Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Maddeuant

Annog pawb i faddau pan fyddwn ni’n teimlo ein bod wedi cael cam.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Annog pawb i faddau pan fyddwn ni’n teimlo ein bod wedi cael cam.

Paratoad a Deunyddiau

  • Does dim angen deunyddiau ychwanegol.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch eich bod chi am adrodd stori i’r plant.

    Roedd Owain wrth ei fodd yn cael mynd i chwarae gyda’i ffrind, Ifan. Roedden nhw’n mwynhau cwmni ei gilydd, ac fe fydden nhw’n cael llawer o hwyl yn chwarae pêl-droed ac y gwneud pob math o bethau eraill. Un diwrnod, roedd y ddau yn chwarae yn yr ardd gyda’r awyren fach oedd gan Ifan. Gofynnodd Owain a allai gael cyfle i weithio’r awyren, ac fe gytunodd Ifan ar unwaith. 

    Hedfanodd yr awyren fach yn uchel i’r awyr, ac Owain yn ei llywio. Fe hedfanodd mewn cylchoedd gan droi a throsi. Roedd Owain wrth ei fodd. Ond, yn sydyn, fe ddechreuodd yr awyren duchan a thagu, ac fe saethodd ar ei hunion tua’r ddaear. Wrth daro’r llawr torrodd blaen yr awyren ac un o’i hadenydd hefyd. 

    Cododd Ifan y darnau. Roedd yn gynddeiriog. ‘Dy fai di yw hyn!’ gwaeddodd ar Owain. ‘Dydw i ddim eisiau chwarae efo ti byth eto.’ 

    Roedd Owain yn gofidio’n fawr. ‘Sori,’ meddai. ‘Wnes i ddim gwneud yn fwriadol. Dydw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd!’ 

    Yna, fe welodd Ifan bêl-droed Owain ar y lawnt. Rhedodd ati a rhoi cic uchel iddi dros ffens yr ardd tua’r ffordd, ac fe laniodd yn llwybr lori fawr oedd yn mynd heibio. 

    Edrychodd Owain dros y ffens i’r ffordd a gwelodd ei bêl newydd wedi’i fflatio gan y lori. ‘O! Edrych beth rwyt ti wedi’i wneud,’ meddai wrth Ifan. ‘Dy fai di yw hyn. Dydw i ddim eisiau chwarae efo ti, na bod yn ffrindiau efo ti, byth eto.’ 

    Nawr roedd Ifan yn drist. Roedd yn gwybod ei fod wedi gwneud rhywbeth oedd ddim yn iawn, ond roedd yn ddig am fod ei awyren yn ddarnau.

    Aeth rhai dyddiau heibio, a doedd yr un o’r ddau fachgen wedi gwneud unrhyw ymdrech i gysylltu â’i gilydd. Fe lwyddodd tad Ifan i drwsio’r awyren, ac fe brynodd tad Owain bêl newydd iddo yntau. Ond doedd yr un o’r ddau fachgen yn hollol hapus, ddim fel roedden nhw o’r blaen, ac roedden nhw’n gweld colli cwmni’r naill a’r llall. Eisteddodd Owain ar y fainc yng ngardd ei gartref yn teimlo’n unig. Roedd yn drist am ei fod wedi difetha awyren Ifan, ond yr oedd yr un mor drist am nad oedd Ifan yn barod i faddau iddo. Ond ar yr un pryd ni allai faddau i Ifan am gicio’i bel i’r ffordd.

    Gallai tad Owain weld pa mor drist yr oedd. Roedd ei dad yn gwybod beth oedd wedi digwydd. ‘Wyddost ti be,’ meddai wrth Owain, ‘fe fyddech chi’ch dau’n llawer hapusach pe byddech chi’n maddau i’r naill a’r llall, a bod yn ffrindiau unwaith eto.’  

    Roedd Owain yn sylweddoli gymaint yr oedd yn dyheu am fod yn ffrindiau ag Ifan eto, ac fe ddywedodd wrth ei dad, ‘Fe af i weld Ifan.’ Cytunodd ei dad, ac fel roedd Owain yn mynd at y giât, pwy oedd yno ond Ifan. Roedd Owain yn falch iawn o weld ei ffrind.

    ‘Rydw i eisiau maddau i ti am dorri fy awyren i,’ meddai Ifan. ‘A, plîs, wnei di faddau i mi am gicio dy bêl di o dan y lori,’ ychwanegodd. 

    Fe sylweddolodd y ddau fod eu cyfeillgarwch yn bwysicach nag awyren a phêl-droed. Ac fe wnaeth y ddau fachgen ysgwyd llaw. Wedyn, roedden nhw’n hapus ac yn ffrindiau gorau unwaith eto.

  2. Efallai yr hoffech chi drafod y stori gyda’ch cynulleidfa. Pwysleisiwch nad yw bob tro yn hawdd maddau i bobl sy’n gwneud cam â ni.

    Mae maddau yn helpu ffrindiau i fod yn gyfeillgar eto.
    Mae maddau i bobl eraill yn gwneud i ni deimlo’n hapusach.

    ‘Byddwch yn dirion wrth eich gilydd; yn dyner eich calon, yn maddau i’ch gilydd fel y maddeuodd Duw yng Nghrist i chwi.’ (Effesiaid 4.32)

Amser i feddwl

Gadewch i ni ddweud, gyda’n gilydd, y weddi a ddysgodd Iesu i ni: Gweddi’r Arglwydd.

“Ein Tad, ....”

Yn y weddi, rydyn ni’n cael ein hatgoffa bod eisiau i ni faddau: ‘Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.’

Mae hyn yn golygu, pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn, fe ddylen ni ofyn am faddeuant. Ac fe ddylen ni ddysgu maddau i bobl eraill pan fyddan nhw’n gwneud rhywbeth i ni sy’n  peri gofid i ni.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon