando ar stori ysbryd fydd yn anfon ias oer i lawr eich cefn; neu chwarae gêm â rhywun yn gwisgo mwgwd hyll. Ond ddylen ni ddim bod yn ofnus ynghylch pethau felly. Yn union fel y gred am ddydd Gwener y 13eg, tipyn bach o hwyl yw’r cyfan. Efallai ein bod ni’n hoffi codi ychydig bach o ofn ar y naill a’r llall, ond smalio rydyn ni, dydyn ni ddim o ddifrif.

  4. Dydyn ni ddim yn ofnus oherwydd ein bod yn gwybod bod rhywun mwy na ni i ofalu amdanom bob amser. Yn yr ysgol, yr athrawon a’r cynorthwywyr yw’r rhain. Gartref, ein rhieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill ein teulu yw’r rhain. Ac yn y Beibl, mae’n dweud wrthym ni fod rhywun sydd hyd yn oed yn fwy na’r bobl hynny.

    Y mae’r sawl sy’n byw yn lloches y Goruchaf,
    ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
    yn dweud wrth yr Arglwydd, ‘Fy noddfa a’m caer, 
    fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.’ (Salm 91.1-2)


    Ysgrifennwyd y geiriau yma filoedd o flynyddoedd yn ôl, i annog  y dynion a’r merched a’r plant oedd yn byw bryd hynny i beidio â bod yn ofnus. Mae’r Salm yn mynd ymlaen i ddisgrifio’r ffordd y mae Duw yn ein gwarchod, fel y mae iâr yn gofalu am ei chywion. Mae’r iâr yn gadael i’r cywion redeg o gwmpas i archwilio’u byd a gwneud beth bynnag y maen nhw eisiau. Ond, pan fydd yr iâr yn synhwyro bod perygl yn agos, mae’r cywion yn rhedeg yn ôl ati ac yn swatio o dan ei hadain, lle maen nhw’n teimlo’n ddiogel. 

    Pa un ai teimlo’n lwcus neu’n anlwcus y byddwn ni heddiw, does dim angen i ni fod yn bryderus. Fe allwn ni gredu bod rhywun yn gofalu amdanom.

Amser i feddwl

Gweddi
Diolch i ti na fydd yn rhaid i ni byth deimlo’n bryderus neu’n unig.
Ddim ar y dyddiau lwcus, pan fydd popeth i’w weld yn dda a ninnau’n hapus,
na dim ar y dyddiau anlwcus, pan fydd pethau yn mynd o chwith ac yn gwneud i ni deimlo’n ofidus.
Diolch i ti bod yno rywun bob amser y gallwn ni fynd ato ef neu hi er mwyn bod yn ddiogel.
Diolch yn arbennig am athrawon a chynorthwywyr, ac am rieni, brodyr a chwiorydd.
Amen.

Cân/cerddoriaeth

I Should Be So Lucky’ - Kylie Minogue

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon