Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod Yn Fodau Dynol

Meddwl am yr hyn sy’n debyg rhwng pawb ohonom, yn hytrach na’r gwahaniaethau.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Meddwl am yr hyn sy’n debyg rhwng pawb ohonom, yn hytrach na’r gwahaniaethau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ar gyfer y dyfyniad, fe fyddwch chi angen copi o The Cambridge Companion to Feminist Theology, ed. Susan Frank Parsons (Cambridge University Press, 2002); mae’r dyfyniad gan Denise Ackermann, yn dechrau ar dudalen 36, llinell 26.

Gwasanaeth

  1. Rwy’n mynd i ddechrau’r gwasanaeth hwn gyda dyfyniad.  Byddwn yn hoffi i chi wrando arno, a gweld a ydych chi’n gallu deall beth sy’n cael ei ddweud.

    Darllenwch y dyfyniad, gan ddechrau gyda’r geiriau: ‘The practice of mutual relationship’ a gorffen gyda’r geiriau ‘Only when we see ourselves in each other are we fully human.’

  2. Dechrau trwm i wasanaeth bore ’ma, rwy’n cytuno, ond darn sydd â llawer i ddweud wrthym ni: rhywbeth eithaf dwfn, a rhywbeth y gall pawb ohonom ddysgu ohono.  Daw’r dyfyniad hwn gan ddynes o’r enw Denise Ackermann, diwinydd o Dde Affrica sydd wedi siarad yn gyson yn erbyn apartheid.  Yn y darn hwn, mae llif gwirioneddol rhwng yr hunan a’r llall.  Nawr, fe fyddwn i’n hoffi i chi droi at yr un sydd y drws nesaf i chi, neu sydd agosaf atoch chi.

  3. Mae rhan gyntaf y dyfyniad yn gofyn i chi ‘edrych’ ar wyneb rhywun arall.  Peidiwch â chymryd cipolwg yn unig, gan wneud ystumiau ac edrych ar rywbeth arall, nac edrych heibio iddyn nhw, neu edrych ar y llawr. Edrychwch ar nodweddion yr unigolyn, eu llygaid, eu trwyn, y ffordd y mae eu gwallt yn syrthio, siâp eu hwyneb, pa un ai a ydi eu clustiau yn y golwg ai peidio.  Ydyn nhw’n gwisgo sbectol? 

    Pa mor aml fyddwn ni’n cymryd amser i edrych ar ein gilydd?  Allech chi ddweud beth yw lliw llygaid eich cariad, er enghraifft? 

    Nawr, yn sydyn, edrychwch pa debygrwydd sydd rhwng eich wyneb chi ac wyneb yr un sydd nesaf atoch chi.  Byddwn yn dychmygu fod mwy o bethau sy’n debyg na’r hyn sy’n dra gwahanol.

  4. Mae Cristnogion, Iddewon a Mwslimiaid i gyd yn credu fod bodau dynol yn cael eu creu ar ddelw Duw, sy’n cael ei adleisio yn y dyfyniad sy’n dweud ‘we both reflect something of the image of God’.  Y syniad yw mai Duw wnaeth ein creu ni, a rhoi ychydig ohono ‘ef ei hunan’ y tu mewn i ni.  Os ydym yn dychmygu fod Duw yn debyg i ni, mae’n ei wneud o’n haws ei ddeall ac yn fwy hygyrch i ni.  Mae’n ddiau ein bod ni’n arbennig, ac mae’r ffaith fod bywyd yn sanctaidd - gan mai Duw a’i rhoddodd - yn bwysig i ddilynwyr y crefyddau hynny.  Yr hyn sydd hefyd yn bwysig yw’r ffaith ein bod ni i gyd yn adlewyrchiad o’r un peth.

  5. Dywedodd y bardd John Donne nad oes unrhyw un yn ynys - ‘no man is an island’, ac na allwn ni fyw ar ein pen ein hunain am byth.  Fel mae Denise Ackermann yn dweud, ‘I am not complete unto myself’.  Rydym angen pobl eraill i’n gwneud ni’n gyflawn. Ac yn y ffilm Jerry Maguire, mae cymeriad Renee Zellweger yn dweud, ‘You complete me’. 

    Mae unigolion angen pobl eraill; rydym angen perthynas gyda phobl er mwyn bod yn gyfan gwbl ddynol.  Roedd gan hyd yn oed feudwyon a oedd yn chwilio am lefydd lle gallen nhw fod ar eu pen eu hunain, fel Tadau’r Anialwch neu’r mynachod Celtaidd, yn dibynnu ar ganolbwyntio ar eu perthynas â Duw.  Dyna oedd eu ffordd nhw o geisio gweld eu lle a gweld eu hadlewyrchiad yn Nuw.

  6. Yr hyn y mae’r geiriau hyn yn ceisio ei ddweud wrthym ni yw bod yr hyn sydd gennym yn gyffredin a’r hyn sy’n debyg yn ein natur ni yn fwy na’r hyn sy’n wahanol.  Yn nrama Shakespeare, The Merchant of Venice, mae Shylock yn gwneud y pwynt hwn, hefyd: 

    ‘I am a Jew. Hath not a Jew eyes? Hath not a Jew hands, organs, dimensions, senses, affections, passions, fed with the same food, hurt with the same weapons … If you prick us, do we not bleed? If you tickle us, do we not laugh?’   

    Dyma gyfieithiad Cymraeg o’r dyfyniad allan o’r ddrama Marsiandwr Fenis, Cyfieithiad J. T.  Jones, Ty ar y Graig, 1969.

    ‘Iddew ydwyf.  Onid oes gan Iddew lygaid?  Onid oes gan Iddew ddwylo, aelodau, synhwyrau, teimladau a nwydau?  Onis porthir ag ymborth, onis clwyfir ag arfau... Os clwyfwch ni, oni waedwn?  Os ogleisiwch ni, oni chwarddwn?’

    Yr hyn sy’n cael ei ddweud yma yw ein bod ni’r un peth â’n gilydd yn y bôn.  Meddyliwch am yr unigolyn roeddech chi’n edrych arnyn nhw’n gynharach, neu meddyliwch am rywun o hil, rhyw, diwylliant, gwlad neu gefndir gwahanol.  Nid oes gwahaniaethau o ddifrif. Mae pawb ohonom yn ddynol.

Amser i feddwl

Fe allwch chi ddefnyddio’r darn isod fel myfyrdod neu weddi.

‘Chi ydi fy nrych i.  Fi ydi eich drych chi.  Dim ond pan fyddwn ni’n gweld ein gilydd y byddwn ni’n wirioneddol ddynol.’

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2009    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon