Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhyw Deimlad 'Rydw I Wedi Gwneud Rhywbeth O'I Le'

Egluro bod gwneud rhywbeth o’i le yn gallu effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Egluro bod gwneud rhywbeth o’i le yn gallu effeithio ar sut rydyn ni’n teimlo.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen potel ddwr poeth, rhai meddyginiaethau cyffredin fel Vick a ddefnyddir i’w rwbio ar eich brest, ffisig at beswch, mêl a lemon, paracetamol ar gyfer plant, losin dolur gwddf, a bocs o hancesi papur.
  • Bwrdd gwyn, neu siart troi, a phin ffelt.

Gwasanaeth

  1. Os byddwch chi’n cynnal y gwasanaeth yma gyda’r plant ieuengaf, efallai yr hoffech gyflwyno tedi sydd ‘ddim yn teimlo’n dda’. Eglurwch i’r plant beth sy’n bod ar Tedi a holwch y plant beth fyddai’r ffordd orau i ofalu amdano.

    Gyda phlant hyn, dechreuwch trwy ofyn a oes rhywun wedi bod yn absennol o’r ysgol yn ddiweddar am eu bod wedi bod yn sâl. Trafodwch afiechydon cyffredin a firysau, a sut maen nhw’n effeithio arnom ni.

  2. Edrychwch ar yr eitemau rydych chi wedi’u casglu a’u gosod ar y bwrdd. Pwy fyddai’n defnyddio’r eitemau yma, ac ym mha amgylchiadau?

  3. Eglurwch i’r plant eich bod yn awyddus i siarad heddiw am afiechyd bach od y mae pawb yn ei gael ar ryw adeg neu’i gilydd - mamau a thadau, athrawon, gyrwyr bysiau a rhai’n gweithio mewn siopau, ac yn enwedig plant. Mae’r salwch yn gallu effeithio arnoch chi mewn sawl ffordd wahanol, gan eich gwneud i deimlo’n reit sâl weithiau. Weithiau, mae’n gallu codi poen yn eich bol, neu gur yn eich pen. Weithiau, mae’n gallu eich rhwystro chi rhag cysgu. Weithiau, mae’n gallu gwneud i chi deimlo eich bod eisiau crio. Neu dro arall, efallai y byddwch chi’n teimlo’n hollol ddiflas ac yn methu gwybod yn iawn beth sy’n bod arnoch chi. 

    Fydd potel ddwr peth ddim yn gallu eich helpu, na ffisig at beswch, na thabled na losin i’w sipian, dim hyd yn oed diod gynnes braf. Mae’n gallu eich trwblo am ddyddiau. Yr enw ar y salwch yma yw ‘Rhyw deimlad: rydw i wedi gwneud rhywbeth o’i le’. Tybed faint o’r plant sydd wedi cael y salwch yma?

    Un o’r pethau sy’n gallu ein helpu ni yw eistedd gyda rhywun a siarad am beth sy’n eich poeni. Yna, fel arfer, fe ddaw achos y broblem i’r golwg.

  4. Dywedwch y stori yma wrth y plant, mae’n stori o’r Beibl.

    Roedd un dyn, y mae sôn amdano yn y Beibl, a oedd yn dioddef o’r broblem yma hefyd. Roedd o’n ddyn fyddai’n twyllo pobl eraill. Ei waith oedd casglu arian trethi oddi ar bawb yn y dref. Roedd hon yn swydd yr oedd yn rhaid i rywun ei gwneud, ond roedd y dyn yma o’r enw  Sacheus, yn defnyddio’i swydd i gael rhagor o arian gan bobl nag yr oedd i fod i’w gael. Ac roedd yn rhoi’r arian ychwanegol yn ei boced ei hun. 

    Nawr, yr enw iawn am hynny yw dwyn - er na fyddai Sacheus wedi ei alw’n hynny efallai! Beth bynnag, o ganlyniad, doedd Sacheus ddim yn ddyn poblogaidd iawn. Yn wir, doedd ganddo ddim ffrindiau.

    Ond roedd Iesu yn ei garu er gwaethaf yr hyn roedd yn ei wneud, er nad oedd yn caru’r ffordd yr oedd Sacheus yn ymddwyn. Roedd Iesu’n gwybod bod Sacheus yn ddioddef o’r salwch ‘Rhyw deimlad: rydw i wedi gwneud rhywbeth o’i le’. Roedd Iesu’n gwybod hefyd nad oedd dim ond un feddyginiaeth i Sacheus. 

    Felly, un diwrnod, fe wahoddodd Iesu ei hun i gartref Sacheus am gwpanaid o de a sgwrs. Dydyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth ddywedodd Iesu wrth Sacheus i wneud iddo deimlo’n well, ond rydyn ni’n gwybod bod Sacheus, ar ôl iddo gael y sgwrs honno, wedi bod yn curo ar ddrysau tai’r bobl yr oedd wedi bod yn eu twyllo ac wedi talu’n ôl yr hyn roedd wedi ei ddwyn oddi arnyn nhw, bedair gwaith gymaint ag a gafodd yn y lle cyntaf.

  5. Eglurwch i’r plant bod ffordd i wella o’r cyflwr ‘Rhyw deimlad: rydw i wedi gwneud rhywbeth o’i le’. A’r ffordd honno yw dweud ‘sori’ am y peth rydych chi wedi ei wneud o’i le neu am ddweud rhywbeth na ddylech chi.

    Yn gyntaf, chwiliwch am yr un rydych chi wedi brifo’i deimladau, neu y buoch chi’n gas wrtho, ac yna yn syml ddweud, gyda gwên, os gallwch chi, ‘Mae’n ddrwg gen i’. Ac yn rhyfeddol iawn, fe deimlwch chi’r teimlad annifyr yn dechrau diflannu. 

    Yr un yw’r ateb i oedolion hefyd. Mae oedolion yn aml yn dioddef o’r un math o salwch hefyd. Yn wir, mae’n bosib bod sawl un yn dioddef o’r  salwch ‘Rhyw deimlad: rydw i wedi gwneud rhywbeth o’i le’ ar y funud hon!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Lliwiwch dri o  gylchoedd ar y bwrdd gwyn neu’r siart troi.

Gall ‘goleuadau traffig’ ein helpu i gofio sut i gael gwared â’r salwch cas yma.
COCH yn golygu STOPIWCH a meddwl: oes gen i ryw deimlad fy mod i ‘wedi gwneud rhywbeth o’i le’?

AMBR yn golygu BYDDWCH YN BAROD i wneud pethau’n iawn trwy roi gwên a dweud y gair bach, ‘Sori’.

GWYRDD yn golygu EWCH a gwneud pethau’n iawn. Fe fyddwch yn teimlo gymaint yn well yn fuan iawn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Weithiau fe fydda i’n teimlo’n sâl. Mae hynny oherwydd bod rhyw ran o fy nghorff â haint arno. 
Diolch am yr holl bobl sy’n gofalu amdanaf pan fydda i’n sâl,
a diolch am y moddion a’r meddyginiaethau sy’n fy helpu i deimlo’n well unwaith eto.
Arglwydd Dduw, rwyt ti wedi fy ngwneud i yn y fath fodd, fel pan fyddaf yn gwneud camgymeriad ac yn gwneud rhywbeth o’i le, fe fydd fy nghorff yn rhoi gwybod i mi.
Fydda i ddim yn teimlo’n iawn nac yn hapus o gwbl.
Rwyt ti eisiau i mi deimlo’n well unwaith eto trwy gyfaddef fy nghamgymeriadau a dweud ‘sori’.
Yna, fe allaf gael corff a meddwl iach a chalon hapus.
Helpa fi i gadw’n iach a hapus.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon