Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

The Earth: Our home

Helpu’r plant i ddeall traweffaith hanesyddol glaniad cyntaf dyn ar y lleuad, a helpu’r plant i werthfawrogi harddwch y blaned Daear.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 2

Nodau / Amcanion

Helpu’r plant i ddeall traweffaith hanesyddol glaniad cyntaf dyn ar y lleuad, a helpu’r plant i werthfawrogi harddwch y blaned Daear.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant pwy sy’n cofio beth roedden nhw’n ei wneud yr adeg yma wythnos yn ôl? Beth am yr adeg yma flwyddyn yn ôl?

    Eglurwch fod miloedd o bobl yn gallu cofio beth roedden nhw’n ei wneud ar ddiwrnod neilltuol ym mis Gorffennaf, 40 mlynedd yn ôl. Y diwrnod hwnnw oedd yr 20fed o Orffennaf. Mae wedi aros ar eu cof ar hyd y blynyddoedd. Tybed beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw?

  2. Gwrandewch ar ddau ddyfyniad a gofynnwch a oes rhywun yn gallu dyfalu beth oedd yr achlysur (defnyddiwch lais David Heal, o Luxembourg, ac yna lais Christopher Flournoy, o Unol Daleithiau America, y ddau ddyfyniad oddi ar safle we’r BBC On This Day - gwelwch uchod). 

    Os nad oes unrhyw un o’r plant wedi gallu dyfalu beth oedd y digwyddiad, darllenwch linell olaf y dyfyniad diwethaf: ‘He was never more proud of being an American than on the day our flag flew on the moon.’

  3. Dangoswch y clip fideo/ sain o lansiad y llong ofod Apollo 11. Roedd tua 500 miliwn o bobl ledled y byd yn gwylio’r darllediad fideo o’r gofodwyr yn glanio ar y lleuad. Dyma’r gynulleidfa fwyaf erioed hyd yma i wylio unrhyw ddarllediad.

  4. Darllenwch y ddau ddyfyniad arall gan bobl a oedd yn saith oed ar y pryd. (Atgofion JR, o Unol Daleithiau America, ac atgofion Mo, o Brydain, wedyn – o’r un wefan).

  5. Ond beth am yr atgofion o’r gofod, atgofion y gofodwyr eu hunain? Beth welson nhw wrth iddyn nhw edrych yn ôl ar y blaned daear o bellter o filiynau o filltiroedd allan yn y gofod? Roedd pob un ohonyn nhw wedi rhyfeddu at brydferthwch y blaned. Dyma beth welson nhw. Dangoswch y ddelwedd o’r Ddaear ar eich bwrdd gwyn. 

    Gallwch drefnu o flaen llaw i gael rhai plant neu athrawon i ddod ymlaen yn y fan yma i ddarllen y dyfyniad canlynol gan Edgar Mitchell: o’r rhan lle mae’n dweud ‘Suddenly, from behind the rim of the Moon, in long, slow motion moments of immense majesty’ hyd at ‘It takes more than a moment to fully realize this is Earth … home.’

    Ac yna’r dyfyniadau canlynol oddi ar spacequotations.com/orbit.html

    The Earth was absolutely round … I never knew what the word round meant until I saw Earth from space.’ (Alexei Leonov pan gerddodd gyntaf yn y gofod yn 1985)

    The colours are stunning’ hyd at ‘ It’s breathtaking.’ (Willie McCool)

    If somebody had said before the flight’ hyd at ‘I cried.’ (Alan Shepard)

    We came all this way to explore the moon, and the most important thing is that we discovered the earth.’(William Anders)

    My view of our planet was a glimpse of divinity.’ (Edgar Mitchell)

    What was most significant about the lunar voyage’ hyd at ‘that they set eye on the earth.’ (Norman Cousins)

    Now I know why I am here. Not for a closer look at the moon, but to look back at our home, the Earth.’ (Alfred Worden)

  6. (Dewisol) Gwrandewch ar neges y Nadolig o’r gofod yn 1968 pan ddarllenodd y gofodwyr ran o lyfr Genesis, pennod 1.

Amser i feddwl

Myfyrdod
Treuliwch amser byr yn edrych ar y blaned Daear. Allwch chi ddeall beth roedd y gofodwyr yn ei olygu?
Meddyliwch am harddwch y blaned Daear, fel roedden nhw’n ei gweld o’r gofod, a meddyliwch am yr holl bethau rydych chi’n eu gwerthfawrogi wrth gael byw ar y blaned hyfryd hon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Heno, efallai y byddwn ni’n gallu gweld y lleuad unwaith eto.
Diolch mai ti yw’r un a wnaeth y lleuad, a’r un sy’n dal y planedau a’r sêr yn y gofod.
Diolch mai ti yw Duw’r greadigaeth.
Diolch i ti am harddwch y ddaear, a’r awyr a’r bydysawd cyfan.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon