Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwneud Camgymeriadau 3

Datblygu dealltwriaeth o’r geiriau: ‘Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Datblygu dealltwriaeth o’r geiriau: ‘Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen rhywfaint o Geostrips, pinnau cysylltu, a lluniau o adeileddau amrywiol sydd ar ffurf triongl. Fe allai’r rhain fod yn lluniau o bethau sydd i’w gweld o gwmpas yr ysgol neu’n strwythurau fel pontydd, peilonau trydan, neu luniau to rhai adeiladau y gallwch chi eu cael oddi ar y rhyngrwyd neu o lyfrau.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i rai o’r plant lunio siapiau trwy ddefnyddio Geostrips. Gall un wneud siâp sgwâr, un arall wneud petryal. Efallai y gall un wneud siâp hecsagon.

    Eglurwch i’r plant ein bod eisiau rhoi prawf ar y siapiau hyn o ran cryfder. Fe wnawn ni hyn trwy wthio’r ochrau. Galwch ar rywun arall i ddod atoch chi i wneud hyn.

    Holwch oes rhywun yn gallu awgrymu sut i wneud y siapiau yn gryfach. Rydych chi’n gobeithio y bydd rhywun yn awgrymu ychwanegu strip croesgornel i wneud siapiau triongl. 

    Rhowch brawf ar y rhain wedyn. Ydyn nhw’n gryfach nawr?

  2. Eglurwch i’r plant bod y siâp triongl yn siâp cryf iawn, sy’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn adeiladwaith, ac i’w weld yn amlwg yn y diwydiant adeiladu. Chwiliwch am dystiolaeth o hyn o’ch cwmpas.

    Yna, edrychwch ar y lluniau sydd gennych chi. Os ydyn nhw’n lluniau rydych chi wedi eu tynnu o gwmpas yr ysgol, ydi’r plant yn gallu eu hadnabod? Neu edrychwch ar luniau eraill o adeiladwaith sydd ar ffurf triongl.

  3. Eglurwch fod yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu am adeiladwaith yn mynd i’n helpu yn ein gwersi sy’n ymdrin â gwneud camgymeriadau. Daliwch un Geostrip i fyny. Rhowch ar y top y llythyren ‘D’ am Duw, a rhowch y gair ‘fi’ ar y gwaelod.

    Mae’r Beibl yn dweud bod Duw yn fy ngharu i ac yn gwybod fy mod i’n fod dynol. Mae’n gwybod fy mod i’n gwneud camgymeriadau. Mae’r camgymeriadau weithiau’n rhai bach sydd heb fod yn bwysig, ac sy’n effeithio ar fawr neb arall ond fi fy hun. Ond weithiau fe allan nhw fod yn gamgymeriadau mawr sy’n gallu peri loes i bobl eraill.

    Am nad bod dynol yw Duw, mae Duw eisiau maddau i mi am yr holl gamgymeriadau rydw i’n eu gwneud.

  4. Daliwch un Geostrip arall i fyny. Rhowch ar y top y llythyren ‘D’ am Duw, a rhowch briflythrennau enw un o’ch ffrindiau ar y gwaelod y tro yma, e.e. ‘Mrs T’. 

    Eto, fel rydyn ni wedi dweud eisoes, mae Duw yn caru Mrs T, ac yn gwybod mai bod dynol yw hi. Mae’n gwybod ei bod hi’n gwneud camgymeriadau. Mae’r camgymeriadau weithiau’n rhai bach sydd heb fod yn bwysig, ac sy’n effeithio ar fawr neb arall ond hi ei hun. Ond weithiau fe allan nhw fod yn gamgymeriadau mawr sy’n gallu peri loes i bobl eraill.

    Am nad bod dynol yw Duw, mae Duw eisiau maddau i Mrs T am yr holl gamgymeriadau y mae hi yn eu gwneud.

  5. Ymunwch y ddau Geostrip â’i gilydd yn y top, lle mae’r llythrennau ‘D’. (Fe ddylai fod gennych chi ddau Geostrip yn hongian gyda’i gilydd!) Gofynnwch i’r plant ydyn nhw’n cofio sut mae gwneud adeiladwaith cryf. 

    Ymunwch y ddau ben isaf â thrydydd Geostrip i ffurfio triongl. Pwyntiwch at y rhannau perthnasol o’r triongl wrth i chi gyfeirio at y pethau canlynol.

    Beth mae hyn yn ei olygu? Mae Duw yn caru Mrs T. Mae Duw yn fy ngharu i. Mae Mrs T yn gwneud camgymeriadau, ac mae Duw yn maddau iddi. Rydw i’n gwneud camgymeriadau, ac mae Duw yn maddau i mi.

    Nawr, fe allaf i faddau i Mrs T pan fydd hi’n gwneud camgymeriad, ac fe all Mrs T faddau i mi pan fyddaf i’n gwneud camgymeriad. 

    A dyna’r ffordd y gallwn ni sicrhau bod ein bywydau yn parhau’n gryf ac yn gadarn. 

    All unrhyw un awgrymu beth fyddai’n digwydd pe na fydden ni’n maddau i’r naill a’r llall am ein camgymeriadau?

    Tynnwch drydedd ochr eich triongl o’r gwaelod ac edrychwch ar y darnau yn hongian!

  6. Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni y dylen ni faddau i’r naill a’r llall, yng Ngweddi’r Arglwydd. Oes rhywun yn gallu dweud wrthych chi pa ran o’r weddi sy’n dweud hynny?

Amser i feddwl

Myfyrdod
Dychmygwch siâp triongl. Mae enw Duw ar y top. Mae eich enw chi ar ben un o’r ochrau. Enw pwy fyddech chi’n ei roi yn y gornel arall?

Mae’r Beibl yn dweud bod Duw eisiau i ni ddysgu maddau camgymeriadau pobl eraill ac adeiladu bywyd cryf.

Gweddi
Adroddwch Weddi’r Arglwydd gyda’ch gilydd.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon