Blyddyn Newydd. Gobaith Newydd
Ar ddechrau Blwyddyn Newydd, rydyn ni’n ystyried grym gobaith.
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Ar ddechrau Blwyddyn Newydd, rydyn ni’n ystyried grym gobaith.
Paratoad a Deunyddiau
- Does dim angen paratoi unrhyw ddeunyddiau.
Gwasanaeth
- Faint ohonoch chi sydd wedi gwneud Addunedau Blwyddyn Newydd? A faint ohonoch chi sy’n parhau heb dorri’ch addunedau hyd yma? Bob blwyddyn, fe fydd miloedd o bobl yn gwneud addunedau ar y dydd cyntaf o Ionawr. Addunedu i wneud pethau fel:
Mynd ar ddiet
Gwneud y gwaith cartref ar amser
Mynd i redeg bob bore
Rhoi’r gorau i ysmygu.
Mae llawer ohonom yn rhoi’r gorau i’r addunedau ar ôl dim ond ychydig ddyddiau. Fe fydd rhai yn cadw atyn nhw am tua mis efallai, a dim ond rhai pobl sy’n gallu cadw at eu haddunedau am amser hir.
Eto, pan ddaw dydd cyntaf Ionawr heibio y flwyddyn wedyn, fe fyddwn ni’n gwneud addunedau newydd eto ac eto. Pam rydyn ni’n gwneud hynny tybed?
Gobaith yw hynny. Rydyn ni’n gwneud addunedau yn y gobaith y gallwn ni newid, er gwell. Yn gobeithio y bydd gennym ni’r grym y flwyddyn hon i ddal ati a chadw at ein haddunedau. Yn y gobaith y bydd y flwyddyn hon yn wahanol. - Fodd bynnag, wrth i ni wylio’r teledu, neu ddarllen y papurau newydd, mae’n anodd bod â gobaith pan fydd cymaint o bobl o’n cwmpas yn y byd yn colli eu gobaith.
Mae’r dirwasgiad ariannol yn ymddangos fel pe bai’n amhosib ei ddatrys. Mae’r newid yn yr hinsawdd yn ymddangos fel pe bai’n amhosib ei newid yn ôl. Mae’n ymddangos fel petai’n amhosibl atal terfysgaeth. Mae’n ymddangos fel petai’n amhosibl rhwystro teuluoedd rhag chwalu. - Ond mae un unigolyn sy’n ymddangos fel pe na bai wedi colli gobaith. Yr unigolyn hwnnw yw Arlywydd Unol Daleithiau’r America, sef Barack Obama. Yn ei araith ar noson y New Hampshire Primary yn 2008, fe ddywedodd Barrack Obama y geiriau canlynol:
‘We’ve been warned against offering the people of this nation false hope. But in the unlikely story that is America, there has never been anything false about hope. For when we have faced down impossible odds; when we’ve been told that we’re not ready, or that we shouldn’t try, or that we can’t, generations of Americans have responded with a simple creed that sums up the spirit of a people. Yes we can. Yes we can. Yes we can.’
Fe welodd pobl America obaith wedi’i grynhoi yn y geiriau yma. Daeth llawer o bobl, a oedd heb drafferthu cymryd rhan mewn etholiadau o’r blaen, allan i bleidleisio gyda gobaith yn eu calonnau. Mae pobl ledled y byd yn parhau i wylio yn y gobaith y daw’r byd yn lle gwell i fyw ynddo gyda Barack Obama yn Arlywydd Unol Daleithiau’r America. Eisoes, mae wedi derbyn gwobr Heddwch Nobel fel cydnabyddiaeth am ba mor bell y mae wedi llwyddo i ddod yn ystod ei flwyddyn gyntaf fel arlywydd, ac rydym yn gwylio’n awr wrth iddo ymgiprys â phroblemau mwy dyrys a delio â phethau anodd iawn sy’n ymwneud â heddwch yn y byd. - Mae ‘gobaith’ yn ganolog i’r ffydd Gristnogol. Dyma rai adnodau o’r Beibl sy’n sôn am obaith, maen nhw’n adnodau y gallwn ni dreulio ychydig funudau’n meddwl amdanyn nhw:
‘Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid, ac mor gythryblus o’m mewn! Disgwyliaf wrth Dduw, oherwydd eto moliannaf ef, fy Ngwaredydd a’m Duw.’ (Salm 42.5)
‘Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.’ (Rhufeiniaid 12.12)
‘Y mae’r gobaith hwn gennym fel angor i’n bywyd, un diogel a chadarn, ac un sy’n mynd trwodd i’r tu mewn i’r llen.’ (Hebreaid 6.19)
Mae bod â gobaith yn Nuw wedi helpu Cristnogion trwy gydol yr oesoedd wrth iddyn nhw gael eu herlid a byw mewn tlodi a dioddefaint. Mae bod â gobaith yn Nuw yn helpu Cristnogion heddiw wrth iddyn nhw ddioddef salwch, profedigaeth a phryder.
Amser i feddwl
Gadewch i ni feddwl am obaith wrth i’r gwasanaeth hwn heddiw ddod i ben.
Gadewch i obaith fod y peth hwnnw sy’n gwneud i ni godi yn y bore.
Gadewch i obaith fod y peth hwnnw sy’n gwneud i ni ymestyn at eraill mewn cyfeillgarwch a chariad.
Gadewch i obaith fod y peth hwnnw sy’n gwneud i ni wneud yr hyn a allwn ni er mwyn gwneud y byd yn lle gwell i fyw ynddo.
Gadewch i obaith fod y peth hwnnw sy’n gwneud i ni ddod o hyd i ffordd trwy ddioddefaint.
Gadewch i obaith fod y peth hwnnw sy’n gwneud i ni ddod â gobaith i bobl eraill sy’n byw mewn anobaith.
Gadewch i obaith fod y peth hwnnw sy’n ein gwneud i ni y rhai ydym ni.
Gadewch i obaith fod.
Cerddoriaeth
Awgrymir gwrando ar ‘Let there be peace on earth’ (http://www.lyricsmode.com/lyrics/v/vince_gill/let_there_be_peace_on_earth.html)