Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Dyn FfolL

Myfyrio ar ffolineb ac ar ddoethineb.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Myfyrio ar ffolineb ac ar ddoethineb.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddwch chi angen stori’r dyn doeth a’r dyn ffôl o Efengyl Mathew 7.24–27.
  • Bwrdd gwyn ar gyfer yr Amser i Feddwl.
  • Chwiliwch am eiriau’r gân 'The wise man built his house upon the rock', ar y wefan http://childbiblesongs.com/song-21-wise-man-built-his-house.shtml).

    Dyma gân a symudiadau iddi, sy’n boblogaidd iawn gan y plant lleiaf. Efallai y gallech chi addasu’r geiriau i lunio fersiwn Gymraeg syml.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch y stori ganlynol wrth y plant, sy’n stori o wlad Sierra Leone.

    Y dyn ffôl wrth y ffynnon

    Mewn pentref yn ymyl tref Dodo yng ngwlad Sierra Leone mae ffynnon fawr. Un noson pan oedd y lleuad yn llawn ac yn goleuo’n loyw iawn, aeth dyn ffôl am dro. Pan gyrhaeddodd y ffynnon, fe edrychodd i mewn iddi. Ar y funud honno, roedd y dwr yng ngwaelod y ffynnon fel drych. Ac fe welodd y dyn lun y lleuad yn y dwr. 

    ‘O diar! Mae’r lleuad wedi syrthio i’r ffynnon,’ meddyliodd y dyn ffôl. Penderfynodd y byddai’n rhaid iddo godi’r lleuad o waelod y ffynnon. Rhedodd adref i nôl bachyn mawr. Datglymodd y bwced oedd yn sownd wrth raff y ffynnon a rhoi’r bachyn yn ei le. Yna, gollyngodd y rhaff a’r bachyn ar ei blaen i lawr i waelod y ffynnon. 

    Cyrhaeddodd y bachyn y gwaelod, a sblasiodd yn y dwr. Ceisiodd y dyn droi handlen y ffynnon i godi’r bachyn yn ei ôl, ond doedd dim yn digwydd. Tynnodd a thynnodd, ond doedd y bachyn ddim yn dod i fyny. ‘Rhaid bod y lleuad yn drwm iawn,’ meddyliodd. 

    Ond nid y lleuad oedd yno. Roedd y bachyn wedi mynd yn sownd mewn carreg fawr yng ngwaelod y ffynnon. O'r diwedd, ar ôl bod yno am tuag awr yn tynnu ac yn tynnu, a’i nerth bron â phallu, fe drodd yr handlen yn sydyn a syrthiodd y dyn ar wastad ei gefn ar lawr. Roedd wedi synnu’n fawr ac edrychodd i fyny i’r awyr. Beth a welodd yno, yn loyw uwch ei ben, ond y lleuad!

    ‘O, da iawn,’ meddai’r dyn ffôl. ‘Rydw i wedi llwyddo i roi’r lleuad yn ôl yn ei le yn yr awyr.’

  2. Gofynnwch i’r plant pam eu bod yn meddwl fod y dyn yn ffôl. Nodwch ei fod wedi gwastraffu llawer o amser ac egni i geisio achub y lleuad o’r ffynnon - ac yn meddwl ei fod wedi llwyddo i wneud hynny!

    Dywedwch wrth y plant fod y stori yn ein hatgoffa am stori yn y Beibl, lle mae Iesu’n sôn am ddyn ffôl arall. Roedd yn ymddangos fel pe bai’r dyn yn gwneud peth call, sef adeiladu ty iddo ef ei hun a’i deulu. Mae adeiladu ty yn golygu llawr o waith caled ac ymrwymiad. Nid pethau y gallwch chi eu codi mewn diwrnod yw tai. Felly, pam fod Iesu’n dweud bod y dyn yma, a oedd eisiau codi ty iddo’i hun a’i deulu, yn ffôl?

  3. Darllenwch y stori o Efengyl Mathew 7.24-27. Roedd y dyn ffôl yn y stori yn gwneud pethau yn y ffordd hawsaf, a dim yn gwneud pethau’n iawn.

    Eglurwch mai dameg yw’r stori; hynny yw, stori gydag ystyr arbennig iddi. Mae Iesu’n cymharu ei hun i graig gadarn. Mae’n dweud wrth ei ddilynwyr, os oes ganddyn nhw ffydd yn Nuw ac yn y Beibl, fe fydd hynny’n rhoi sylfaen dda a chadarn ar gyfer eu bywydau.

    Mae Duw eisiau i ni wybod hynny a dysgu sut y gallwn ni adeiladu ein bywydau i’w gwneud yn ddoeth a chryf a da.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Gofynnwch i’r plant fyfyrio ar yr hyn maen nhw’n ei gredu sy’n sylfaeni da ar gyfer eu bywydau. 

Ar fwrdd gwyn, lluniwch ran o wal wedi’i gwneud o batrwm brics adeiladu. Tra mae’r plant yn myfyrio, gosodwch label ar bob bricsen, fel gonestrwydd, caredigrwydd, ffyddlondeb, dyfalbarhad, dewrder, ac ati.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod di’n gwybod beth yw’r sylfaeni da y mae eu hangen arnom i adeiladu’n bywydau arnyn nhw. 
Helpa ni i fod yn ddoeth, i wrando ar wirionedd dy eiriau ac i ddewis dy ffyrdd di.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon