Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yr Ysbryd Glan: Yr Offeryn Iawn

Helpu’r plant i ddeall y rhodd o’r Ysbryd Glân ar adeg y Pentecost, neu’r Sulgwyn.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall y rhodd o’r Ysbryd Glân ar adeg y Pentecost, neu’r Sulgwyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cynhwysion i wneud brechdan tiwna: torth (heb fod wedi’i thafellu), menyn neu fargarin, tiwna mewn bowlen, a thomato.
  • teclynnau fel sleis codi tarten neu sleis bysgod, fforc, rholbren, ac agorwr tuniau.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y plant eich bod yn gobeithio nad oes wahaniaeth ganddyn nhw, ond chawsoch chi ddim amser i fwyta brecwast/ cinio heddiw cyn y gwasanaeth, ac rydych chi’n teimlo’n llwglyd iawn! Fyddai ots ganddyn nhw pe byddech chi’n gwneud brechdan i chi eich hun, yn sydyn?

    Tynnwch allan gynhwysion y frechdan o un bag, a’r offer i wneud y frechdan o fag arall. Gosodwch nhw ar fwrdd o’ch blaen.

  2. Dechreuwch trwy geisio tafellu’r dorth â’r sleis codi tarten neu’r sleis bysgod. Yna dewiswch fforc i daenu’r menyn neu’r margarin. Ceisiwch godi peth o’r tiwna o’r fowlen â rholbren a’i rowlio. (Y bwriad yw gwneud tipyn o lanast!) Yna gafaelwch yn y tomato yn un llaw a’r agorwr tuniau yn y llaw arall ac edrych mewn penbleth ar y ddau beth. Beth am yr offeryn yma? Penderfynwch y byddai’n well i chi dorri’r tomato â’r sleis codi tarten neu sleis bysgod. Ceisiwch dorri tafell arall o’r bara ar gyfer ei rhoi ar ben y cyfan a cheisiwch fwyta’r frechdan wedyn.

  3. Holwch y plant beth oedd o’i le ar y ffordd roeddech chi’n paratoi’r frechdan. Y gobaith yw y byddan nhw’n awgrymu eich bod yn defnyddio’r offer anghywir, a dyna pam y gwnaethoch chi’r fath lanast! Eglurwch ein bod yn debycach o wneud rhywbeth yn dda os yw’r offer iawn gennym ni ar gyfer y gwaith. 

    Er enghraifft, fe allwch chi dorri glaswellt â siswrn, ond mae’r pennaeth yn fwy tebygol o roi peiriant torri glaswellt iawn i’r gofalwr er mwyn cadw’r tir o gwmpas yr ysgol yn daclus. All y plant feddwl am enghreifftiau eraill tebyg?

  4. Roedd Iesu’n gwybod, pan fyddai’n mynd y ei ôl at ei Dad i’r nefoedd y byddai ei ffrindiau, y disgyblion y byddai yn eu gadael ar ôl, eisiau help wedyn. Roedd arno eisiau rhoi offeryn cryf i’w helpu i ledaenu’r Newyddion Da am gariad Duw. Roedd yn gwybod y bydden nhw’n ceisio’u gorau ar ben eu hunain i ddweud y neges wrth bobl eraill, ond roedd hefyd yn gwybod pa mor anodd oedd hi i’r Cristnogion cynnar wneud hynny. Roedd yn gwybod na fydden nhw’n ddigon cryf i allu gwneud y gwaith ar ben eu hunain. Fe ddywedodd rywbeth fel hyn wrthyn nhw:

    ‘Arhoswch yn Jerwsalem nes byddaf i’n anfon atoch yr un a addewais i’ch helpu. Fe fydd yn dod â nerth i chi. Fe fydd yn eich arwain i’r holl wirionedd. Fe fydd yn eich tywys. Fe fydd yn eich annog chi. Fe fydd fel yr offeryn y byddwch ei angen ar gyfer y gwaith o fynd â’m neges allan i’r byd.’

  5. Arhosodd y disgyblion, ac ar ddydd y Pentecost fe ddaeth yr Ysbryd Glân atyn nhw. Ar y diwrnod hwnnw, fe gyhoeddodd disgyblion Iesu yn gyntaf neges yr efengyl. Ymunodd cannoedd a miloedd o bobl a glywodd y neges â’r Eglwys Fore, neu’r Eglwys gynnar, ac mae pobl yn parhau i ymuno â’r Eglwys hyd heddiw. 

    Fe allech chi ddweud bod yr Ysbryd Glan yn gweithredu fel yr offeryn neu’r cyfrwng gorau i wneud y gwaith!

Amser i feddwl

Myfyrdod
Ydych chi weithiau angen help i fyw yn y ffordd iawn, i wneud y dewisiadau iawn, ac i fod â’r agwedd gywir tuag at bobl eraill neu tuag at eich gwaith?
Fe anfonodd Iesu un i’n helpu a fyddai gyda ni am byth. Roedd Iesu’n gwybod na allen ni wneud hyn i gyd ar ben ein hunain. Bydd Cristnogion yn galw’r helpwr arbennig yma’n ‘Ysbryd Glân’.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi anfon yr Ysbryd Glân i helpu’r disgyblion cynnar. 
Diolch i ti ei fod fel yr offeryn neu’r cyfrwng perffaith i’w helpu i ledaenu’r Newyddion Da. 
Diolch dy fod ti wedi addo’r help hwnnw i ni hefyd.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon