Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhowch Gynnig Arni!

Rhoi cyfle i’r plant ddod i wybod am Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol a’u hannog i ymwneud â rhywbeth o’r newydd.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Gynradd)

Nodau / Amcanion

Rhoi cyfle i’r plant ddod i wybod am Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol a’u hannog i ymwneud â rhywbeth o’r newydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen casgliad o ffotograffau o blant o bob dosbarth yn yr ysgol yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau Addysg Gorfforol. Os yw hynny’n bosib, defnyddiwch fwrdd gwyn rhyngweithiol i arddangos y lluniau wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth.
  • Amrywiaeth o offer chwaraeon, e.e. raced dennis, pêl-droed, cortyn sgipio, cylchyn hwla, trainers.

  • Gofynnwch i rai plant sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i oriau’r ysgol ddod â dilladau neu offer i’w harddangos i weddill plant yr ysgol, yn y gwasanaeth, a dangos sut maen nhw’n eu defnyddio, efallai, e.e. mae’n bosib bod rhai yn dawnsio bale neu’n gwneud math arall o ddawnsio, neu’n mynd i ddosbarthiadau karate, neu’n chwarae golff – gorau po fwyaf o amrywiaeth fydd gennych chi!

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r plant nodi beth yw’r gwahanol chwaraeon rydych chi’n eu dangos ar y sgrin. Holwch y plant pwy sy’n hoffi chwaraeon, a phwy sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i oriau ysgol. Pwysleisiwch fod chwaraeon yn golygu pob math o weithgareddau - rhedeg, cerdded, sgipio, nofio, yn ogystal â’r gemau tîm, fel pêl-droed a rownderi, ac ati.

  2. Cyflwynwch y plant sydd wedi cytuno i ddod i sôn am y chwaraeon y maen nhw’n eu gwneud y tu allan i oriau ysgol. Rhowch gyfle iddyn nhw sgwrsio am eu camp, ac arddangos unrhyw beth yr hoffen nhw sy’n gysylltiedig. Rhowch gyfle hefyd i blant eraill eu holi.

  3. Eglurwch i’r plant nad mynd i glybiau neu chwarae gemau tîm yn unig yw chwaraeon. Fe allwch chi ymarfer ar ben eich hun gartref neu ar iard yr ysgol. Dangoswch eich casgliad o offer chwaraeon. Efallai y gallech chi osod her i’r plant, a gweld pwy fyddai’n gallu meddwl am gêm newydd yn defnyddio’r offer ac, o bosib, fe allech chi gyflwyno’r gêm i’r plant eraill yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos.

  4. Dywedwch wrth y plant bod yr wythnos, 29 Mehefin -,3 Gorffennaf  yn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol (National Schools Sports Week). Eglurwch y bydd ysgolion ledled y wlad yn canolbwyntio, yn ystod yr wythnos hon, ar ba mor bwysig yw chwaraeon. Nod yr wythnos yw annog ysgolion i ddathlu’r chwaraeon y byddan nhw’n cymryd rhan ynddyn nhw, ac annog y plant  hefyd i roi cynnig ar un gweithgaredd corfforol newydd yn ystod yr wythnos hon … (yn y gobaith y byddan nhw’n parhau â’r gweithgaredd hwnnw!).

    Mae trefnwyr Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol yn awgrymu y dylai’r plant wneud addewid yn ystod yr wythnos arbennig hon i wneud un gweithgaredd sy’n wahanol i’r hyn maen nhw’n ei wneud fel arfer. Fe allai’r syniadau am addunedau posib gynnwys pethau fel:

    • Gwneud awr ychwanegol o ymarfer yn yr wythnos cyn Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol, yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol ei hun, ac yn ystod yr wythnos ganlynol.
    • Dysgu sut i chwarae gêm Olympaidd neu Baralympig, e.e. gêm pêl foli.
    • Dysgu am wlad sy’n cymryd rhan yn y Chwaraeon Olympaidd neu Barlympig a chyflwyno’r wlad i weddill y dosbarth.
    • Cyflwyno dawns neu berfformiad o unrhyw fath, mewn cyngerdd ar ddiwedd Wythnos Genedlaethol Chwaraeon Ysgol (e.e. gyda chylchynnau hwla, sgipio, karate ac ati).
    • Cynnal cystadleuaeth ar gyfer dosbarth arall lle bydd gwobrau am chwarae teg.

  5. Atgoffwch y plant fod Duw wedi ein gwneud ni i gyd yn wahanol, pob un ohonom â doniau a galluoedd gwahanol. Er hynny, mae rhyw fath o chwaraeon y gall pob un ohonom eu mwynhau. Nid dim ond y rhai sy’n dda iawn mewn chwaraeon yw’r unig rai sy’n gallu eu mwynhau.

Amser i feddwl

Gadewch i ni ddweud, gyda’n gilydd, y weddi a ddysgodd Iesu i ni: Gweddi’r Arglwydd.

“Ein Tad, ....”

Yn y weddi, rydyn ni’n cael ein hatgoffa bod eisiau i ni faddau: ‘Maddau i ni ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.’
Mae hyn yn golygu, pan fyddwn ni’n gwneud rhywbeth sydd ddim yn iawn, fe ddylen ni ofyn am faddeuant. Ac fe ddylen ni ddysgu maddau i bobl eraill pan fyddan nhw’n gwneud rhywbeth i ni sy’n  peri gofid i ni.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon