Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Mae Bywyd Fel Pel-Droed

Dangos pa mor bwysig yw cael nod i gyrraedd ato trwy gymharu bywyd â gêm bêl-droed.

gan Helen Redfern (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2009)

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Dangos pa mor bwysig yw cael nod i gyrraedd ato trwy gymharu bywyd â gêm bêl-droed.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ddau ddarllenydd: gall Darllenydd 1 wisgo fel peldroediwr. Fe allech chi drefnu i aelod o’r staff wneud hyn os yw’n well gennych chi.
  • Llwythwch i lawr y gerddoriaeth thema oddi ar un o’r rhaglenni chwaraeon sy’n gyfarwydd i’r plant, a’i chwarae wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth, ac wrth iddyn nhw ymadael.

Gwasanaeth

  1. Mae pawb yn gwybod rhywbeth am bêl-droed. Beth ydych chi’n ei wybod?

    Allwch chi enwi rhywun sy’n:
    Chwarae i (enw eich tîm lleol)?
    Chwarae i Manchester United?
    Chwarae i Gymru?

    Bob wythnos, bydd llawer o bobl ledled Prydain yn gwylio gemau pêl-droed, ac yn chwarae pêl-droed. Bydd pobl yn siarad am bêl-droed yn y gwaith, ac yn yr ysgol. Ac mae sôn am bêl-droed  yn y papurau newydd ac ar y teledu. Yn achos rhai pobl, fe fyddech chi’n meddwl bod pêl-droed yn bwysicach na bywyd ei hun.
    Mewn rhai ffyrdd, mae bywyd yn debyg i gêm bêl-droed. Gadewch i ni weld sut.

  2. Darllenydd 1:  Pan fydda i’n camu allan ar y cae pêl-droed, mae un nod ar fy meddwl, sef bod fy nhîm yn sgorio cymaint o goliau â phosib. Waeth i chi heb â bod yn gallu gwneud triciau clyfar â’r bêl oni bai eich bod chi’n gallu sgorio goliau. Taro’r bêl i gefn y rhwyd yw’r teimlad gorau yn y byd. Rydych chi’n cael teimlad anhygoel o fod wedi cyflawni rhywbeth gwych. 

    Darllenydd 2:  Mae bywyd fel gêm bêl-droed. Mae arnom ni angen gôl i anelu ati. Mae targedau yn ein gwaith ysgol yn rhoi nod i ni weithio tuag ato. Mae cael targedau mewn chwaraeon, cerddoriaeth neu sgiliau eraill yn ein hysgogi i ymarfer at bwrpas. Ac mae cyrraedd y nod yn achos dathlu, yn union fel mae sgorio gôl ar y maes chwarae yn achos dathlu.

    Darllenydd 1:  Mae bod yn bêl-droediwr yn grêt y rhan fwyaf o’r amser. Pan fyddwch chi ar eich gorau, dyna’r teimlad mwyaf bendigedig! Ond, pan fyddwch chi’n cael eich anafu ac yn methu chwarae, mae hynny’n deimlad siomedig iawn - a does neb all ddweud wrthych chi pryd na ble y bydd hynny’n digwydd. Ond mae’n digwydd i bron bawb ohonom ar ryw adeg, a does dim llawer y gallwn ni ei wneud ynghylch y peth.

    Darllenydd 2:  Mae bywyd fel gêm bêl-droed. Gall pethau fod yn mynd yn dda ac yna’n sydyn mae rhywbeth ofnadwy’n digwydd - salwch, bwlio, ffrwgwd teuluol, trwbl yn yr ysgol. Mae pawb yn cael adegau anodd yn eu bywyd.

    Darllenydd 1:  Pan fydda i’n chwarae pêl-droed, mae pawb eisiau dweud wrthyf fi sut i chwarae - fy ffrindiau, fy hyfforddwr, hyd yn oed y ‘ffans’! Mae pawb yn dweud rhywbeth gwahanol - bydda’n fwy ymosodol, bydda’n fwy amddiffynnol, cicia fwy, pasia’r bêl yn amlach. Sut rydw i fod i wybod ar bwy i wrando? A’r papurau newydd yw’r gwaethaf - os bydda i’n sgorio cic gosb, rydw i fel duw; ond os bydda i’n methu’r gic gosb, maen nhw’n fy ngalw i’n bob enw dan haul!

    Darllenydd 2:  Mae bywyd fel gêm bêl-droed. Mae pawb eisiau rhoi cyngor i ni, ac mae’n anodd gwybod ar bwy i wrando. Mae rhai pobl yn barod iawn i’n canmol pan fydd pethau’n mynd yn dda, ond yn troi yn ein herbyn yn sydyn pan fydd pethau’n anodd.

    Darllenydd 1:  Pan fydd y chwiban olaf yn cael ei chwythu, rydyn ni’n gwybod wedyn pa un ai ydyn ni wedi ennill y gêm neu wedi colli. Wrth gwrs, mae’n braf ennill, ond yr hyn sy’n bwysig i mi yw gwybod fy mod wedi gwneud fy ngorau, a minnau’n fodlon fy mod wedi rhoi’r cynnig gorau arni.

    Darllenydd 2:  Mae bywyd fel gêm bêl-droed. Ar ddiwedd ein bywyd, fe fyddwn yn sicr o fod eisiau edrych yn ôl a theimlo ein bod wedi gwneud ein gorau, wedi rhoi’r cynnig gorau arni beth bynnag oedd y canlyniad.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am ein bywyd.
Beth yw ein nod neu ein gôl?
At beth rydyn ni’n anelu?
Beth ydych chi’n ei wneud i gyrraedd at eich gôl?
A yw bywyd yn mynd yn dda i chi, neu a ydych chi’n wynebu adegau anodd?
Pwy sydd yno i’ch helpu chi?
Ar bwy rydych chi’n gwrando er mwyn cael cyngor?
Ydych chi’n teimlo eich bod chi’n gwneud eich gorau yn eich bywyd?
Felly, y tro nesaf rydych chi’n gwylio gêm bêl-droed, cofiwch am y ffyrdd y mae bywyd yn debyg i gêm bêl-droed, a holwch eich hun, ‘Pa bryd oedd y tro diwethaf i mi sgorio gôl?’

 

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2016    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon