Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

A question of relativism

Archwilio’r cysyniad o berthynoldeb (thema, ‘Dysgu bod gyda’n gilydd’).

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad o berthynoldeb (thema, ‘Dysgu bod gyda’n gilydd’).

Paratoad a Deunyddiau

  • Gallwch ofyn i fyfyriwr gymryd rhan y darllenydd.  

Gwasanaeth

  1. Fel arfer, dydi hi ddim yn anodd gwybod y ffordd iawn o wneud rhywbeth, ond weithiau gall fod yn gymhleth. Enghraifft dda o hyn yw’r enghraifft ganlynol, sydd yn cael ei defnyddio gan athronwyr i amlygu problemau moesol. 

    Darllenydd:  Mae trên, sydd allan o reolaeth, yn cyflymu tuag at gyffordd ar y trac. Ar ei lwybr presennol, bydd yn taro yn erbyn grwp o bobl.  Pe bydd modd i weithwyr y rheilffordd daro switsh yn ddigon cyflym, fe fyddai’n bosib cyfeirio’r trên i gyfeiriad arall, a byddai hynny’n golygu na fyddai ond yn taro un person.  Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith y byddai’r gweithwyr wedi gallu arbed bywydau llawer o bobl, fe fyddai’n rhaid iddyn nhw dderbyn y ffaith eu bod, trwy gymryd y penderfyniad wnaethon nhw, wedi lladd yr unigolyn hwnnw ar y trac arall.  

    Arweinydd:  Mae’r ‘broblem droli’, fel y caiff ei hadnabod, yn enghraifft dda o sefyllfaoedd pan nad oes un ffordd iawn o weithredu. Cafodd y broblem hon ei defnyddio yn y drydedd o’r ffilmiau Matrix, pryd y bu raid i Neo wneud penderfyniad anodd sef naill ai gadael i Trinity farw, neu achub grwp o bobl.  

  2. Mae’r math yma o ddilema wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diweddar gyda thwf mewn aml ddiwylliant. Mae agweddau sy’n bodoli mewn cymdeithas a ffordd o fyw wedi cael eu herio gan draddodiadau, sydd yr un mor hirdymor, sy’n perthyn i bobl sydd wedi cyrraedd y wlad hon yn ddiweddar.  Enghraifft dda o hynny yw cig halal. 

    Mewn rhannau o’r Gorllewin, caiff llawer o anifeiliaid, sydd yn cael eu magu ar gyfer bwyd, eu cadw mewn lleoedd rhad, cyfyng ac yn aml mewn amgylchiadau budr, eu lladd trwy roi sioc drydanol i’w hurtio yn gyntaf ac wedyn rhoi ergyd o wn bollt i’r ymennydd. Does gan y broses hon ddim i’w wneud â chrefydd - mae’r Testament Newydd, er enghraifft, yn cymryd agwedd ysgafn iawn ar faterion sy’n ymwneud â lladd anifeiliaid ar gyfer y gadwyn fwyd - i’r gwrthwyneb, mae’n ymwneud yn gyfan gwbl â gwneud elw.  Mae’r dull o ladd yr anifail gyda’r gorau sydd ar gael yn economaidd, ac ar yr un pryd nid yw’n rhy annynol i godi gwrychyn y rhai sydd yn erbyn y fath beth (er bod llithriadau yn gyffredin).  

  3. Fodd bynnag, nid yw Mwslimiaid yn ddelfrydol yn bwyta cig sydd heb fod yn gig halal. Caiff cig halal (‘wedi ei ganiatáu’) ei gynhyrchu trwy wneud un toriad â chyllell finiog ar draws gwddw’r anifail, gan dorri’r wythïen fawr.  Mae dwy fantais amlwg i hyn.  Yn unol â’r Qur’an, caiff Mwslemiaid eu gwahardd rhag bwyta cig â gwaed ynddo, felly mae un toriad â chyllell ar draws y gwddw yn caniatáu i’r gwaed ddiferu o’r anifail. Yn ail, mae’r dull hwn o ladd yn achosi i’r anifail fynd yn anymwybodol ar unwaith, a thrwy hynny mae’n caniatáu marwolaeth fwy trugarog na’r hyn sy’n digwydd mewn lladd-dai yn y gorllewin. (Mae Iddewon yn bwyta cig kosher, sy’n cael ei ladd mewn dull cyffelyb, oherwydd eu bod hwythau yn cael eu gwahardd rhag bwyta unrhyw beth sydd â gwaed ynddo.)

    Wedi dweud hynny, nid yw pob gwyddonydd a milfeddyg yn cytuno ar hyn.   Mae Cyngor y D.U. ar Les Fferm (UK Farm Welfare Council) wedi gofyn am i’r dull yma o ladd anifail gael ei wahardd, oherwydd ei fod mewn difrif yn achosi i anifail waedu i farwolaeth.

  4. Ni fydd y cyfyng-gyngor hwn – sef a ddylid caniatáu cig halal - yn cael ei ateb yn y cyfnod byr.  Yr hyn sy’n bwysig yw ei fod yn cael ei weld fel rhan fach o ryng-berthnasedd cymunedol. Yn draddodiadol, mae cig sy’n cael ei gynhyrchu yn y gorllewin a chig y Mwslimiaid yn cael ei gynhyrchu gyda’r nod o gyfyngu ar ddioddefaint yr anifail.  Yr hyn sy’n uno'r gwahanol ddiwylliannau yw’r dyngaredd a’r gwedduster cyffredinol tuag at anifeiliaid. Mae’r hanes am sawl dilema foesol sydd heb ei datrys yn tanlinellu’r ffaith bod pob diwylliant yn ymdrechu i wneud yr hyn sy’n iawn. Mae llawer i’w ddysgu oddi wrth y naill a’r llall, ac mae llawer y gallwn gydweithio arno. 

Amser i feddwl

Beth fyddech chi’n ei wneud pe byddech yn wynebu’r cwestiwn o ganiatáu i grwp o bobl farw, neu pe baech chi’n rhan o’r weithred a fyddai’n achosi marwolaeth un person?

A oes meysydd yn eich bywyd pryd yr ydych chi’n coleddu agweddau gwahanol i’ch ffrindiau? Sut rydych chi’n dygymod â’r gwahaniaethau rheiny?

Gweddi
Boed i ni ymdrechu i gyrraedd at ddealltwriaeth.
Boed i ni ymdrechu ar y cyd i gyrraedd at ddaioni.
Boed i ni gydweithio at yr hyn sy’n dderbyniol.
Boed i ni gadw ynghyd y cyfan sydd dda er lles pawb..
Amen.

Cerddoriaeth

Awgrymir y gân ‘Together we stand’ gan David Houston
neu ‘We all stand together’ by Paul McCartney

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon