Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Pan Fydda I Wedi Tyfu

Ystyried y gwaith sy’n cael ei wneud gan bobl eraill, a meddwl am ddod yn aelod gwerthfawr o’r gymdeithas.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Ystyried y gwaith sy’n cael ei wneud gan bobl eraill, a meddwl am ddod yn aelod gwerthfawr o’r gymdeithas.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth yma wedi’i fwriadu i fod yn wasanaeth dosbarth i’w gyflwyno i blant dosbarthiadau Cyfnod Allweddol arall, neu i’r ysgol gyfan. Fe fyddai’n bosib ei gysylltu â phrosiect am y gwaith y mae gwahanol bobl yn ei wneud.
  • Gallai’r plant ddarllen y geiriau oddi ar gardiau neu eu dysgu ar eu cof os hoffech chi gyflwyno perfformiad mwy caboledig.

  • Mae’r gosodiad yn bwysig, ac fe allai gwisgo dilladau addas ychwanegu at yr effaith gyffredinol. Neu, fe allai’r plant ddal i fyny luniau y maen nhw wedi’u paratoi o flaen llaw, wrth iddyn nhw lefaru.

Gwasanaeth

Pan fyddwn ni wedi tyfu’n oedolion, tybed beth fyddwn ni.
Mae cymaint o wahanol swyddi, dyma restr o ddim ond rhai i chi.

Llefarwyr:
  1  Gyrru ambiwlans hoffwn i ei wneud.
  2  Fe hoffwn i weithio i’r gwasanaeth tân.
  3  Aelod o’r heddlu hoffwn i fod.
  4  Fe hoffwn i weithio gydag anifeiliaid - rhai mawr a rhai mân.
  5  Efallai y bydda i’n athro (athrawes) yn gweithio mewn ysgol.
  6  Fe hoffwn i weithio mewn siop sy’n gwerthu dillad ffasiynol.
  7  Fe fydda i’n bensaer enwog yn cynllunio adeiladau hardd.
  8  Fe hoffwn i werthu planhigion i chi gael eu tyfu yn eich gardd.
  9  Efallai y bydda i’n ffermwr, caf yrru tractor bob dydd trwy’r caeau.
10  Efallai bydda i’n llyfrgellydd - rydw i wrth fy modd yng nghanol llyfrau.
11  Chef hoffwn i fod, yn creu bwydydd diddorol.
12  Efallai mai optegydd fydda i, os byddwch chi eisiau sbectol.
13  Fe hoffwn i fod yn adeiladydd a gallu codi ty.
14  Os byddwch chi eisiau trwsio’ch cyfrifiadur, dyma’r dyn i chi!
15  Fe fydda i’n beilot awyren fawr, yn hedfan i wledydd y byd.
16  Fe fydda i’n actor neu’n gyflwynydd rhaglenni teledu, yn eich diddanu chi i gyd.
17  Efallai y byddaf yn beldroediwr, gôl-geidwad efallai - rhif un -
              yn ymarfer fy ffitrwydd bob dydd, a chael fy nhalu am fwynhau fy hun.
18  Efallai y bydda i’n feddyg fydd yn gallu eich gwella chi.
19  Does gen i ddim syniad o gwbl beth yn y byd fydda i!
20  Ond beth bynnag ydw i, beth bynnag fydda i - y fi fydda i!

Amser i feddwl

Gweddi
(Fe allai un o’r plant arwain y weddi hefyd.)

Annwyl Dduw,
Arwain ni ar hyd y ffordd, wrth i ni ddewis beth hoffem ni ei wneud yn ystod ein bywyd.
Helpa ni, trwy waith caled a gweithredoedd gonest, i gyrraedd ein nod.
Dysga ni i helpu eraill, a dod yn aelodau defnyddiol o’r gymdeithas.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mawrth 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon