Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Halen

Dangos y gall rhywbeth cyffredin fod yn bwysig hefyd.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos y gall rhywbeth cyffredin fod yn bwysig hefyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ychydig iawn o waith paratoi sydd ei angen, ond fe fyddai’n ddefnyddiol cael pecyn o halen.
  • Gall prosiect dosbarth am halen fod yn ddiddorol iawn. Fe allech chi goginio ychydig o reis plaen heb halen ac ychydig gyda mymryn o halen. Yna, fe allech chi ofyn i rai o’r plant flasu’r ddau fath a nodi’r gwahaniaeth.

  • Fe fyddai OHP yn ddefnyddiol i chi allu darllen y gerdd gyda’ch gilydd. Fe allech chi ofyn i wahanol blant ddarllen gwahanol rannau, os hoffech chi, rhag i chi fod yn llefaru’r gerdd gyfan.

Gwasanaeth

  1. Daliwch yr halen i fyny i’w ddangos i’r plant a gofynnwch iddyn nhw ydyn nhw’n gwybod beth ydyw. Gwahoddwch un neu ddau o blant i ddod i’w flasu. Os oes gennych chi beth o’r reis, gwahoddwch un neu ddau o blant i ddod i flasu’r ddau fath o reis hefyd. 

    Eglurwch nad yw halen yn beth sy’n edrych yn arbennig iawn. Fe fyddwn ni’n cyfeirio ato’n aml fel halen cyffredin (‘common’ salt) ond mae’n ddefnyddiol iawn i wneud nifer o bethau. Gofynnwch i’r plant awgrymu rhai ffyrdd y byddwn ni’n defnyddio halen. Efallai y bydd rhai’n ymwybodol pa mor bwysig oedd halen yn ystod y cyfnod o rew ac eira gawsom ni yn ystod y gaeaf. Peidiwch ag anghofio ei fod yn gyfrwng i breserfio bwyd, fel yn achos ham a bacwn neu bysgod hallt. Mae’n ddiheintydd naturiol, yn ogystal ag yn gyfrwng i amlygu’r blas mewn bwyd: gall pinsiad bach o halen mewn teisen siocled roi gwell blas arni, medden nhw! Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, roedd milwyr yn cael eu talu â halen, ac fe’i defnyddiwyd ar fordeithiau hir i gadw bwyd ac i arbed y teithwyr rhag datblygu afiechyd y llwg (scurvy).

  2. Eglurwch fod sawl ystyr i’r gair ‘cyffredin’ neu ‘common’. Yn Saesneg, os bydd pobl yn disgrifio unigolyn fel rhywun common, fe all olygu nad yw’r unigolyn yn ddymunol iawn neu efallai ei fod yn ymddwyn mewn ffordd anfoesgar. Ond, mae’r gair hefyd yn gallu golygu rhywbeth y mae llawer ohono neu ddigon i’w gael. Mae’r gair yn yr ystyr ‘pobl gyffredin’ yn cyfeirio at bawb ohonom - ‘common people’. Fe ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, ‘Chi yw halen y ddaear.’ Roedd yn dweud wrthyn nhw pa mor bwysig oedden nhw yn y gwaith o ledaenu gair Duw, a sut y mae gweithredoedd bach caredig yn gallu bod o fantais fawr i lawer o bobl. Er enghraifft, os byddwch chi’n gwenu ar rywrai heddiw, mae’n bur debyg y byddan nhw’n gwenu’n ôl arnoch chi, a bydd hynny’n gwneud i chi a nhw deimlo’n well.

    Mae pobl yn cyfeirio at halen fel peth cyffredin am fod llawer iawn ohono i’w gael yn y byd - yn y môr ac yn y ddaear.

  3. Gwrandewch ar y gerdd. 

    Halen 
    addasiad o gerdd gan Jan Edmunds.

    Gall rhywbeth sy’n gyffredin fod yn bwysig hefyd,
    Fel mae halen yn ddefnyddiol i flasu byrbryd.
    Mae’n toddi’r rhew ar y ffyrdd yn y gaeaf,
    Ac yn fodd o gadw cig, pysgod, a rhai llysiau rhag pydru’n araf.
    Ers talwm byddai pobl yn derbyn halen fel tâl am waith,
    Ac mae hefyd yn ddiheintydd naturiol, mae hynny’n ffaith.
    Mae peth mor gyffredin â halen yn ddefnyddiol i ni i gyd,
    Ac mae wedi’i ddefnyddio trwy’r oesoedd yn hanes ein byd.

  4. Nawr, adroddwch y stori ganlynol.

    Dyna wahaniaeth y mae ychydig o halen yn ei wneud! 
    addasiad o stori Jan Edmunds

    Un diwrnod daeth Ffarmwr Ffredi adref o’i waith wedi blino’n lân, ac oherwydd hynny, roedd yn ddrwg ei hwyl. Roedd ar ei blant, Begw a Gwyn, ychydig o ofn eu tad pan fyddai’n ddrwg ei hwyl, ond roedden nhw’n gwybod y byddai’n teimlo’n well ar ôl iddo fwyta’i swper. 

    Gwyliodd y ddau eu mam yn rhoi llond plât o gig a thatws o’i flaen ar y bwrdd. Gyda’r llond ceg cyntaf, gwgodd eu tad.

    ‘Ych!’ meddai wrth ei wraig. ‘Rwyt ti wedi anghofio rhoi halen yn y tatws, rwyt ti wedi difetha fy swper!’ 

    Dim ond mymryn bach iawn o halen y byddai Mrs Ffredi yn ei roi yn y bwyd wrth ei goginio, ond roedd yn ddigon i wneud gwahaniaeth yn y blas. Roedd Ffarmwr Ffredi yn parhau i fod mewn tymer ddrwg, ac fe ddiflannodd y plant i fyny’r grisiau a mynd i’w gwelyau’n gynnar.

    Y noson ganlynol, fe ddaeth Ffarmwr Ffredi i’r ty fel arfer o’i waith, ac roedd golwg ddig arno eto. Eisteddodd wrth y bwrdd yn barod i fwyta’i swper. Cymerodd damaid o’i fwyd. ‘Ych!’ meddai eto. ‘Mae hwn yn hallt ofnadwy!’ 

    ‘O diar!’ meddai Mrs Ffredi. ‘Dydw i ddim yn meddwl fy mod i wedi rhoi gormod o halen yn y dwr wrth ferwi’r tatws heddiw.’ 

    Edrychodd Begw’n ofidus. ‘Sori, Mam,’ meddai. ‘Fe wnes i roi halen yn y sosban datws rhag ofn i chi anghofio, a doeddwn i ddim eisiau i dad fod yn ddrwg ei hwyl eto.’ 

    Clywodd ei thad hi’n dweud hyn a sylweddoli beth oedd wedi digwydd. Sylweddolodd hefyd pa mor ddrwg yr oedd wedi ymddwyn, ac fe ddeallodd faint yr oedd ei dymer ddrwg weddi effeithio ar ei deulu. Roedd yn gweld mai dim ond ceisio helpu yr oedd Begw, ac fe ymddiheurodd trwy ddweud ei bod hi’n ddrwg iawn ganddo. Sylweddolodd pawb gymaint o wahaniaeth yr oedd dim ond ychydig bach o halen yn ei wneud i’r bwyd?

    Y diwrnod wedyn, roedd Ffarmwr Ffredi yn benderfynol o beidio â bod yn ddrwg ei hwyl. Ond doedd dim rhaid iddo ef na’i deulu bryderu am hyn gan fod ei fwyd yn blasu’n berffaith. Roedd Mrs Ffredi wedi rhoi’r swm perffaith o halen yn ei fwyd y tro yma, ac roedd pawb yn hapus.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Mae gan rai pobl ddigonedd o arian, ac maen nhw’n byw mewn cartrefi moethus. Ond er bod ganddyn nhw bopeth y mae arnyn nhw ei eisiau, nid yw hynny o angenrheidrwydd yn gwneud eu cartref yn gartref hapus. Bydd rhai pobl yn gweld y cartrefi hynny’n ddi-flas, ac yn debyg i brydau bwyd heb halen ynddyn nhw.

Gall rhai cartrefi fod yn gartrefi tlawd, ond er hynny’n gartrefi hapus. Maen nhw fel y pryd bwyd sydd â’r mymryn perffaith o halen ynddo sy’n rhoi’r blas iawn arno.

Gweddi
Gall pobl gyffredin fel ni, sydd heb fod yn arbennig mewn unrhyw ffordd, fod fel yr halen cyffredin.
Does dim rhaid i ni fod yn rhywun pwysig,
does dim rhaid i ni fod yn gyfoethog nac yn eithriadol o glyfar,
ond fe allwn ni fod yn garedig ac yn ystyriol tuag at bobl eraill.
Yng ngolwg Duw, rydyn ni fel halen;
rydyn ni i gyd yn cyfrif, ac fe allwn ni i gyd fod yn ‘halen y ddaear’ i eraill:
yn rhywun y gallwch ymddiried ynddo, yn ddibynadwy a phob amser yn barod i helpu.
Yng ngolwg Duw, rydyn ni i gyd yn gydradd.
Gadewch i ni ddysgu byw gyda’n gilydd mewn cytgord a heddwch,
ac felly wneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon