Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Darllenwch Yr Hanes!

Edrych ar fywyd a gwaith Sant Marc.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Edrych ar fywyd a gwaith Sant Marc.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen ymarfer y sgets gwerthu papurau newydd gyda’r plant. A pharatowch blentyn arall i ddarllen yr adnod o’r Beibl.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch gyda’r sgets gwerthu papurau newydd:

    (Daw’r plant ymlaen a chymryd eu lle. Bob tro y bydd y gwerthwr papurau newydd yn galw pennawd fesul un, daw grwp o blant a ffurfio tablo i ddarlunio’r pennawd hwnnw, tra bydd gweddill y plant yn rhewi mewn ystum ‘Dydw i ddim yn credu hynny’. Bydd gofyn i’r ymateb ddod yn gryfach fesul un, fel bydd yr ymateb i’r pennawd olaf yn un o anghrediniaeth lwyr pan glywan nhw’r pennawd ‘Dyn yn dod yn ei ôl o farw’n fyw!’)

    Gwerthwr papurau newydd: Darllenwch yr hanes, Darllenwch yr hanes! (yn chwifio papur newydd yn ei law)

    Saer yn dweud pethau rhyfedd!

    Moch yn neidio i’r môr!

    Dyn peryglus yn dweud ei fod wedi cael ei iachau!

    Saer yn tawelu storm ar y llyn!

    Dyn mud yn gallu siarad unwaith eto!

    Dyn dall yn deud ei fod yn gallu gweld!

    Dyn wedi cael ei weld yn noeth yn yr ardd!

    Saer yn cael ei groeshoelio!

    Dyn yn dod yn ei ôl o farw’n fyw! 

    (Y plant i ddal yr olygfa olaf am foment cyn eistedd i lawr.)

  2. Ydych chi wedi darllen yr hanes? Mae’r holl storïau yma i’w cael mewn un rhan o’r Beibl, yn y rhan o’r enw Y Testament Newydd. Hwn yw ail ran y Beibl, ac mae’n ymwneud â’r hanes am Iesu, ac am yr hyn a ddigwyddodd ar ôl y Pasg. Mae 27 o lyfrau llai yn y Testament Newydd, ac mae’r holl storïau ‘darllenwch yr hanes’ heddiw yn dod o un yn unig o’r llyfrau rheini - y llyfr rydyn ni’n ei alw’n Efengyl Marc.

  3. Efengyl Marc yw’r fyrraf o’r pedair Efengyl - y llyfrau sy’n adrodd storïau am Iesu wrthym - ac mae pobl y credu mai, o’r pedwar llyfr, hwn oedd y llyfr a ysgrifennwyd yn gyntaf. Mae rhediad y llyfr yn dda, gan nad yw’n oedi’n rhy hir ar unrhyw stori neu olygfa.

    Ac yn y stori gan Marc am sut y cafodd Iesu ei fradychu, rydyn ni’n darllen stori fach od iawn (gwelwch Marc 14.50).

    Darllenydd:  ‘Ac roedd rhyw lanc yn ei ganlyn ef, yn gwisgo darn o liain dros ei gorff noeth. Cydiasant ynddo ef, ond dihangodd, gan adael y lliain a ffoi’n noeth.’

    Dyna stori fach ryfedd! Roedd Iesu’n cael ei arestio, ac roedd cymaint o ofn ar y dyn yma fel y gadawodd ei ddillad yn nwylo’r milwr a dianc oddi yno, yn noeth.

    Mae pobl sydd yn astudio’r Beibl yn credu mai Marc ei hun oedd y dyn ifanc yma, a eisteddodd i lawr ar ôl hynny i ysgrifennu ei atgofion am ei fywyd yn dilyn Iesu.

  4. Rydyn ni’n gwybod, o storïau eraill yn y Beibl, bod Marc yn ffrind i Paul, a’i fod wedi teithio llawer iawn gyda Paul ar deithiau o gwmpas Môr y Canoldir.

    Ond, yn bwysicach, Marc oedd yr awdur a ysgrifennodd y llyfr cyntaf am Iesu, gan ysgrifennu'r hyn yr oedd ffrind mawr Iesu, sef Paul, yn ei gofio efallai am Iesu ac ychwanegu rhannau ei hun fel y stori fach honno oedd yn rhan o atgofion personol Marc ei hun.

  5. Ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach, rydyn ni’n dal i ddarllen y llyfr hwnnw! Dychmygwch pe byddech chi’n ysgrifennu storïau rydych chi’n meddwl eu bod yn bwysig, ac yna’n darganfod 2,000 o flynyddoedd yn y dyfodol bod y storïau hynny’n sail i’r hyn y mae’r Eglwys Gristnogol yn ei gredu am Iesu!

  6. Dyn cyffredin oedd Marc, doedd dim yn arbennig yn ei gylch. Ond roedd yn gwybod beth oedd yn ei gredu am Iesu, ac fe ysgrifennodd y storïau hynny i’w rhannu â phobl eraill. Heddiw, ynghyd â miloedd o bobl eraill, rydyn ni’n dal i fod yn darllen y storïau hynny.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r plant ail ddarlunio’r ystum olaf hwnnw, oedd yn ymateb i’r pennawd, ‘Dyn yn dod yn ei ôl o farw’n fyw!’ Ac wrth i’r gwerthwr papurau newydd ail weiddi’r pennawd, gall y plant newid eu hystum i un o ddathlu mawr.

Darllenwch yr hanes!
Mae’n hawdd anwybyddu penawdau’r dydd.
Darllenwch yr hanes!
Ond ddim mor hawdd pan fo pobl wedi bod yn adrodd yr un stori am 2,000 o flynyddoedd.
Darllenwch yr hanes!
Beth fyddaf i’n ei gyfrannu at y dyfodol?
Darllenwch yr hanes!
Oedd gan Marc unrhyw syniad o faint yr oedd ef yn ei gyfrannu?
Darllenwch yr hanes!
Boed i’r hyn y byddaf yn ei wneud heddiw,
a phob ‘heddiw’ arall,
helpu i wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo yn y dyfodol.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon