Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ein Byd A'r Greadigaeth

Dweud stori’r creu, ac annog pawb i ofalu am ein byd.

gan Melanie Glover

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 1

Nodau / Amcanion

Dweud stori’r creu, ac annog pawb i ofalu am ein byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen hetiau syml i’r plant eu gwisgo: band gyda lluniau clip-art wedi’u styffylu ar y tu blaen, e.e. coed, môr, planhigion, blodau. Tri mwgwd anifail.
  • Paratowch gardiau fflach yn dangos llythrennau sy’n sillafu’r geiriau EIN BYD.

  • Cardiau fflach yn dangos y rhifau o 1 i 7.

  • Beibl.

  • Cerddoriaeth: ‘Watching the Sky’, Trac 1 o’r CD Watching the Sky – Feng Shui for Gardens.

  • Lluniau/ delweddau ar ddarnau o bapur neu gerdyn o’r pethau canlynol: dydd, nos, yr awyr, y tir, coed, planhigion, yr haul, y lleuad, a’r sêr.

  • Darn hir o ddefnydd i gynrychioli’r môr.

  • Dewisol: Paratowch ddawns i ddiweddu’r gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Heddiw, rydyn ni’n mynd i sôn am ein byd rhyfeddol. 

    Dewiswch chwe phlentyn i ddal i fyny y cardiau sy’n sillafu’r geiriau EIN BYD, ac yna fe allwch chi ofyn iddyn nhw eistedd.

  2. Mae Cristnogion yn darllen y Beibl. Daliwch y Beibl i fyny.

    Mae’r Beibl yn dweud wrthym ni sut y gwnaeth Duw greu’r byd. Roedd Duw’n brysur iawn ac fe gymrodd hi saith diwrnod i greu’r byd. 

    Daw plentyn ymlaen gan ddal i fyny y cerdyn â rhif ‘7’ arno, ac yna fe fydd yn eistedd.

    Filoedd ar filoedd o flynyddoedd yn ôl, ymhell cyn dechreuad y byd, roedd popeth yn dywyll a distaw. 

    Chwaraewch y trac cerddoriaeth ‘Watching the Sky’.

    Doedd dim pobl. Doedd dim adar. Doedd dim anifeiliaid.

    Ac yna fe ddywedodd Duw: ‘Bydded goleuni.’

  3. Fe wnaeth Duw ddydd a nos. Hwn oedd y diwrnod cyntaf. Daliwch i fyny gerdyn rhif ‘1’.

    Daw dau blentyn i’r blaen yn dal delweddau o ‘ddydd’ a ‘nos’.

  4. Yna, fe wnaeth Duw yr awyr. Hwn oedd yr ail ddiwrnod. Daliwch i fyny gerdyn rhif ‘2’.

    Daw plentyn i’r blaen yn dal delwedd o’r ‘awyr’.

  5. Ar y trydydd diwrnod, fe wnaeth Duw y tir a’r môr. Daliwch i fyny gerdyn rhif ‘3’.

    Daw plentyn i’r blaen yn dal delwedd o’r ‘tir’. Bydd dau blentyn yn gafael ym mhob pen y defnydd glas, a’u chwifio i fyny ac i lawr fel tonnau’r môr.

    Hefyd, fe wnaeth Duw y coed a’r planhigion ar y tir.

    Daw dau blentyn i’r blaen yn dal delweddau o ‘goed’ a ‘phlanhigion’.

  6. Ar y pedwerydd diwrnod, fe wnaeth Duw yr haul a’r lleuad a’r sêr. Daliwch i fyny gerdyn rhif ‘4’.

    Daw tri phlentyn i’r blaen yn dal delweddau o’r ‘haul’ y ‘lleuad’ a’r ‘sêr’.

  7. Ar y pumed diwrnod, fe wnaeth Duw yr adar yn yr awyr a’r pysgod yn y môr. Daliwch i fyny gerdyn rhif ‘5’. 

    Daw dau blentyn ymlaen yn cynrychioli aderyn a physgodyn gan symud ar draws y tu blaen. Bydd y ddau blentyn yn gafael ym mhob pen y defnydd glas eto, ac yn ei chwifio i fyny ac i lawr fel tonnau’r môr unwaith eto i wneud ‘tonnau’.

  8. Wedyn, fe wnaeth Duw greaduriaid i fyw ar y tir. 

    Daw tri phlentyn i’r blaen yn gwisgo mygydau anifeiliaid gan bortreadu’r anifeiliaid gan gyfleu eu symudiadau hefyd o bosib – cerdded, neidio, neu unrhyw symudiadau priodol eraill sy’n cyfleu symudiadau’r anifeiliaid neilltuol, yn ôl eu ffordd eu hunain!

    Hwn oedd y chweched diwrnod. Daliwch i fyny gerdyn rhif ‘6’.

  9. Ar y seithfed diwrnod, fe gafodd Duw orffwys! Daliwch i fyny gerdyn rhif ‘7’.

    Wel, rwy’n siwr y byddech chithau’n haeddu cael gorffwys ar ôl yr holl waith caled yna, ydych chi’n cytuno?

Amser i feddwl

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am y byd hardd rwyt ti wedi’i greu.
Helpa ni i garu’r byd ac i ofalu amdano fel y gwnest ti wrth ei greu. 
Gad i ni beidio â’i ddifetha trwy ollwng sbwriel, a helpa ni i ofalu am ein gilydd.
Yn dy enw di,
Amen.

Fe allech chi drefnu bod grwp o blant yn cyflwyno dawns gan ddefnyddio’r gerddoriaeth ar y trac ‘Watching the Sky’, y gwnaethoch chi ei chwarae’n gynharach.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon