Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Meddwl am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Meddwl am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Paratoad a Deunyddiau

  • Yn y flwyddyn 2010, mae’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn dechrau ar 14 Chwefror.

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi’r gwaith gyda dau ddarllenydd.

  • Mae delweddau ardderchog o’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ar Google Images (Chinese New Year).

Gwasanaeth

  1. Rydyn ni’n mynd i siarad ychydig o Tsieinëeg heddiw. Gadewch i ni ddweud gyda’n gilydd: ‘Gung hei fat choi!’ Nawr, trowch at yr un sydd agosaf atoch chi a dywedwch hyn eto: ‘Gung hei fat choi!’ 

    Beth ydych chi’n feddwl ydyn ni’n ei ddweud wrth ein gilydd? Derbyniwch gynigion os oes rhywun yn barod i ddyfalu’r ateb. Mae’n golygu Blwyddyn Newydd Dda yn yr iaith Tsieinëeg, ac ar 14 Chwefror eleni fe fydd pobl yn Tsieina, a rhai sydd o gefndir Tsieinëeg ledled y byd yn dymuno ‘Gung hei fat choi!’ i’w gilydd.

  2. Felly, beth sy’n digwydd yn ystod yr wyl bwysig yma? Os gwrandewch chi, fe fydd [enwch y ddau ddarllenydd] yn dweud rhywfaint wrthych chi am y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

    Darllenydd 1:  Caiff y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ei galw hefyd yn Wyl y Gwanwyn, a dyma’r dathliad pwysicaf yn y calendr Tsieineaidd. Mae gwyl y gwanwyn yn dathlu dechrau bywyd newydd a’r tymor o droi’r tir a phlannu hadau. Amaethyddiaeth yw sector economaidd bwysicaf gwlad Tsieina <http://en.wikipedia.org/wiki/China>, yn cyflogi dros 300 miliwn o bobl. 

    Tsieina yw’r wlad sy’n cynhyrchu mwyaf ledled y byd o gynnyrch amaethyddol, yn bennaf yn cynhyrchu reis http://en.wikipedia.org/wiki/Rice, gwenith http://en.wikipedia.org/wiki/Wheat , tatws http://en.wikipedia.org/wiki/Potato yn ogystal â phethau fel cnau daear http://en.wikipedia.org/wiki/Peanut, te http://en.wikipedia.org/wiki/Tea, milet http://en.wikipedia.org/wiki/Millet, barlys http://en.wikipedia.org/wiki/Barley, cotwm http://en.wikipedia.org/wiki/Cotton, hadau olew http://en.wikipedia.org/wiki/Oilseed, porc http://en.wikipedia.org/wiki/Pork a physgod. Dyna beth sy’n gwneud yr wyl yn bwysig iawn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, mae’r wyl llawn gobaith i lawer iawn o bobl. 

    Darllenydd 2:  Fe fydd y dathliadau blwyddyn newydd yn dechrau ar y diwrnod cyntaf o fis y lleuad (lleuad newydd), ac yn parhau am bythefnos nes bydd y lleuad yn llawn. Eleni, fe fydd yn ddechrau ar 14 Chwefror. Bydd yr wythnos gyntaf yn cael ei dathlu trwy ymweld â ffrindiau ac aelodau’r teulu, ac fe fydd pawb yn dilyn traddodiadau neilltuol er mwyn dod â lwc dda i’r teulu am y flwyddyn sydd i ddod. 

    Darllenydd 1:  Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yw gwyl hynaf y Tsieineaid, ac mae nifer o draddodiadau’n gysylltiedig â hi. Er enghraifft, cyn dechrau’r dathlu, fe fydd y Tsieineaid yn glanhau eu cartrefi er mwyn ysgubo i ffwrdd unrhyw anlwc. Ar y noson cyn y flwyddyn newydd, fe fydd pob brwsh llawr a brwsh bach a rhaw lwch yn cael eu rhoi i gadw ac ni fydd rhagor o lanhau am y tro rhag i’r lwc dda gael ei hysgubo i ffwrdd. Dyma ffordd dda o groesawu’r lwc dda ar gyfer y flwyddyn sydd o’u blaen.

    Darllenydd 2:  Yn union fel y byddwn ni’n gwneud yn ystod cyfnod y Nadolig, caiff y tai eu haddurno, yn aml â sgroliau papur sy’n arddangos brawddegau’n gysylltiedig â lwc dda, er enghraifft  ‘Llwyddiant’ a ‘Hapusrwydd’. Mae’n dangos gobaith am lwc dda ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i chi eich hun yn ogystal ag i’ch teulu a’ch ffrindiau. Ac eto, fel gyda gwyliau eraill, fe ddaw teuluoedd ynghyd i ddathlu ac i gael pryd o fwyd gyda’i gilydd. Fe fydd y bobl yn aros ar eu traed tan hanner nos ac yn tanio tân gwyllt er mwyn dychryn unrhyw ysbrydion drwg i ffwrdd. 

    Mae coch yn lliw pwysig ar yr adeg yma gan fod y lliw coch yn cynrychioli tân , tân a fydd yn cadw draw unrhyw ysbrydion drwg a allai wneud niwed i bobl yn ystod y flwyddyn sy’n dod. Efallai y bydd rhai pobl yn gwisgo o’u corun i’w sawdl mewn gwisg goch newydd sbon. Ar fore’r flwyddyn newydd, fe fydd y plant yn deffro ac yn gweld amlen goch o dan y gobennydd yn llawn arian a melysion, wedi ei gadael yno gan eu rhieni neu eu neiniau a’u teidiau. Mae’n siwr ei bod yn dipyn o gamp dal heb gael cip sydyn ar beth sydd yn yr amlen!

    Darllenydd 1:  Daw’r ail wythnos i ben gyda gwyl y llusernau, dathliad sy’n cael ei gynnal gyda’r nos ar noson olaf yr wyl. Yn aml, fe fydd y llusernau wedi eu paentio â llaw gyda golygfeydd allan o chwedlau neu hanes. Fe fydd y bobl yn hongian y llusernau wedi’u goleuo yn ffenestri eu tai, ac yn eu cario allan yng ngolau’r lleuad lawn. Yn aml, fe fyddan nhw’n dawnsio dawns y ddraig gyda draig wedi’i gwneud o bapur, deunydd sidan, a phren bambw. Caiff y ddraig ei dal i fyny a’i chario o gwmpas gan wyr ifanc, ac fe fyddan nhw’n casglu arian yn ystod y ddawns. 

    Darllenydd 2:  Mewn rhai gwledydd, yn arbennig felly ym Mhrydain, nid yw’r dathlu yn parhau am bythefnos, a chaiff gwyl y llusernau ei dathlu ar ddiwrnod cyntaf dathliadau’r flwyddyn newydd. Fe fydd y bobl yn gorymdeithio gyda llusernau lliwgar a dreigiau’n dawnsio. Y prif fannau ym Mhrydain lle bydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yw Newcastle, Manceinion, Birmingham ac yn arbennig Llundain, lle cynhelir dathliad mawr iawn yn Sgwâr Trafalgar.

  3. Felly, fel y gwelwch chi, mae’r dathliadau yma a’r dymuniadau da ar gyfer y flwyddyn newydd i raddau yn ddigon tebyg i’n dathliadau ni ar Ionawr y cyntaf. Ond fe hoffwn i ddeffro ar fore’r pedwerydd ar ddeg o Chwefror hefyd a chanfod arian mewn amlen o dan fy ngobennydd! Ac un peth arall, mae’r Tsieineaid yn rhoi sylw mawr i astroleg ac arwyddion y sidydd. Mae’r Sidydd Tsieineaidd yn gylch 12 mlynedd, gydag anifail gwahanol ar gyfer pob blwyddyn. Y 12 anifail gwreiddiol yw: llygoden fawr, bustach, teigr, cwningen, draig, neidr, ceffyl, hwrdd, mwnci, ceiliog, ci, a mochyn. Felly, mae gennych chi flwyddyn y bustach, y teigr, y ceiliog a blwyddyn y llygoden fawr. Beth am i chi geisio canfod blwyddyn pa anifail oedd hi  pan gawsoch chi eich geni, a gweld a oes unrhyw nodweddion y maen nhw’n ei gysylltu â’r anifail penodol hwnnw yn debyg i nodweddion sy’n gysylltiedig â’ch personoliaeth chi? Efallai y cewch chi eich synnu!

    Ac yn olaf – trowch at bwy bynnag sydd yr ochr arall i chi a dweud wrtho ef neu hi: ‘Gung hei fat choi!’.

Amser i feddwl

Gweddi  
‘Gung hei fat choi’ i bawb ohonom.
Blwyddyn o heddwch a llonyddwch.
Blwyddyn o dyfu mewn amynedd a charedigrwydd,
gan dyfu’n nes at ein ffrindiau, nid pellhau oddi wrth ein gilydd,
a blwyddyn o dangnefedd yn ein byd.
‘Gung hei fat choi’ i bawb ohonom.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2010    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon