Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rydw I'n Teimlo

Archwilio’n teimladau, sut maen nhw’n effeithio arnom ni, a sut y gallwn ni ymdopi â nhw.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Archwilio’n teimladau, sut maen nhw’n effeithio arnom ni, a sut y gallwn ni ymdopi â nhw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen dau siart troi, neu ddwy dudalen fawr o bapur, bwrdd gwyn neu unrhyw ffordd arall er mwyn gallu nodi syniadau’r plant.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant feddwl am eiriau sy’n disgrifio teimladau. Ysgrifennwch y cynigion mewn dwy restr, naill ai ar ddwy dudalen neu trwy rannu’r bwrdd gwyn yn ddwy ran. Peidiwch â dweud dim am y geiriau ar hyn o bryd, na nodi pam rydych chi’n eu gwahanu’n ddwy restr.

    Fe ddylech chi fod â dwy restr debyg i’r rhain:

    Hapus
    Braf
    Cynhyrfus
    Gobeithiol

    Dig
    Trist
    Nerfus
    Ofnus

    … ac ati.

  2. Felly, mae’r rhaniad yn amlwg rhwng y teimladau rheini rydyn ni’n eu hoffi, a’r rhai hynny y byddai’n dda gennym eu hosgoi. Trafodwch y gwahaniaeth yma gyda’r plant, ond pwysleisiwch nad yw ein teimladau mor syml ag a feddyliem ni. Er enghraifft, a yw’n beth da teimlo ychydig yn nerfus cyn cymryd rhan mewn drama, neu chwarae gêm, neu hyd yn oed sefyll arholiad neu brawf? Ydyn ni’n hoffi bod ychydig bach yn ofnus cyn mynd ar reid rollercoaster, mewn ffair neu wrth wylio ffilm arswyd? Mae’n debyg ein bod ni’n dewis gwneud y math yma o bethau oherwydd eu bod nhw’n codi rhywfaint o ofn arnom ni !

  3. Gofynnwch i’r plant am enghreifftiau o sefyllfaoedd sydd wedi arwain at unrhyw un o’r teimladau rydych chi wedi’u rhestru. Gwrandewch ar ambell awgrym a gwerthfawrogwch gyfraniad y plant.

  4. Tynnwch sylw’r plant at y ffaith eu bod, wrth sôn am eu profiadau, wedi dweud pethau fel ‘Roedd yn gwneud i mi deimlo’n ...’ neu ‘Roeddwn i’n teimlo’n ....’  Mae hyn yn dangos i ni ein bod yn gallu meddwl am ein teimladau yn ogystal â’u cael. Mae hyn yn golygu nad yw’n rhaid i ni adael i’n teimladau ein trechu na dylanwadu ar beth fyddwn ni’n ei wneud. 

    Felly, os byddwn ni’n teimlo dicter, rhaid i ni ddysgu sefyll yn ôl oddi wrth y teimlad, a dweud wrthym ni’n hunain yn ein meddwl, ‘Rydw i’n teimlo’n ddig’. Mae hynny’n well na dweud ‘Rydw i’n ddig.’ Er eich bod yn teimlo dicter, nid yw hynny’n golygu eich bod yn gadael i’ch teimladau eich meddiannu’n llwyr - nid dicter yw’r cyfan ohonoch chi.

  5. Eglurwch fod hyn yn beth anodd iawn i’w wneud - hyd yn oed i oedolion - ond yr hyn sy’n bwysig yw dweud, er enghraifft, ‘Rydw i’n teimlo’n ddig’, ac nid, ‘Rydw i’n ddig’. Fe allai hyn eich helpu i reoli’ch teimladau.

Amser i feddwl

Pan fydd pethau’n mynd yn dda, a ninnau’n gytûn i gyd,
Mae’n braf cael mwynhau’r teimlad hapus, a bod yn fodlon fy myd.

Ond pan fydd pobl yn fy ngwneud i’n ddig, fe alla i ddechrau gwylltio.
Fe all teimladau o ddicter fy ngorchfygu a’m ffyrnigo,
Fy ngwneud yn gynddeiriog ac i anobeithio.

Er hynny, os ceisiaf, fe allaf gadw’r teimladau yn eu lle.
Does dim rhaid i mi golli fy nhymer a gwylltio,
Dim ond teimladau ydi’r rhain,
Nid dyna ydw i,
Dim y NHW ydw I.
Dim ond pethau ydyn nhw yr ydw i’n eu teimlo.

Gweddi
Diolch i ti am yr holl wahanol emosiynau y byddwn ni’n eu teimlo,
a diolch bod lle iddyn nhw i gyd.
Mae’n iawn i ni fod yn ofnus os byddwn ni mewn perygl.
Mae’n wych bod yn hapus pan fyddwn ni’n gallu.
Helpa ni i reoli ein teimladau drwg
a helpa ni i beidio gadael i deimladau drwg ein llethu ni.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon