Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Plany Yr Enfys

Edrych ar sut mae amrywiaeth yn well nac unffurfiaeth.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Edrych ar sut mae amrywiaeth yn well nac unffurfiaeth.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen saith tudalen fawr o bapur, a phob un wedi’i lliwio â lliw gwahanol o saith lliw’r enfys.
  • Llwythwch i lawr y gân ‘I Can Sing a Rainbow’ (cân a ganwyd flynyddoedd yn ôl gan Cilla Black).

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i rai o’r plant ddod ymlaen i ddal y dalennau papur lliw, gan sefyll yma ac acw ar hap.

    Os yw hynny’n bosib, gofynnwch i weddill y plant, fesul dosbarth efallai, ddod i sefyll mewn rhes o flaen eu hoff liw. Rhaid iddyn nhw ddewis un lliw yn unig.

    Neu, fe allech chi ofyn i’r plant bleidleisio ar ba un yw eu hoff liw trwy godi eu dwylo.

  2. A oes rhai o’r plant yn gwisgo dilledyn o’u hoff liw heddiw? Sgwrsiwch am foment am yr hoff liwiau, yna gofynnwch i’r plant (ar wahân i’r rhai sy’n dal y papurau lliw) fynd yn ôl i eistedd.

    Holwch y plant am enghreifftiau o ddillad neu fagiau, neu unrhyw beth arall sydd ganddyn nhw, sy’n dangos eu bod yn hoff o’r lliw hwnnw.

  3. Nawr, holwch y plant, tybed pam rydych chi wedi dewis y lliwiau maen nhw’n eu gweld o’u blaenau - am mai lliwiau’r enfys ydyn nhw. Gosodwch y plant sy’n eich helpu gyda’r lliwiau, mewn trefn gywir yn awr, fel eu bod yn yr un drefn â lliwiau’r enfys.

  4. Beth fyddai’n digwydd pe byddai un o’r lliwiau ar goll neu pe na byddai un o’r lliwiau’n bodoli? 

    Oes rhywun yn gwybod pa liw fyddai gennych chi pe byddech chi’n cymysgu saith lliw’r yma gyda’i gilydd? (Rhyw fath o liw brown tywyll.) 

    Os mai goleuni fyddai’r lliwiau yma, beth fyddai gennych chi wedyn? (Gyda’i gilydd maen nhw’n gwneud golau gwyn, na allwn ni ei weld - y golau rydyn ni’n byw ynddo.)

  5. Yn y Beibl, mae’n nodi bod Duw wedi creu goleuni, a Duw wnaeth y goleuni sy’n ein helpu ni i weld: yr haul a’r lleuad a’r sêr. Mae’r golau sy’n dod o’r haul a’r lleuad yn gymysgedd o’r holl liwiau rydyn ni’n eu gweld. Efallai yr hoffech chi roi munud bach i’r plant feddwl am hyn, gan nad yw’n beth amlwg iawn.

  6. Fe greodd Duw’r golau i gynnwys y gwahanol liwiau, ac fe fydden ni’n colli unrhyw rannau fyddai ddim yno. Fe greodd Duw bob un ohonom ni’n wahanol i’n gilydd hefyd. Bechgyn, genethod, byr a thal, rhai â llygaid glas, gwyrdd neu frown. Duw a wnaeth bob un ohonom ni, ac fe wnaeth bob un ohonom ni’n wahanol.

    Oni fyddai bywyd yn ddiflas pe byddem ni i gyd yr un fath?

Amser i feddwl

Myfyrdod

Chwaraewch y gân gan Cilla Black.

Gadewch i ni feddwl sut rai ydym ni i gyd:
Rhai yn dal, eraill ddim mor dal,
Rhai yn dda mewn chwaraeon, eraill ddim mor dda,
Cyfeillgar, swil,
Siaradus, distaw.
Diolch i ti, Dduw, fy mod i yr un ydw i.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon