Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Blodau

Gwerthfawrogi harddwch blodau, yn neilltuol yn ystod tymor y gwanwyn.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Gwerthfawrogi harddwch blodau, yn neilltuol yn ystod tymor y gwanwyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n ddefnyddiol pe gallech chi gasglu tua chwech o wahanol flodau’r gwanwyn (paratowch fâs o ddwr i ddal y blodau). Neu, chwiliwch am rai lluniau o flodau i’r plant geisio eu hadnabod. Cadwch y rhain o’r golwg i ddechrau.
  • Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol i chi allu darllen y gerdd gyda’ch gilydd.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant fod gennych chi rywbeth arbennig iawn i’w ddangos iddyn nhw, ond efallai y gallan nhw ddyfalu beth sydd gennych chi . Rhowch gliwiau iddyn nhw i’w helpu wrth ddyfalu. Dyma rai o drysorau prydferthaf byd natur; maen nhw’n lliwgar; maen nhw’n harddu ein hystafell ddosbarth neu ein cartrefi; mae arogl hyfryd ar rai; bydd pobl yn hoffi eu rhoi ar achlysuron fel pen-blwyddi, ar ddydd Santes Dwynwen neu ddydd Sant Ffolant.

    Erbyn hyn, fe fydd y plant wedi gallu dyfalu, mae’n debyg, mai am flodau rydych chi’n sôn. Dangoswch y rhai sydd gennych chi. Gofynnwch i’r plentyn sy’n gallu dweud wrthych chi beth yw enw’r gwahanol flodau, y byddwch chi’n eu dangos fesul un, i ddod atoch chi i sefyll a dal y blodyn hwnnw. Wedi i’r holl wahanol flodau gael eu henwi, fe fyddai cyfle da yma i enwi a dysgu gwahanol rannau’r blodyn.

  2. Oes rhywun yn gallu meddwl am achlysuron eraill pan fydd pobl yn rhoi blodau? (Fe fydd plant yn llawn syniadau ac awgrymiadau fel arfer!) Gofynnwch i’r plant sydd wedi bod yn dal y blodau eu rhoi yn y fâs sydd â dwr ynddi, a mynd yn ôl i’w lle i eistedd.

  3. Gwahoddwch eich cynulleidfa i ddarllen y gerdd gyda chi.

    Blodau
    addasiad o gerdd gan Jan Edmunds

    Mae lliwiau hyfryd ar y blodau hardd,
    A’u harogl pêr yn denu’r gwenyn i’r ardd.
    Mae rhai blodau’n dringo i fyny’r wal,
    Rhai fel llygad y dydd yn fân, a blodau’r haul yn tyfu’n dal.
    Mae yno flodau i’w casglu a’u cyflwyno’n rhodd -
    Trysorau i’w rhannu â rhai fydd wrth eu bodd.

  4. Cwestiynau dewisol: Beth sy’n denu’r gwenyn at y blodau? Pa flodau sy’n fach iawn? Pa flodau sy’n tyfu’n dal? Pam ein bod weithiau’n casglu blodau?

Amser i feddwl

Myfyrdod

Yn nhymor y gwanwyn y blodau yw’r arwyddion cyntaf bod tywydd oer y gaeaf bron ar ben, a bod y tywydd yn dechrau gwella. Mae’r cennin Pedr yn olygfa hardd tuag adeg y Pasg. Ymhen amser, pan fydd cyfnod y blodau’n dod i ben, a’r petalau’n gwywo, fe wyddom y bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw’n blodeuo eto'r flwyddyn nesaf. Fe fyddan nhw’n blodeuo mor hardd ag erioed, ac fe fyddan nhw’n addewid o fywyd newydd. Mae hyn yn ein hatgoffa o stori’r Pasg. (Fe allech chi ehangu ar hyn.)

Roedd Iesu’n caru blodau. Fe ddywedodd, ‘Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu; ond rwy’n dweud wrthych, nid oedd gan hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant wisg i’w chymharu ag un o’r rhain (Luc 12.27).

Gweddi

Diolch i ti, Dduw, am harddwch y blodau.

Wrth roi blodau, mae’n dangos mewn unrhyw iaith, ein bod yn ofalgar.

Mae blodau’n gallu llonni ein diwrnod ac yn gallu llenwi ein calonnau â llawenydd.

Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon