Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dyna Awyr Rfeddol!

Cyflwyno Blwyddyn Ryngwladol Seryddiaeth 2009 i’r plant, ac annog eu diddordeb yn awyr y nos.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Cyflwyno Blwyddyn Ryngwladol Seryddiaeth 2009 i’r plant, ac annog eu diddordeb yn awyr y nos.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y clip o fideo NASA. Dyma ran hyfryd, gyda cherddoriaeth gefndir, sy’n dangos mudiant yn yr awyr yn nhreigl amser, ond sydd wedi’i gywasgu i tua phedwar munud.

  2. Gofynnwch i’r plant ydyn nhw ryw dro wedi sefyll allan yn y nos mewn lle tywyll, ac wedi gallu edrych ar yr awyr. Gofynnwch iddyn nhw sut beth yw edrych i fyny ar yr awyr yn y nos ac edrych ar y sêr. 

    Os yw’n bosib trefnu hyn, caewch y llenni a ddiffoddwch y golau. Holwch y plant tybed, unwaith y mae eu llygaid wedi cynefino â’r tywyllwch, sut maen nhw’n dal i allu gweld pethau yn y neuadd neu’r dosbarth. Eglurwch i’r plant ei bod hi anodd yn aml y dyddiau hyn i werthfawrogi pa mor rhyfeddol yw awyr y nos oherwydd ein bod wedi ein hamgylchynu â’r holl oleuadau sydd o’n cwmpas. Gofynnwch i’r plant enwi rhai: lampau’r strydoedd, goleuadau ceir, goleuadau’r tai.

  3. Dangoswch y clip sy’n dangos y lluniau o'r awyr yn y nos. Holwch y plant ydyn nhw wedi gweld rhai o’r clystyrau sy’n cael eu henwi yn y lluniau.

  4. Gofynnwch i’r plant faint maen nhw’n ei feddwl sydd o sêr yn yr awyr. Mae seryddwr yn dweud mai’r ateb iawn i’r cwestiwn hwnnw yw nad oes neb yn gwybod yn iawn. Mae gormod o lawer o sêr yno i neb allu eu cyfrif.

    Eglurwch fod y flwyddyn hon yn flwyddyn arbennig i bobl sy’n astudio’r sêr, sef y seryddwyr. Mae eleni’n Flwyddyn Ryngwladol Seryddiaeth. Efallai yr hoffech chi gyflwyno i’r plant y wefan: www.astronomy2009.co.uk <http://www.astronomy2009.co.uk/>

Amser i feddwl

Myfyrdod

Meddyliwch am awyr y nos. Penderfynwch neilltuo amser i edrych i fyny ar yr awyr ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn. Atgoffwch eich hunain eto ein bod yn byw mewn byd prydferth.

(Efallai yr hoffech chi ddefnyddio’r darn o fideo gan NASA i helpu’r plant fyfyrio ar harddwch yr awyr.)

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am yr harddwch sydd o’n cwmpas ym mhob man
ond yn neilltuol heddiw, diolch am harddwch yr awyr.
Diolch i ti am yr haul sy’n ein cadw’n gynnes, yn rhoi goleuni i ni, ac yn rhoi modd i ni fyw.
Diolch i ti am y lleuad sy’n rhoi goleuni i ni yn y nos.
A diolch i ti am y sêr sy’n llenwi awyr y nos â harddwch a rhyfeddod. 
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon