Y Nadolig
Ystyried y ffaith nad yw’r Nadolig o reidrwydd yn gyfnod hapus i bawb, ond bod genedigaeth Iesu yn rhoi gobaith i Gristnogion ac i bobl eraill.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5
Nodau / Amcanion
Ystyried y ffaith nad yw’r Nadolig o reidrwydd yn gyfnod hapus i bawb, ond bod genedigaeth Iesu yn rhoi gobaith i Gristnogion ac i bobl eraill.
Paratoad a Deunyddiau
- Byddwch angen cerddoriaeth addas ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’, fel ‘Peace on Earth’ gan U2, neu garol draddodiadol fel ‘Dawel Nos’.
- Fe fydd arnoch chi angen cannwyll hefyd.
Gwasanaeth
- Rwy’n siwr fod llawer ohonoch yn edrych ymlaen o ddifrif at y Nadolig. Rydych chi’n cyfrif y dyddiau ar eich calendar Adfent. Rydych chi wedi llunio eich rhestr ar gyfer eich anrhegion ac wedi ei dosbarthu ymysg y rhai fyddai o bosib am weld copi ohoni, ac rydych chi’n brysur yn meddwl am beth y byddwch chi’n ei brynu i’ch ffrindiau a’ch teulu. Rydych chi’n edrych ymlaen hefyd at ddiwedd y tymor, ac at y gwyliau. Rydych chi’n edrych ymlaen at gael treulio tipyn o amser gyda’ch teulu, a mwynhau cael ymlacio a chael egwyl. Mae gennych chi i gyd, mae’n siwr, eich cynlluniau a’ch traddodiadau hefyd ar gyfer dydd Nadolig, a naill ai fe fyddwch chi’n edrych ymlaen atyn nhw neu’n poeni a fydd Nain wedi cael diferyn gormod o sieri cyn cinio!
- Tybed a oes rhai ohonoch chi yma sydd ddim yn edrych ymlaen gymaint â hynny at y Nadolig? Peidiwch â phoeni, dydw i ddim yn mynd i ofyn i chi godi eich llaw, ond ydych chi’n casáu meddwl am dymor y dathlu? Peidiwch â meddwl mai chi ydi’r unig un, oherwydd yn sicr ddigon dydych chi ddim. Efallai eich bod yn gorfod dewis at bwy yr ewch chi i dreulio’r Nadolig eleni. Ydych chi’n ei dreulio gyda Mam neu gyda Dad? Ond efallai y bydd un ohonyn nhw’n gofidio, a dydych chi ddim am i hynny ddigwydd. Efallai eich bod wedi colli rhywun annwyl yn ddiweddar, ac y byddwch yn gwybod na fydd y Nadolig hwn yr un fath, oherwydd na fyddan nhw yno i ddathlu gyda chi. A yw’n bosib efallai bod eich teulu yn ffraeo ymysg ei gilydd dros gyfnod y Nadolig?
- Does ond rhaid i chi edrych ar rifynnau’r Nadolig o’r operâu sebon i weld y gall llawer o bethau fynd o chwith dros gyfnod y Nadolig. Os oes yna gyfrinach i’w datgelu, yna bydd yn siwr o ddod i’r amlwg dros y Nadolig, a bydd hynny gyda chanlyniadau trychinebus yn aml. Bydd tai’n cael eu llosgi i’r lawr, neu fe fydd damweiniau yn digwydd. Nid yw’r Nadolig, welwch chi, bob amser yn gyfnod hapus i bawb. Wyddoch chi fod y Samariaid, yr elusen sy’n delio â phobl sydd eisiau lladd eu hunain, yn cael eu cyfnod prysuraf ar Ddydd Nadolig? Meddyliwch am bobl sy’n unig, ar y strydoedd. Meddyliwch am y teuluoedd hynny sydd mor dlawd fel na fydd eu plant yn cael ymweliad gan Siôn Corn eleni. Iddyn nhw, ni fydd y Nadolig yn gyfnod hapus. Dwi’n credu y dylen ni ystyried nad cyfnod o ganu carolau a bod yn hapus yw’r Nadolig i rai pobl. Mae yna gyfnodau, i bob un ohonom ni, pan na fydd y Nadolig y gorau y gall fod i ni.
- Dydw i ddim wedi creu darlun fel hwn i’ch gwneud chi deimlo’n annifyr. I’r gwrthwyneb, fe hoffwn ei ddefnyddio i gael sgwrs efo chi am y syniad o obaith sydd ynghlwm wrth gyfnod y Nadolig. Er na fydd pawb yn teimlo hynny, efallai, ond y Nadolig yw’r tymor gobeithiol gorau. Fe allwn ni ddechrau gyda rhywbeth fel, ´Rydw i’n gobeithio y bydd hi’n bwrw eira’. Ond yn y cysyniad hwn, ac yng nghysyniad y Nadolig, fe fydd Cristnogion yn gweld y Geni a dyfodiad Iesu fel rhywbeth i fod yn wirioneddol obeithiol yn ei gylch.
Yn y Beibl, mae Efengyl Ioan yn sôn am bobl mewn tywyllwch. Rwy’n tybio y gallwn ni feddwl am y rhai sy’n unig, y rhai sy’n ddigartref a’r rhai sydd mewn galar, fel y rhai sydd yn y tywyllwch. Caiff Iesu ei ystyried yn oleuni’r byd gan Gristnogion. Rydyn ni i gyd yn gwybod beth mae goleuadau yn ei wneud i dywyllwch: mae goleuadau’n cael gwared â’r tywyllwch. - Roedd Iesu’n arbennig am sawl rheswm, ond mae ei enedigaeth yn fodd i ni gasglu syniadau real am y bobl yr oedd Iesu eisiau dod â gobaith iddyn nhw. Yn gyntaf, cafodd ei eni mewn stabl, nid mewn palas. Mae hyn yn dangos ei fod yn berson cyffredin, nid rhywun na allwn gael mynediad ato. Mewn gwirionedd, mae cael eich geni mewn stabl yn hynod ostyngedig; cofiwch nad oedd lle yn y llety, a doedd neb yn awyddus i helpu. Yr hyn sy’n amlygu gostyngeiddrwydd Iesu yw dyfodiad y bugeiliaid at y preseb. Doedden nhw dim yn bobl gyfoethog neu bwysig, dim ond dynion da a gonest yn gwneud gwaith oedd yn bwysig ond yn wasaidd. Mae’r ddau beth yma â symbolaeth fawr ynghlwm wrthyn nhw. Maen nhw’n dangos bod Iesu wedi dod i’r byd at bawb: y tlawd, y digartref a’r gostyngedig. Mae’n dangos bod y naill unigolyn cyn bwysiced â’r llall, heb wahaniaeth rhwng y tlawd a’r cyfoethog.
- Trwy gydol ei fywyd wedi hynny a’i weinidogaeth, fe dreuliodd Iesu amser yng nghwmni’r rhai oedd yn cael eu hystyried yn alltudion o’u cymdeithas, a’r rhai oedd yn cael eu hystyried yn llai pwysig oherwydd eu diffyg statws. Mae’n bwysig felly ei fod yn dechrau ei fywyd ymysg pobl o’r fath. Felly mae’n cael ei eni mewn stabl ac mae’n cael ei roi i gysgu mewn preseb. Roedd gan ei dad, Joseff, grefft barchus ond crefft gwaith llaw fel saer coed.
Y cyswllt hwn gyda’r bobl hynny sy’n dlawd, neu sydd heb arian neu statws, a ddylai roi gobaith i’r rhai hynny sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw ddim. Mae ganddyn nhw Iesu sy’n sefyll drostyn nhw.
- Beth am y rhai sy’n galaru a’r rhai sydd yn unig? Fe brofodd Iesu unigrwydd ymhellach ymlaen yn ei fywyd, ac er na chyrhaeddodd y doethion tan yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw grybwyll marwolaeth a thristwch a fyddai’n dod i ran Iesu trwy gyfrwng yr anrhegion y gwnaethon nhw ei gyflwyno iddo.
Felly, mae yna obaith i bawb, nid yn unig yn y ffaith bod Cristnogion yn credu bod Duw wedi dewis dod i’r byd fel dyn. Fe ddaeth i brofi’r holl bethau sy’n gwneud ni’n ddynol, ein tristwch, ein galar a’n poen, ond hefyd ein llawenydd a’r amseroedd hapus.
- Mae’r Nadolig yn gyfnod gobeithiol i bawb, a phan fyddwch chi wedi’ch plesio gyda’ch anrhegion, ac yn llawn o dwrci, cofiwch feddwl am funud am un sydd efallai’n unig, am y teulu sydd mwyach ddim yn unedig, ac am y newynog. Cofiwch hefyd am y baban bach yn y preseb, fyddai’n tyfu i fyny yn ddyn, ac a fu farw ar y groes. Y baban bach hwn a ddaeth â gobaith a goleuni i’r rhai oedd heb ddim.
Amser i feddwl
Goleuwch gannwyll a gwrandewch ar y gerddoriaeth.
Meddyliwch am unrhyw un yr ydych yn ei adnabod na fydd, am ba reswm bynnag, ddim yn mwynhau’r Nadolig hwn.
Gofynnwch i Dduw fod yn agos atyn nhw.
Yn awr, penderfynwch pa weithred y gallech chi ei gwneud i helpu’r un hwnnw i fwynhau ei Nadolig yn well.
Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2009 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.