Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gwyfynod

Dangos, er bod rhai pethau y mae’n bosib eu difetha, mae rhai pethau eraill nad yw’n bosib eu dinistrio.

gan Jan Edmunds

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Dangos, er bod rhai pethau y mae’n bosib eu difetha, mae rhai pethau eraill nad yw’n bosib eu dinistrio.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n ddefnyddiol pe gallech chi ddod o hyd i ddilledyn, neu ddarn o ddefnydd, sydd wedi’i ddifrodi gan wyfynod.
  • Fe fydd arnoch chi angen 6 darn o gerdyn maint A4, a phob un yn dangos un llythyren bob un o’r gair GWYFYN.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i chwech o blant ddod atoch chi i’r tu blaen. Rhowch gerdyn i bob un. Gofynnwch i’r un sydd â’r llythyren G ddal y cerdyn i fyny, ac adrodd y llinell sy’n cyd-fynd â’r llythyren fel mae’r cerdyn yn cael ei godi. Yna’r gweddill i wneud yr un fath yn eu tro, gan raddol adeiladu’r gair cyfan.

    G - Gwlân yw defnydd rhai blancedi a chotiau.
    W - I rai gwyfynod, dyma’r lle gorau i ddodwy yr wyau.
    Y - Yna, fe fydd y larfae bach ddaw allan yn ysu am rywbeth yn eu boliau.
    F - Fe wnân nhw fwyta’r defnydd a’i falu’n dyllau!
    Y - Ystyr ‘ysu’ yw blysio rhywbeth, mae hefyd yn golygu dinistrio neu ddifa.
    N - Nawr mae’r gwyfyn wrth gnoi pethau fel hyn yn eu niweidio a’u difetha.

    (Gyda’r frawddeg olaf hon gall rhywun arall ddal i fyny yr eitem sydd gennych chi â thyllau ynddi.) Ydi, mae ein llythrennau’n sillafu’r enw GWYFYN. Eglurwch i’r plant nad oeddech chi’n ymwybodol fod yr eitem sy’n cael ei dangos wedi’i difetha nes i chi fynd i’w defnyddio’n ddiweddar. Gwthiwch eich bysedd trwy’r tyllau i ddangos i’r plant ble mae larfae’r gwyfynod wedi bwyta’r defnydd. Soniwch am eich siom wrth ddarganfod y tyllau, a gweld bod yr eitem wedi difetha.

    Datblygiad dewisol: Mae mor hawdd i bethau gael eu difetha neu eu dinistrio. Gall amgylchiadau tywydd drwg achosi dinistr. Gwahoddwch y plant i awgrymu rhai o’r pethau hyn: daeargryn, corwynt, tswnami, llifogydd, ac ati.

  2. Gall llygredd a sbwriel ddinistrio ein byd. A gall gweithredoedd angharedig, neu rywun yn dweud pethau cas, ddifetha gobeithion pobl. Efallai yr hoffech chi i’r plant awgrymu rhai enghreifftiau o bethau fel hyn, hefyd.

  3. Os yw canolbwynt ein bywydau ni’n rhywbeth sy’n hawdd ei ddifetha, a rhywbeth yn digwydd, yna does gennym ni ddim ar ôl. Yn y Beibl, mae Iesu’n dweud wrth ei ddilynwyr:

    Peidiwch â chasglu ichwi drysorau ar y ddaear, lle mae gwyfyn a rhwd yn difa, a lle mae lladron wedi torri trwodd ac yn lladrata. Casglwch ichwi drysorau yn y nef, lle nad yw gwyfyn na rhwd yn difa, a lle nad yw lladron yn torri trwodd nac yn lladrata. Oherwydd lle mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon. (Mathew 6.19–21) 

    Yr hyn yr oedd Iesu’n ei olygu wrth ddweud peth fel yma yw bod y pethau rydyn ni’n eu gwneud yn ystod ein bywyd, a’r ffordd rydyn ni’n ymddwyn tuag at bobl eraill, yn bwysicach na’r pethau materol sydd gennym ni.

  4. Dangoswch eich eitem (y got neu’r flanced dyllog) eto. Mae gwyfynod wedi gwneud rhywbeth i hon, rhywbeth sy’n golygu ei bod wedi difetha.

    Yn ein bywyd, wrth i ni fynd yn hyn, mae’r ffordd rydyn ni’n edrych yn newid. Fe fydd rhai pobl yn meddwl nad ydyn nhw’n edrych cystal wrth iddyn nhw heneiddio. Mae rhywbeth newydd yn gallu edrych yn sgleiniog a gwych ar y dechrau, ond gall fynd i edrych yn llwyd a threuliedig ymhen amser. Mae pethau’n gwisgo neu’n treulio, lliwiau’n pylu, a rhai pethau’n pydru. Ac mae eiddo’n difetha.

  5. Yn ffodus, mae rhai pethau na fyddan nhw byth yn gallu cael eu dinistrio neu eu difetha . Ysbryd hapus, natur gyfeillgar, a chalon garedig. Gall gwên syml fod yn beth croesawgar iawn. Dyma bethau sy’n bosib iddyn nhw barhau, a dyma bethau sy’n fwy gwerthfawr nag eiddo materol. Mae’r ffordd y byddwn ni’n trin pobl eraill yn bwysig iawn. Mae bod yn ystyriol, yn amyneddgar ac yn oddefgar tuag at eraill yn drysorau y gallwn ni i gyd eu rhannu yn ein bywyd.

  6. Edrychwch eto ar y cardiau, a gofynnwch i’r plant ail adrodd pob un o’r llinellau ar eich ôl, wedyn diolchwch i’r rhai sydd wedi bod yn eich helpu, a’u hanfon yn ôl i’w lle i eistedd.

Amser i feddwl

Gweddi
Arglwydd y galon garedig, gwna fy nghalon innau’n un garedig.
Arglwydd y dwylo tyner, gwna fy nwylo innau’n rhai tyner.
Arglwydd y traed parod a bodlon, gwna fy rhai innau’n barod a bodlon,
fel y gallaf dyfu’n debycach i ti ym mhob peth y byddaf i yn ei ddweud a’i wneud.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon